Lleoliad: Swyddfa'r ABG Amgylchedd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN TACHWEDD 2019 PDF 285 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniad o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
MESURAU FERTIGOL ARFAETHEDIG - HEOL PENTRE-POETH PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i gyflwyno mesurau cyflymder fertigol ar hyd Heol Pentre-poeth, Llanelli, fel y manylir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a nododd nad oedd dim gwrthwynebiadau wedi dod i law gan breswylwyr sy'n byw ar Heol Pentre-poeth, ond bod dau wrthwynebiad wedi dod i law gan breswylwyr sy'n byw gerllaw yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y cynigion.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ddau wrthwynebiad a ddaeth i law, ymatebion y swyddogion i'r rhain ynghyd â'r ddau opsiwn a gynigir ynghylch y cynigion, eu manteision a'u hanfanteision.
PENDERFYNWYD bod y gwrthwynebiadau a ddaeth i law o ran cynnig y Cyngor i gyflwyno mesurau fertigol ar Heol Pentre-poeth, Llanelli, yn cael eu nodi, ond bod y Cyngor yn bwrw ymlaen ag Opsiwn 1 i'w cyflwyno.
|