Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD - 25 MEHEFIN 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2021 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 38) 2004. Diben y cynnig oedd cyflawni dyletswydd statudol yr awdurdod i sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus ac i wella diogelwch ffyrdd. Nodwyd y lleoliadau yn Llanelli yn yr amserlen arfaethedig a'r cynlluniau a atodir i'r adroddiad.
Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn deg gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ymwneud â phedwar o'r strydoedd a hysbysebwyd.
Ystyriodd yr Aelod Cabinet y cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a dderbyniwyd, sylwadau ac argymhellion y swyddogion a gyflwynwyd fel a ganlyn:-
· Lôn Penyrheol, Llanelli; · Marchnad Dan Do Llanelli, Llanelli; · Min y Môr, Llanelli; · Heol Bres, Llanelli.
PENDERFYNWYD:
3.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 3.2 cymeradwyo argymhellion 2.1, 2.2, 2.3, a 2.4 fel y nodir yn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor i wneud Gorchymyn i ddiwygio:-
· Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 39) 2021 a
· Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanelli) Ardal Barcio Arbennig (Preswyl) Mannau Parcio (Gorchymyn Amrywio Rhif 8) 2021.
Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r ddau Orchymyn uchod, gan gydnabod bod nifer o strydoedd yr effeithiwyd arnynt yn cynnwys newidiadau arfaethedig fel yr amlinellir yn y ddau Orchymyn. Nodwyd y lleoliadau yn Llanelli yn yr amserlen arfaethedig a'r cynlluniau a atodir i'r adroddiad.
Dywedwyd bod y gwrthwynebiadau a gafwyd yn ymwneud â'r ddau Orchymyn a bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn 24 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ymwneud â phedwar o'r strydoedd a hysbysebwyd.
Ystyriodd yr Aelod Cabinet y cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a dderbyniwyd, sylwadau ac argymhellion y swyddogion a gyflwynwyd fel a ganlyn:-
· Prospect Place, Llanelli; · Stryd Albert, Llanelli; · Stryd Iago a Heol Glenalla, Llanelli; · Teras Coleshill, Llanelli; · Stryd Andrew ac Andrew Terrace
PENDERFYNWYD:
3.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 3.2 cymeradwyo argymhellion 2.1, 2.2, 2.3, 2.4 a 2.5 fel y nodir yn yr adroddiad.
|
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £19,650 am gyfnod o 12 mis o fis Medi 2021, a £5,000 i ddigolledu'r incwm yn ystod pandemig covid sy'n parhau a oedd yn cynnwys y swm gweithredol arferol o £14,650 a fyddai'n cael ei ariannu o elfen Trafnidiaeth Gymunedol Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Cyngor Sir Caerfyrddin.
Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.
Nododd yr Aelod Cabinet fod y cynllun yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r rhai sy'n cael anhawster i symud a'i fod wedi bod yn llwyddiannus cyn covid gydag oddeutu 1,289 o gwsmeriaid y flwyddyn. Yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig diweddar, roedd y cyfyngiadau wedi gorfodi Shopmobility i gau ym mis Mawrth 2020, ond drwy waith da staff ac Ymddiriedolwyr ailagorodd ym mis Tachwedd 2020.
Yn ogystal, er bod nifer yr ymwelwyr yn y dref wedi dechrau gwella'n araf, cydnabuwyd bod effaith covid wedi lleihau'r sylfaen cwsmeriaid yn sylweddol, ac efallai na fydd adferiad llwyr i lefelau cyn covid yn cael ei wireddu yn y flwyddyn 2021/22 hyd at fis Medi 2022.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £19,650 i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2021, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|
|
SHOPMOBILITY LLANELLI Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 am 12 mis o fis Awst 2021.
Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.
Nododd yr Aelod Cabinet fod Shopmobility yn un o nifer o fentrau a anogir gan yr Awdurdod i gefnogi tref Llanelli a'i fod yn elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau yn Llanelli yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer y rhai sydd ag anableddau symud.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £14,650 i gynorthwyo Shopmobility Llanelli am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2021, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|