Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 18 MEHEFIN 2018 PDF 114 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18 Mehefin, 2018 yn gofnod cywir.
|
|
HAWL DRAMWY GYHOEDDUS - CARDI BACH, WARD LLANBOIDY PDF 187 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i wneud Gorchymyn i gofrestru hawl dramwy gyhoeddus nad oedd wedi'i chofnodi'n flaenorol yng Nghardi Bach, Ward Llanboidy, drwy ei hychwanegu at y Map a'r Datganiad Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd bod gan y Cyngor Sir ddyletswydd statudol i sicrhau bod y Map a'r Datganiad Diffiniol ar gyfer y Sir yn gywir, fel sy'n ofynnol o dan adran 53(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nodwyd bod Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd bellach wedi ymateb i'r ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei gymeradwyo a bod yr Awdurdod yn gwneud y Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol angenrheidiol.
|