Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN IONAWR 2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
LLE PARCIO I'R ANABL, HEOL YR ORSAF, PORTH TYWYN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y gwrthwynebiad a ddaeth i law, ymatebion y swyddogion i hwnnw, ynghyd â'r opsiynau eraill a'u manteision a'u hanfanteision.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer Lle Parcio i'r Anabl yn Heol yr Orsaf, Porth Tywyn, ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a bod y gwrthwynebydd yn cael gwybod am hynny.
|
|
BWRIAD I GYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER 20MYA - STRYDOEDD AMRYWIOL, CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynnig y Cyngor i gyflwyno Terfyn Cyflymder o 20 mya ar hyd amrywiol strydoedd preswyl yng Nghaerfyrddin, fel y manylir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a nododd fod gwrthwynebiad wedi dod i law mewn perthynas ag arwyddion yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y cynnig.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y gwrthwynebiad a ddaeth i law ac ymatebion y swyddogion i hwnnw.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer Terfyn Cyflymder o 20 mya ar hyd amrywiol strydoedd yng Nghaerfyrddin ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a bod y gwrthwynebydd yn cael gwybod am hynny.
|