Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr T. Bowler, Cynrychiolydd o’r Undeb a Mr M. Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 18 EBRILL 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
||||||||||
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i'w hystyried yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2023, fel a ganlyn:-
|
||||||||||
CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi cyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru fel archwilydd allanol y Gronfa Bensiwn. Roedd y cynllun yn nodi'r gwaith y mae ei dîm yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r risg archwilio a nodwyd a meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2023. Roedd hefyd yn nodi'r ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau'r tîm ac allbynnau arfaethedig.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
||||||||||
SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
||||||||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
||||||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd nifer o brosiectau sy'n cael eu cynnal, ynghyd â gwybodaeth am faterion perthnasol wrth weinyddu buddion y cynllun.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
||||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith. Cymeradwywyd Polisi Torri Amodau Cronfa Pensiwn Dyfed gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016 ac o dan y polisi, mae'n ofynnol rhoi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.
Ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn bu ychydig achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Mae'r gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd ac mae risgiau'n cael eu nodi fel rhai gweithredol a strategol. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor.
CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg yn cael ei nodi.
|
||||||||||
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.
|
||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau hynny.
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi.
|
||||||||||
ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: [1] Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Mr J. Jones a Mr A. Brown y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno. [2] Yn absenoldeb y Cadeirydd, etholwyd Mr Mike Evans i gadeirio'r cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol a fydd yn archwilio Dyraniad Asedau Strategol cyffredinol y portffolio buddsoddi ac yn rhoi argymhellion ynghylch lle y gellir gweithredu'r portffolio mor effeithiol â phosibl i gyflawni amcanion a gofynion y Gronfa.
CYTUNWYD bod yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol yn cael ei nodi.
|
||||||||||
DADANSODDIAD DWYSEDD CARBON Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Dadansoddi Dwyster Carbon a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa.
Dangosodd y diweddariad y Cyfartaledd Pwysedig o ran Dwyster Carbon (WACI) ar gyfer portffolio ecwiti'r Gronfa a dangosodd fod y Gronfa wedi lleihau ei hôl troed carbon o waelodlin o 147 WACI ym mis Medi 2020 i 102 WACI ym mis Mawrth 2023.
CYTUNWYD bod yr adroddiad Dadansoddi Dwyster Carbon yn cael ei nodi.
|
||||||||||
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2023 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.
|
||||||||||
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £9.6k. Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a oedd yn rhoi manylion mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023 yn cael ei nodi.
|
||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023 yn cael ei nodi.
|
||||||||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.
|