Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mawrth, 29ain Hydref, 2024 2.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 24 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 19 MEDI 2024 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Board considered the reports which were submitted to the Dyfed Pension Fund Committee for consideration at its meeting held on 19th September, 2024, as follows:-

4.2

MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 30 MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro'r gyllideb ac arian parod fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020.  Cafodd y Pwyllgor wybod am danwariant o'i gymharu â chyllideb o £116k.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

 

4.3

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Gwnaed cyfeiriad at adran 1c yr adroddiad - Dangosfyrddau Pensiynau. Gofynnwyd am eglurhad ar y paragraff 'We must be in a position to go live on 1st October 2025, however, there must also be a 1-year lead in connection period which will start no later than 1st October 2024’.  Eglurodd y Rheolwr Pensiynau fod rheidrwydd ar gynlluniau i gynnwys cyfnod arweiniol o flwyddyn. O ran Cynllun Cronfa Bensiwn Dyfed, mis Hydref 2025 oedd hyn.  Gosodwyd y terfyn wrth gefn ar gyfer pob cynllun pensiwn ym mis Hydref 2026.  Felly, rhwng mis Hydref 2024 a mis Hydref 2025 byddai disgwyl llythyr yn cadarnhau'r dyddiad cysylltu.  Ar hyn o bryd, roedd data'n cael ei ddilysu ar y system i sicrhau bod dynodwyr pensiynau allweddol ar y system.  Roedd gwaith parhaus yn digwydd gyda'r darparwr meddalwedd i sicrhau bod data yn cael ei uwchlwytho a'i dynnu'n hwylus o'r system bensiynau. Roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â'r 3 darparwr AVC - Prudential, Utmost a Standard Life.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, rhoddodd y Rheolwr Pensiynau sicrwydd i'r Bwrdd bod yr holl waith ar y trywydd iawn ar hyn o bryd.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

 

4.4

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Nodwyd na fu unrhyw achosion o dderbyn cyfraniadau'n hwyr gan Gyflogwyr ers y cyfarfod blaenorol.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

 

4.5

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad i'w ystyried a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gofrestr Risg. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd bod y gofrestr yn cynnwys manylion yr holl risgiau a nodwyd; asesu'r tebygolrwydd a'r raddfa risg o ran effaith bosibl; y mesurau rheoli risg sydd ar waith; y swyddog cyfrifol a'r dyddiad targed (os yw'n berthnasol) ac roedd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod risgiau wedi'u nodi a'u hasesu.

 

Roedd y gofrestr yn canolbwyntio ar yr 13 risg Cyllid a Buddsoddiadau (a nodwyd fel rhifau risg F1-F13 yn y gofrestr) a chadarnhawyd, yn dilyn adolygiad o'r gofrestr, nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol ers cymeradwyo'r gofrestr yng nghyfarfod y Pwyllgor ym Mawrth 2024.

 

Cyfeiriwyd at risg F4 yn yr adroddiad.  Mewn perthynas â'r risg, gofynnwyd a oedd camau wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r materion a sut y gallai effeithio ar y gronfa?  Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol yn cyflwyno adroddiad annibynnol ar berfformiad y gronfa bob chwarter i gyfarfodydd y Pwyllgor.   Gyda'r rhan fwyaf o'r asedau bellach wedi'u buddsoddi o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru, mae monitro is-gronfeydd yn digwydd yng Nghyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a Phwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach mewn perthynas â chyfeirnod risg F4 a'r pryder o ran tanberfformiad Baille Gifford, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod Baille Gifford ar draws cynnyrch Global Alpha, y buddsoddwyd ynddo drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, wedi bod yn tanberfformio.  Eglurwyd bod rheolaeth is-gronfa'r Gronfa Tyfu Byd-eang yr oedd Baille Gifford yn rheolwr sylfaenol arno yn symud o Waystone i Russell Investments.  Yn ei hanfod, golygai hyn fod Baille Gifford yn dal i fod yn rheolwr o fewn yr is-gronfa, ond bod canran ei ddaliadau wedi gostwng o 40% i 18%. 

 

Cyfeiriwyd at gyfeirnod risg G4 – 'Diffyg hyfforddiant i swyddogion ac aelodau; trosiant mewn swyddogion ac aelodau….’.  Gofynnwyd a oedd hynny'n peri pryder?  Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, ers i Bartneriaeth Pensiwn Cymru gael ei sefydlu yn 2016, fod hyfforddiant rheolaidd ar-lein drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru i'r Pwyllgor a'r Bwrdd wedi cynyddu. Ystyrir bod faint o hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu nawr yn ddigonol ar gyfer anghenion presennol y Pwyllgor a'r Bwrdd.

 

Cytunwyd bod adroddiad y gofrestr risg yn cael ei nodi. 

