Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD - 11 MAWRTH 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2021 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am wrthwynebiad oedd wedi dod i law i'r bwriad i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar hyd amrywiol strydoedd yng Ngogledd Llanelli.
Rhoddwyd gwybod bod y cynnig hwn yn rhan o Gynllun Peilot Llywodraeth Cymru, lle byddai Llywodraeth Cymru yn talu am y cyllid ar gyfer cyflwyno'r newidiadau i'r terfyn cyflymder. Mae'r terfyn cyflymder o 20mya a gynigir ar gyfer ardal ogleddol Llanelli yn rhan o gyfres o brosiectau peilot ledled Cymru sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a byddai'n llywio deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y wybodaeth am yr ymgynghoriad ynghylch y terfynau cyflymder arfaethedig o 20mya a nododd na gafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr ymgyngoreion statudol gan gynnwys y gwasanaethau brys, aelodau lleol, Cynghorau Tref a Gwledig Llanelli a grwpiau rhanddeiliad allweddol.
Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn 1 gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod ymgynghori, y manylwyd arno yn yr adroddiad. Ystyriodd a nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y gwrthwynebiad.
Argymhellwyd, yn dilyn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiad ac ymateb yr Awdurdod, gymeradwyo'r cynigion, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (Atodiad 1).
PENDERFYNWYD
3.1 bod y gwrthwynebiad, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn cael eu nodi; 3.2 cymeradwyo'r cynigion fel y manylwyd arnynt yn Hysbysiad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (Atodiad 1).
|