Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Mike Rogers - Cynrychiolydd Pensiynwyr.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai dyma gyfarfod olaf Mr Gwyn Jones ac, ar ran y bwrdd, mynegodd ei werthfawrogiad am ei gyfraniad gwerthfawr a phroffesiynol i waith y Bwrdd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 20 GORFFENNAF 2021. pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 8 HYDREF 2021. pdf eicon PDF 519 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at sylwadau'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yng nghofnod 8 cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed mewn perthynas â Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft 2021 ac at gyfarfod a oedd i’w drefnu gyda chynrychiolwyr Divest Dyfed. Nodwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2021 ac yn cael ei adrodd i gyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2021 yn cael eu nodi.

4.1

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2020-21 pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2021, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ar 12 Hydref 2021.

 

Roedd Archwilio Cymru hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân gamgymeriadau yn y cyflwyniadau i'r datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod un mater a oedd yn weddill ar adeg yr Archwiliad yn ymwneud â Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, a oedd yn fater cenedlaethol, bellach wedi'i ddatrys.

 

CYTUNWYD bod adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2020-21 yn cael ei dderbyn.

4.2

DATGANIAD CYFRIFON 2020-21; pdf eicon PDF 438 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Datganiad Drafft Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020/21, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2020-21, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2020-21 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. - atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y costau rheoli uwch wedi digwydd o ganlyniad i drosglwyddiadau rhwng gwahanol gronfeydd ac fe'u cofnodwyd yn unol â'r Côd Tryloywder

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

4.3

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 16 EBRILL 2021; pdf eicon PDF 337 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 16 Ebrill, 2021 wedi'u derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

4.4

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021; pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021.

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £102.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £104.8m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £2m.

 

Cyfeiriwyd at gyfnod mis Ebrill - Mehefin 2021 yn yr adroddiad ac at y cadarnhad bod rhywfaint o'r data a nodwyd wedi'i ddiweddaru hyd at ddiwedd Medi 2021. Awgrymwyd, pe bai gwybodaeth wedi'i diweddaru yn cael ei darparu mewn adroddiadau yn y dyfodol, y dylid cynnwys nodyn esboniadol i'r perwyl hwnnw er eglurder.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

1.

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

2.

Er eglurder, pe bai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu mewn adroddiadau monitro cyllidebau yn y dyfodol, dylid ychwanegu nodyn esboniadol at y perwyl hwnnw.

 

4.5

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2021; pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £11m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

4.6

DRAFFT DATGANIAD STRATEGAETH FUDDSODDI 2021; pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynai'r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft ar gyfer 2021 i'w gymeradwyo.  Mae Datganiad Cronfa Bensiwn Dyfed, sy'n ofynnol o dan reoliad 7 o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi mewn Cronfeydd) 2016, yn nodi strategaeth fuddsoddi gyfredol y Gronfa, yn darparu tryloywder mewn perthynas â sut y caiff buddsoddiadau'r Gronfa eu rheoli, ac yn gweithredu fel cofrestr risg lefel uchel, ac roedd wedi'i dylunio i fod yn ddefnyddiol i'r holl randdeiliaid. Nodwyd hefyd bod y Strategaeth yn disodli Datganiad Egwyddorion Buddsoddi'r Gronfa.

 

CYTUNWYD bod y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft 2021 yn cael ei nodi.

4.7

WEDI'I DDIWEDDARU DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU; pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a ddarparodd y Datganiad Strategaeth Ariannu ddiweddaraf  o'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol gan y Pwyllgor Pensiwn ar 2 Mawrth 2020, ac roedd yn adlewyrchu hyblygrwydd newydd cyflogwyr ynghylch Trefniadau Taenu Dyledion a Chytundebau Dyledion Gohiriedig

 

Roedd y Datganiad yn nodi strategaeth ariannu eglur a thryloyw a fydd yn nodi sut y byddai rhwymedigaethau pensiwn pob un o gyflogwyr y Gronfa yn cael eu bodloni yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD bod y  Datganiad Strategaeth Gyllido ddiweddaraf yn cael ei nodi.

4.8

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU; pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.9

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22; pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

4.10

COFRESTR RISG 2021-22; pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.   Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf. 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

Cytunwyd bod  adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei nodi.

4.11

DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR; pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-Gronfeydd ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa a Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu Buddsoddiadau Link / Russell, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar 22 Medi 2021.

 

Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.

 

CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

4.12

CYNLLUN HYFFORDDI 2021-22 pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022. pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

CYTUNWYD i nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2022.

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 30 MEDI 2021. pdf eicon PDF 516 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb derfynol y Bwrdd Pensiwn a bu'n ystyried y sefyllfa gyllidebol ar 30 Medi 2021. Y sefyllfa derfynol ar 30 Medi 2021 oedd tanwariant o'i gymharu â chyllideb o £4.6k.

 

CYTUNWYD i dderbyn adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiynau 1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod  Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 yn cael ei nodi.

9.

AILSTRWYTHURO ECWITI - CAM II.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar Gam II Ailstrwythuro Ecwiti a ddarparodd gynigion ynghylch ail gam cam camau gweithredu arfaethedig y Gronfa gyda'r nod o leihau ôl troed carbon a gwella'r llif arian a gynhyrchir o'r portffolio. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 8 Hydref 2021.

 

CYTUNWYD bod y cynigion fel y'u nodir yn adroddiad Cam II Ailstrwythuro Ecwiti yn cael eu nod.

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 yn cael ei nodi.

11.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2021:

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiadau Rheolwyr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2021:

·BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin: 2021;

·Schroders - Adroddiad Buddsoddi 2021 Chwarter 2 30 Mehefin 2021;

·Partners Group - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2021;

· Cronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021;

· Cronfa Gredyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau