Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD - 13 HYFRED 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS GER DYFFRYN FARM, BYNEA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar gynigion i gau darn byr o'r briffordd gyhoeddus yn Fferm Dyffryn, y Bynea, fel y dangosir ar y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Dywedwyd y byddai'r rhan o briffordd gyhoeddus yn cael ei chau drwy Orchymyn yn y Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Ar ôl gorchymyn cau llwyddiannus, byddai'r tir "o dan" yr hen briffordd gyhoeddus yn dychwelyd i reolaeth breifat ar gyfer cofrestru tir. Byddai'r tir yn dychwelyd i dirfeddiannwr cyfagos ar Fferm Dyffryn. Er mai'r Cyngor Sir fyddai'n talu'r gost o wneud y Gorchymyn cau, byddai'n elwa o ddileu costau cynnal a chadw a rhwymedigaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Nododd yr Aelod Cabinet fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgynghori â'r tirfeddiannwr cyfagos ac y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgynghori ymhellach ag ef o dan yr ymgynghoriad statudol i'w ddilyn.
PENDERFYNWYD rhoi cyfarwyddyd i Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith gau darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Fferm Dyffryn, y Bynea, yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
|
|
CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS GER B4300 Nr. THE POLLEN, NANTGAREDIG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: briffordd gyhoeddus ar y B4300. Ger Y Polyn, Nantgaredig, fel y nodir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Mewn ymateb i ymholiad a godwyd gan yr Aelod Cabinet, cadarnhaodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod y lleoliad ar y B4300, ger y bwyty 'Y Polyn’.
Dywedwyd bod y rhan o briffordd gyhoeddus gynt yn rhan o gynllun gwella priffyrdd ac ers hynny roedd wedi gwneud y rhan o briffordd cul-de-sac yn segur ac yn ddiangen. Byddai'r rhan o briffordd gyhoeddus yn cael ei chau drwy Orchymyn yn y Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Ar ôl gorchymyn cau llwyddiannus, byddai'r tir "o dan" yr hen briffordd gyhoeddus yn dychwelyd i reolaeth breifat ar gyfer cofrestru tir. Byddai'r tir yn dychwelyd i'r ddau dirfeddianwyr cyfagos. At hynny, dywedwyd mai'r ymgeisydd fyddai'n ysgwyddo'r gost sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn cau ynghyd â thaliad ymlaen llaw o £2500 i dalu costau. Yn ogystal, Cyngor Sir Caerfyrddin fyddai'n talu'r gost o wneud y gorchymyn cau, ond byddai'n elwa o ddileu costau cynnal a chadw a rhwymedigaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Nododd yr Aelod Cabinet fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgynghori â'r ddau dirfeddianwyr cyfagos ac y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymgynghori ymhellach â hwy o dan yr ymgynghoriad statudol.
PENDERFYNWYD rhoi cyfarwyddyd i Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith gau darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger y B4300 - ger Y Polyn, Nantgaredig yn unol ag Adran 4300 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
|
|
CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS GER GLANRHYDSAESON FARM, MANORDEILO, LLANDEILO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar gynigion i gau darn o briffordd gyhoeddus yn Fferm Glanrhydsaeson, Maenordeilo, Llandeilo, fel y nodwyd yn y cynllun a atodir i'r adroddiad.
Dywedwyd bod cais wedi dod i law gan dirfeddiannwr drwy Network Rail, i gau darn o briffordd gyhoeddus o ganlyniad i gau croesfan lefel heb signalau o dan raglen genedlaethol Network Rail i leihau nifer y croesfannau ar hyd llinellau rheilffordd byw. Nid oedd y rhan gysylltu o'r briffordd wedi'i chynnal ers blynyddoedd lawer gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac nid oedd o unrhyw fudd strategol i'r Awdurdod. Byddai'r rhan o briffordd gyhoeddus yn cael ei chau drwy Orchymyn yn y Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Ar ôl gorchymyn cau llwyddiannus, byddai'r tir "o dan" yr hen briffordd gyhoeddus yn dychwelyd i reolaeth breifat ar gyfer cofrestru tir. Byddai'r tir yn dychwelyd i'r ddau dirfeddianwyr cyfagos. At hynny, dywedwyd y byddai'r gost sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn cau yn cael ei thalu gan yr ymgeisydd ynghyd â thaliad ymlaen llaw o £2500 i dalu costau gyda chytundeb i ad-dalu neu adennill yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.
Yn ogystal, Cyngor Sir Caerfyrddin fyddai'n talu'r gost o wneud y gorchymyn cau, ond byddai'n elwa o ddileu costau cynnal a chadw a rhwymedigaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Nododd yr Aelod Cabinet yr ymgynghorir ymhellach â'r tirfeddiannwr sy'n ffinio â'r briffordd i'w chau fel rhan o'r broses gyfreithiol statudol ac y byddai unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cael eu hymchwilio gyda'r bwriad o sicrhau bod y gwrthwynebiad/gwrthwynebiadau yn cael eu tynnu'n ôl cyn gwrandawiad y Llys.
PENDERFYNWYD rhoi cyfarwyddyd i Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith gau darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Fferm Glanrhydsaeson, Manordeilo, Llandeilo yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
|