Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALWYD A 20FED GORFFENNAF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2022 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 11 HYDREF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 11 Hydref 2022, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.9 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA DYFED - 3 MAI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2022 wedi'u derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 11 Hydref 2022.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau at y golofn rhagolygon cyllidebol yn yr adroddiad a oedd yn nodi ei bod ar gyfer 2022-2022 gan ddweud y dylai ddarllen '2022-2023’.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefelau incwm sy'n uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer, dywedwyd wrth y Bwrdd bod hyn i’w briodoli i gyfraniadau uwch. Er mwyn rhoi eglurhad, dywedwyd pan baratowyd proffiliau cyllideb ym mis Ionawr/Chwefror 2022 ar gyfer y flwyddyn nesaf nad oedd yn bosibl proffilio'r gyllideb yn gywir oherwydd amgylchiadau sy'n newid a llawer o ffactorau sy'n amrywio. Fodd bynnag, byddai addasiadau yn ystod y flwyddyn yn cael eu gwneud yn ôl y galw mewn ymateb i newidiadau yn y ffactorau hynny e.e. dyfarniadau cyflog a dyfarniadau cyflog cynyddrannol a allai arwain at gynyddu cyfraniadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyfeiriwyd at y ddibyniaeth ar incwm buddsoddi i wneud taliadau buddion a gofynnwyd a oedd unrhyw oblygiadau i'r cyllidebau yn y dyfodol wrth i'r bwlch ehangu rhwng cyfraniadau sy’n cael eu derbyn a'r buddion sy'n cael eu talu.
Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau fod diffyg o £10-£12m o ran cyfraniadau a oedd yn cael ei dalu drwy incwm buddsoddi. Pan gyhoeddir ffigurau chwyddiant Medi 2022 a phan fydd y cynnydd pensiwn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn hysbys, byddai dadansoddiad llif arian a phrofion senario yn cael eu cynnal i asesu faint o incwm ychwanegol fyddai ei angen i fodloni gofynion pensiwn yn y dyfodol.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch defnyddio i-Connect, dywedodd y Rheolwr Pensiynau eu bod yn parhau i roi anogaeth i'r cyflogwyr hynny sy'n rhan o'r cynllun nad ydynt yn weithredol ar i-Connect eto.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch rhoi gwybod am yr achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Gan nad oedd unrhyw oblygiadau o ran yr achosion o dorri'r gyfraith nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod risgiau wedi cael eu nodi a'u hasesu. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau er bod risg i ddechrau wrth i'r cronfeydd gael eu sefydlu, eu bod yn gweithredu'n effeithiol a bod Russell Investments, a oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r Is-gronfeydd, wedi cynnal y diwydrwydd dyladwy priodol. Roedd pob un o'r wyth o Gronfeydd Pensiwn Cymru wedi buddsoddi ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru ac wrth i lefel y buddsoddiad gynyddu, byddai lefel y risg yn gostwng.
Cyfeiriwyd at gyfeirnod risg DPFOP0016 ac at fethiant rheolwyr buddsoddi i sicrhau adenillion penodedig am gyfnod estynedig. Sicrhaodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau y Bwrdd bod gwaith monitro rheolaidd yn cael ei wneud ac y byddai unrhyw arwydd o fethiant am gyfnod estynedig dros y tymor hir yn cael sylw yn gynnar.
CYTUNWYD bod adroddiad y gofrestr risg yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2022- 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-2023, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a cherrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.
|
|
AILSTRWYTHURO ECWITI CAM III Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad ar Gam III ailstrwythuro ecwiti Cronfa Bensiwn Dyfed a chytundeb Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i ddyrannu 5% o'r Gronfa i Is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru.
CYTUNWYD bod adroddiad Cam III Ailstrwythuro Ecwiti yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022 yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2022 - 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Medi 2022. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £13.5k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £3k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwyr buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2022, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd adroddiadau a ddarparwyd gan y Rheolwyr Buddsoddi i'w hystyried, a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022:
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2022; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch2 2022; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Mehefin 2022; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2022; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2022.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.
|