Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIAD - 25 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 270 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2021 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG AR GYFER CYFYNGIADAU AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD LLANELLI (AMRYWIAD GORCHYMYN RHIF 38) pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 38) 2004. Diben y cynnig oedd cyflawni dyletswydd statudol yr awdurdod i sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus ac i wella diogelwch ffyrdd.  Nodwyd y lleoliadau yn Llanelli yn yr amserlen arfaethedig a'r cynlluniau a atodir i'r adroddiad.

 

Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn deg gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ymwneud â phedwar o'r strydoedd a hysbysebwyd.

 

Ystyriodd yr Aelod Cabinet y cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a dderbyniwyd, sylwadau ac argymhellion y swyddogion a gyflwynwyd fel a ganlyn:-

 

·      Lôn Penyrheol, Llanelli;

·      Marchnad Dan Do Llanelli, Llanelli;

·      Min y Môr, Llanelli;

·      Heol Bres, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1     nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad;

3.2   cymeradwyo argymhellion 2.1, 2.2, 2.3, a 2.4 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

4.

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG AR GYFER CYFYNGIADAU AROS (AMRYWIAD GORCHYMYN RHIF 39) A MANNAU PARCIO AR Y STRYD LLANELLI (AMRYWIAD GORCHYMYN RHIF 8) pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor i wneud Gorchymyn i ddiwygio:-

 

·       Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 39) 2021 a

 

·       Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanelli) Ardal Barcio Arbennig (Preswyl) Mannau Parcio (Gorchymyn Amrywio Rhif 8) 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r ddau Orchymyn uchod, gan gydnabod bod nifer o strydoedd yr effeithiwyd arnynt yn cynnwys newidiadau arfaethedig fel yr amlinellir yn y ddau Orchymyn. Nodwyd y lleoliadau yn Llanelli yn yr amserlen arfaethedig a'r cynlluniau a atodir i'r adroddiad.

 

Dywedwyd bod y gwrthwynebiadau a gafwyd yn ymwneud â'r ddau Orchymyn a bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn 24 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ymwneud â phedwar o'r strydoedd a hysbysebwyd.

 

Ystyriodd yr Aelod Cabinet y cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a dderbyniwyd, sylwadau ac argymhellion y swyddogion a gyflwynwyd fel a ganlyn:-

 

·      Prospect Place, Llanelli;

·      Stryd Albert, Llanelli;

·      Stryd Iago a Heol Glenalla, Llanelli;

·      Teras Coleshill, Llanelli;

·      Stryd Andrew ac Andrew Terrace

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1     nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad;

3.2     cymeradwyo argymhellion 2.1, 2.2, 2.3, 2.4 a 2.5 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

5.

SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 327 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £19,650 am gyfnod o 12 mis o fis Medi 2021, a £5,000 i ddigolledu'r incwm yn ystod pandemig covid sy'n parhau a oedd yn cynnwys y swm gweithredol arferol o £14,650 a fyddai'n cael ei ariannu o elfen Trafnidiaeth Gymunedol Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y cynllun yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r rhai sy'n cael anhawster i symud a'i fod wedi bod yn llwyddiannus cyn covid gydag oddeutu 1,289 o gwsmeriaid y flwyddyn. Yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig diweddar, roedd y cyfyngiadau wedi gorfodi Shopmobility i gau ym mis Mawrth 2020, ond drwy waith da staff ac Ymddiriedolwyr ailagorodd ym mis Tachwedd 2020. 

 

Yn ogystal, er bod nifer yr ymwelwyr yn y dref wedi dechrau gwella'n araf, cydnabuwyd bod effaith covid wedi lleihau'r sylfaen cwsmeriaid yn sylweddol, ac efallai na fydd adferiad llwyr i lefelau cyn covid yn cael ei wireddu yn y flwyddyn 2021/22 hyd at fis Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £19,650 i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2021, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.

 

 

6.

SHOPMOBILITY LLANELLI pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Llanelli drwy grant pellach o £14,650 am 12 mis o fis Awst 2021.

 

Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod Shopmobility yn un o nifer o fentrau a anogir gan yr Awdurdod i gefnogi tref Llanelli a'i fod yn elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau yn Llanelli yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer y rhai sydd ag anableddau symud.

 

PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £14,650 i gynorthwyo Shopmobility Llanelli am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2021, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau