Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Lloyd, Cynrychiolydd Cyflogwyr, a Mr Mike Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwr sy'n Aelodau.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALWYD A 18FED HYDREF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 23 TACHWEDD 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 23 Tachwedd 2022, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1-4.9 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.
|
|
ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260.
Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2022, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 21 Hydref 2022.
Roedd Archwilio Cymru wedi canfod nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân wallau cyflwyno yn y datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.
CYTUNWYD i dderbyn adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2021/22.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Gan nad oedd unrhyw oblygiadau o ran yr achosion o dorri'r gyfraith nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod risgiau wedi cael eu nodi a'u hasesu. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor.
CYTUNWYD bod adroddiad y gofrestr risg yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Diweddariad gan y Gweithredwr a cherrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi. |
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-2023, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23 yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2023 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2022 - 31 RHAGFYR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £17.2k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £2.5k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-24 a oedd yn unol â'r gyllideb ar gyfer 2022-23.
CYTUNWYD bod y Gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cael ei chymeradwyo. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwyr buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2022, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2022 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2022 yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd adroddiadau a ddarparwyd gan y Rheolwyr Buddsoddi i'w hystyried, a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2022:
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2022; · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2022; · Partners Group - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2022; · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2022; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2022.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.
|