Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 27ain Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIAD 20FED HYDREF 2020 pdf eicon PDF 275 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS GER TROED Y BRYN, ALLTWALIS pdf eicon PDF 279 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i gau darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Troed y Bryn, Alltwalis, fel y dangosir ar y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Nodwyd, petai’n cael ei gymeradwyo, y byddai’r darn o'r briffordd sy'n cael ei 'gau' yn cael ei drosglwyddo'n ôl i reolaeth y tirfeddiannwr cyfagos i'w gofrestru'n gyfreithiol. Er mai'r Cyngor Sir fyddai'n talu'r gost o wneud y Gorchymyn cau, byddai'n elwa o ddileu costau cynnal a chadw a rhwymedigaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD rhoi cyfarwyddyd i Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith gau darn o'r briffordd gyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Troed y Bryn, Alltwalis, yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.