Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Changed from 14th January & 6th Dec at Pensions request
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 29 HYDREF 2024 PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.5 – Y Gofrestr Risg - Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai.
CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWED AR 11 TACHWEDD 2024 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 11 Tachwedd 2024, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.9 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.
|
|
ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED PDF 86 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad gan y Cadeirydd Annibynnol, oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 a nodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Pensiwn ar 11 Tachwedd, 2024, roedd yr eitemau a drafodwyd yn cynnwys:
· Monitro'r Gyllideb; · Diweddariad Gweinyddu Pensiynau; · Perfformiad Buddsoddi; · Y Gofrestr Risg; · Cynllun Hyfforddi; · Adroddiad Ymgysylltu Robeco; · Adroddiad Buddsoddi Bute; · Adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol.
CYTUNWYD bod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed, 11 Tachwedd, yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-2024. Nodwyd bod asedau net y Gronfa wedi bod yn cynyddu'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan dyfu o £2.378m yn 2020 i £3,468m yn 2024, cynnydd o 45%.
Nododd y Bwrdd fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cytuno ar strategaethau, amcanion a pholisïau tymor hir y Gronfa. Roedd y dogfennau polisi yn cwmpasu llywodraethu, risg, cyllido, buddsoddi, gweinyddu a chyfathrebu.
Diolchodd Aelodau'r Bwrdd y staff am eu gwaith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr.
Derbyniodd y Bwrdd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2023-2024. Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2024, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Medi 2024.
Nid oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol na materion arwyddocaol i'w hadrodd, a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân wallau cyflwyno yn y datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.
CYTUNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-2024 a'r Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2023-2024.
|
|
MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 30 MEDI 2024 PDF 46 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb fel yr oedd ar 30 Medi 2024. Cafodd y Pwyllgor wybod am orwariant o'i gymharu â chyllideb o £55k.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y sefyllfa ariannol ar 30 Medi, 2024 yn nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod adroddiad Monitro'r Gyllideb a'r sefyllfa arian parod fel yr oedd ar 30 Medi 2024, yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 45 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau.
Rhoddodd y Rheolwr Pensiynau y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau a oedd yn cynnwys materion rheoleiddio, cyflogwr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig a llif gwaith.
· Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod amserlen gyfreithiol o ran cyflwyno'r dangosfwrdd pensiwn ac roedd yr Awdurdod ar y trywydd iawn i fynd yn fyw ym mis Hydref 2025.
· Dywedodd y Rheolwr Pensiynau wrth y Bwrdd y byddai'r Awdurdod yn parhau i gysoni'r ffigyrau Isafswm Pensiwn Gwarantedig sydd ganddo ar gyfer yr aelodau â'r rhai a gyfrifwyd gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Byddai hyn yn sicrhau bod yr holl unigolion a gofnodwyd gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn erbyn y Gronfa yn gywir.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 48 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Roedd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cael ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oedd achos rhesymol i gredu'r canlynol:
· na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;
· bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Bwrdd fod y mater ynghylch derbyn cyfraniadau
cyflogai/cyflogwr yn hwyr, y tynnwyd sylw ato yn yr adroddiad, wedi'i ddatrys yn llwyddiannus ers ei gyhoeddi.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 PDF 38 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024-2025, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion yr oedd disgwyl iddynt fynychu’r digwyddiadau.
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL - LLYWODRAETHU A BUDDSODDIADAU CRONFA BENSIWN DYFED PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Archwilio Mewnol – Llywodraethu a Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed, sy'n nodi'r farn gyffredinol, graddau sicrwydd, crynodeb o argymhellion a'r canfyddiadau a'r cynllun gweithredu allweddol.
Nododd yr adroddiad un mater bach yn ymwneud â gwall wrth gysoni. Datryswyd y mater hwn ar unwaith ar ôl cwblhau'r archwiliad gyda rheolaeth ychwanegol ar waith.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Codwyd ac ymatebwyd i'r sylwadau/ymholiadau canlynol:-
· Dywedodd Rheolwr Buddsoddi'r Trysorlys a Phensiynau, mewn ymateb i ymholiad, fod gan Gronfa Bensiwn Clwyd lai o asedau wedi'u cronni na chronfeydd eraill, oherwydd bod ganddynt gyfran uchel o fuddsoddiadau'r farchnad breifat sy'n gostus ac yn anodd eu dadfuddsoddi.
CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 11 TACHWEDD 2024 PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd gan y Gronfa unrhyw fecanwaith i adael y buddsoddiad, bod rhwymedigaeth gytundebol ar y Gronfa i dalu galwadau cyfalaf wrth iddynt ddod yn ddyledus a bod y buddsoddiad wedi'i gyfyngu i'r ffermydd gwynt heb fod unrhyw ran gan y Gronfa yn seilwaith cysylltiad y grid.
Diolchodd aelodau'r bwrdd i'r Pwyllgor am yr adroddiad manwl.
Cytunwyd i dderbyn Ymateb y Pwyllgor Pensiwn i Benderfyniad y Bwrdd Pensiwn mewn perthynas â Chwmnïau'r Bute Group.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2024 - 31 RHAGFYR 2024 PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £17.5k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £3k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2025-26 PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r Gyllideb ar gyfer 2025-26 a oedd yn unol â'r gyllideb ar gyfer 2024-25.
Nodir bod cyllideb ar gael ar gyfer hyfforddiant a theithio.
CYTUNWYD bod y Gyllideb ar gyfer 2025-26 yn cael ei chymeradwyo.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2025 PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Nodwyd bod dau o ddyddiadau'r Pwyllgor Pensiwn wedi'u newid ers i bapurau'r cyfarfod gael eu cyhoeddi, fodd bynnag, roedd dyddiadau'r Bwrdd Pensiwn yn aros yr un peth ag yr oeddent pan y'u cyhoeddwyd.
Cytunwyd y byddai'r Bwrdd Pensiwn yn cael briff ar yr oblygiadau i'r Gronfa o ran yr ymgynghoriad presennol ar fuddsoddiadau pensiwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn benodol mewn perthynas â buddsoddiadau lleol.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2025 yn cael ei nodi.
|
|
COFNOD CAMAU GWEITHREDU Y BWRDD PENSIWN PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Nododd y Bwrdd fod y cofnod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod o'r Bwrdd a'i ddiweddaru yn ôl yr angen. Yn dilyn cais mewn cyfarfod blaenorol, roedd llinell amser wedi'i chynnwys, a oedd yn caniatáu i aelodau olrhain cynnydd dyddiadau cau pwysig yn hawdd.
PENDERFYNWYD nodi Cofnod Camau Gweithredu y Bwrdd Pensiwn.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2024 - 30 MEHEFIN 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ebrill 2024 – 30 Mehefin 2024 a oedd yn darparu ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu, ynghyd â detholiad o astudiaethau achos o ymgysylltu.
CYTUNWYD bod Adroddiad Ymgysylltu Robeco 1 Ebrill 2024 - 30 Mehefin 2024 yn cael ei nodi.
|
|
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 30 MEHEFIN 2024 Cofnodion:
Ystyriodd y Bwrdd Adolygiad Benthyca Gwarannau Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed ar 30 Mehefin, 2024. Roedd adroddiad Ch2 2024 yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-
· Benthyca Gwarannau: Ch 2 Y Galw · Crynodeb o Fenthyca Gwarannau: Ch2 2024 vs Ch1 2024 · Asedau Benthyciadwy, Cyfartaledd ar Fenthyciad a Refeniw Net Ch2 2024 · Dadansoddiad Refeniw: Ch2 2024 · Dadansoddiad Benthyca: Ch2 2024 · Meincnodi Perfformiad Northern Trust
CYTUNWYD bod adroddiad Benthyca Gwarannau Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r bwrdd pensiwn eu hystyried.
CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi, 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau ers y cychwyn.
CYTUNWYD bod Adroddiad Perfformiad Northern Trust fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2024.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2024; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2024; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2024; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024; · Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael eu nodi.
|