 

 

4.6

CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 pdf eicon PDF 40 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.7

PENDERFYNIAD Y BWRDD PENSIWN MEWN PERTHYNAS Â CHWMNÏAU GRWP BUTE pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar atgyfeiriad y Bwrdd o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2024 yn ymwneud â gohebiaeth gan y Cynghorydd A. Lenny ar fuddsoddiad Partneriaeth Pensiwn Cymru yng Ngr?p cwmnïau Bute a’i brosiectau ynni Tywi-Wysg a Thywi-Teifi.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r Pwyllgor Pensiwn yn ymateb i'r penderfyniad yn ei gyfarfod nesaf.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi

 

 

4.8

DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, er ystyriaeth, ddiweddariad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024, a roddai ddiweddariad ar y canlynol:

 

·           Llywodraethu

·           Gwaith parhaus i ddatblygu Is-gronfeydd

·           Gwasanaethau Gweithredwyr

·           Buddsoddiadau ac Adrodd

·           Cyfathrebu a Hyfforddiant

·           Adnoddau, Cyllideb a Ffioedd

·           Cynllun Hyfforddiant

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys adroddiad y Gweithredwr a roddai ddiweddariad ar y canlynol:

 

-   Diweddariadau'r Farchnad

-   Diweddariad Busnes – Goruchwylio Trydydd Partïon Ch1 2024

-   Gwerthoedd Is-Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 31 Mawrth 2024

-   Cipolwg ar Gronfa Mawrth 2024 – Ecwiti ac Incwm Sefydlog

-   Lansiadau a Newidiadau'r Gronfa

-   Diweddariad ac Ymgysylltu Corfforaethol Waystone

 

Hefyd roedd crynodeb a sylwadau ynghylch perfformiad buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Ch1 2024 (Ionawr - Mawrth 2024) wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad diweddaru am gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 17 Gorffennaf 2024 yn cael ei nodi.

 

 

4.9

DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 30 Mehefin 2024 yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd a ganlyn yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt:

 

·       Twf Byd-eang

·       Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy

·       Credyd Byd-eang

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y diweddariad hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.

 

CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024, yn cael ei nodi.

 

 

4.10

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 19 MEDI 2024 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2024 - 30 MEDI 2024 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £12.8k.  Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn £2.5k yn is na'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

 

6.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2024 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2024 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod. Nodwyd bod y Cynllun yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod o'r Bwrdd a'i ddiwygio yn ôl yr angen.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 yn cael ei nodi.

 

 

7.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2025 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

COFNOD CAMAU GWEITHREDU Y BWRDD PENSIWN pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gofnod Camau Gweithredu'r Bwrdd Pensiynau a oedd yn cynnwys manylion am y camau gweithredu a'r diweddariadau o gyfarfodydd blaenorol. Nodwyd bod y cofnod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod o'r Bwrdd a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.

 

CYTUNWYD bod Cofnod Camau Gweithredu'r Bwrdd Pensiynau yn cael ei nodi.

 

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

10.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 IONAWR 2024 - 31 MAWRTH 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ionawr 2024 – 31 Mawrth 2024.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

11.

ADOLYGIAD O BERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU NORTHERN TRUST 2023-24

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarantau Northern Trust 2023-24.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2024.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2024 yn cael ei nodi.

 

 

14.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2024 o ran: 

 

·   BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2024;

·   Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch2 2024;

·   Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch2 2024;

·   Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2024;

·   Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2024

·   Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.

 

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

Following the application of the public interest test it was UNANIMOUSLY RESOLVED, pursuant to the Act referred to in Minute Item 9 above, to consider this matter in private, with the public excluded from the meeting as disclosure would adversely impact upon the Pension Fund by putting investment performance at risk.

 

The Board considered the Northern Trust Performance report which detailed the performance of the Dyfed Pension Fund as at 30th June, 2024.  The report provided performance analysis at a total fund level and by Investment Manager for the periods since inception.

 

AGREED that the Northern Trust Performance report for the Dyfed Pension Fund as at 30th June, 2024 be noted.

 

4.1

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad gan y Cadeirydd Annibynnol, oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 a 24 Gorffennaf 2024 lle roedd yr eitemau drafodwyd yn cynnwys:

 

  • Adroddiad Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn 14 Mai 2024 a 24 Gorffennaf 2024
  • Monitro'r Gyllideb a'r Sefyllfa Arian Parod 30 Mehefin 2024 
  • Adroddiad Gweinyddu Pensiynau
  • Adroddiad Torri Amodau
  • Y Gofrestr Risg
  • Cynllun Hyfforddi 2024-2025
  • Penderfyniad y Bwrdd Pensiwn
  • Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru
  • Diweddariad Buddsoddi Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru - Mehefin 2024

 

CYTUNWYD bod Adroddiadau Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed, ar gyfer 14Mai a 24 Gorffennaf 2024, yn cael eu nodi.