Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN IONAWR 2020 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

LLE PARCIO I'R ANABL, HEOL YR ORSAF, PORTH TYWYN pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynnig y Cyngor i greu lle parcio i'r anabl yn Heol yr Orsaf, Porth Tywyn yn lle'r lle parcio amser cyfyngedig presennol fel y manylir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a nododd fod gwrthwynebiad wedi dod i law gan fusnes cyfagos yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y cynigion.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y gwrthwynebiad a ddaeth i law, ymatebion y swyddogion i hwnnw, ynghyd â'r opsiynau eraill a'u manteision a'u hanfanteision.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer Lle Parcio i'r Anabl yn Heol yr Orsaf, Porth Tywyn, ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a bod y gwrthwynebydd yn cael gwybod am hynny.

 

4.

BWRIAD I GYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER 20MYA - STRYDOEDD AMRYWIOL, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynnig y Cyngor i gyflwyno Terfyn Cyflymder o 20 mya ar hyd amrywiol strydoedd preswyl yng Nghaerfyrddin, fel y manylir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a nododd fod gwrthwynebiad wedi dod i law mewn perthynas ag arwyddion yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y cynnig.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y gwrthwynebiad a ddaeth i law ac ymatebion y swyddogion i hwnnw.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar gyfer Terfyn Cyflymder o 20 mya ar hyd amrywiol strydoedd yng Nghaerfyrddin ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a bod y gwrthwynebydd yn cael gwybod am hynny.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau