Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD - 8FED HYDREF, 2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2020 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £19,650 am 12 mis o fis Medi 2020, sy'n cynnwys y swm gweithredol arferol o £14,650 ynghyd â £5,000 i dalu am yr incwm a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Cydnabuwyd bod Shopmobility wedi cael cymorth gan y Cyngor ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian. Fodd bynnag, roedd yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor. Nodwyd hefyd fod Shopmobility yn un o blith nifer o fentrau oedd yn cael eu hyrwyddo gan yr Awdurdod a'i fod yn bodloni ei flaenoriaethau strategaeth barcio.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £19,650 i gynorthwyo Shopmobility Caerfyrddin am gyfnod o 12 mis arall, gan gychwyn ym mis Medi 2020, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|