Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mercher, 20fed Gorffennaf, 2022 10.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Lloyd, Cynrychiolydd Cyflogwyr, a Mr Mike Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwr sy'n Aelodau.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alun Lenny, Cynrychiolydd Cyflogwyr, a oedd wedi cymryd lle'r Cynghorydd Philip Hughes ar y Bwrdd.  Nododd y Bwrdd ei ddiolch i'r Cynghorydd Hughes.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 3YDD MAI 2022 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 3 Mai 2022 gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 28AIN MEHEFIN 2022 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

4.1

2022 CYNLLUN ARCHWILIO pdf eicon PDF 770 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gynllun Archwilio Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn manylu ar y gwaith a gynigiwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, pryd y byddai'n cael ei gyflawni, y gost a'r cyfrifoldebau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch problemau adnoddau posibl yn Archwilio Cymru, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y bu problemau adnoddau ond nad oedd hyn wedi effeithio ar Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

4.2

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 25AIN IONAWR 2022 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 wedi'u derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 28 Mehefin 2022.

4.3

SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2021-22 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd sefyllfa derfynol cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 ar 31 Mawrth 2022.

 

Mewn ymateb i eglurhad y gofynnwyd amdano ynghylch Ffioedd Rheoli Trafodiadau Anuniongyrchol, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod hon yn eitem heb fod yn arian parod mewn perthynas â ffioedd trafodiadau sy'n rhan o'r portffolio.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n dosbarthu rhagor o fanylion er mwyn egluro.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod (Diwedd y Flwyddyn) a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.5m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y gwnaed rhagolygon llif arian dwy flynedd.  Dywedwyd wrth y Bwrdd fod y prisiad tair blynedd ar y gweill gyda'r Actiwari ac y byddai canlyniad yr adolygiad ar gael yn yr hydref ac mai'r prif ystyriaethau yw'r gyfradd chwyddiant uchel a'r lefel ariannu bresennol.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

4.5

DIWEDDARIADAU GWEINYDDOL pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol,  cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i bryderon ynghylch defnyddio i-Connect, dywedodd y Rheolwr Pensiynau eu bod yn parhau i roi anogaeth i gyflogwyr yn y cynllun nad ydynt yn weithredol ar i-Connect eto.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai adroddiad ar i-Connect gael ei gyflwyno mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gan roi manylion am y cynnydd o ran gweithredu a'r amserlenni.  Dywedodd y Rheolwr Pensiynau na fyddai'n bosibl adrodd ar amserlenni gan fod y rhain y tu hwnt i reolaeth y Gronfa Bensiwn ond y byddai diweddariad manylach ar weithredu yn cael ei roi. 

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad ar Weinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

4.6

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri amodau.

 

Gan nad oedd goblygiadau o ran torri amodau, nid oedd adroddiad wedi ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

4.7

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y gofrestr risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu hadnabod a'u hasesu. Adroddwyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi bod ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor. 

 

Codwyd pryder a fynegwyd yn flaenorol ynghylch strwythur yr adroddiad.  Pwysleisiodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, gan mai pecyn meddalwedd a ddefnyddir yn gorfforaethol gan yr Awdurdod yw hwn, fod cyfyngiadau o ran sut y gellid echdynnu a chyflwyno'r data.  Cytunwyd i gael trafodaethau pellach gyda'r Bwrdd i ganfod y ffordd orau o fynd i'r afael â'r cais hwn. 

 

Cytunwyd bod yr adroddiad ar y gofrestr risg yn cael ei nodi.

4.8

CYNLLUN HYFFORDDI 2022-23 pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-2023 a oedd yn rhoi manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer

2022-23 yn cael ei nodi.

4.9

DIWEDDARIAD AR ÔL TROED CARBON pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon Cronfa Bensiwn Dyfed.  

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y bydd y Diweddariad ynghylch Ôl Troed Carbon yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Cytunodd y Bwrdd y byddai'n fuddiol cael cyflwyniad blynyddol yn tynnu sylw at yr hyn y mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei wneud a sut y gallai fod yn lleihau ei hôl troed carbon.

 

CYTUNWYD bod y Diweddariad ynghylch Ôl Troed Carbon mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

4.10

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28AIN MEHEFIN 2022 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd pam mai dim ond tri o'r Cynghorwyr oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Pensiwn ar 28 Mehefin oedd wedi datgan buddiant.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y Cynghorydd Owen yn bresennol fel sylwedydd ac felly nad oedd yn rhaid iddi ddatgan buddiant, gan nad oedd hi'n bresennol fel aelod â phleidlais.  Nid oedd yn rhaid i Aelodau'r Bwrdd Pensiwn ddatgan buddiant gan eu bod yn cyflawni rôl craffu ac nad oeddent yn gwneud penderfyniadau.

 

CYTUNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 yn cael eu nodi.

5.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022-2023 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022-23 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i'r diweddariad blynyddol ar Ôl Troed Carbon Cronfa Bensiwn Dyfed (fel y trafodwyd yn eitem 4.9 ar yr agenda) gael ei gynnwys fel eitem ar wahân yng Nghynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn. 

 

Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn cael ei gynnal ar y cyd â'r Bwrdd i gytuno ar ofynion datblygu aelodau'r Bwrdd. 

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022-2023 yn cael ei nodi.

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1AF EBRILL 2022 - 30AIN MEHEFIN 2022 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn ar 30 Mehefin 2022.  Cyfanswm y gwir wariant oedd £9.1k.  Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £3k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31AIN MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad o ran buddsoddiadau mewn perygl.

 

Cafodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2022, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod  Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022, yn cael ei nodi.

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31AIN MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad o ran buddsoddiadau mewn perygl.

 

Cafodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2022, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod  Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022, yn cael ei nodi.

10.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31AIN MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad o ran buddsoddiadau mewn perygl.

 

Cafodd y Bwrdd adroddiadau gan y rheolwyr buddsoddi i'w hystyried a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022:

 

·         BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Mawrth 2022;

·         Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch1 2022;

·         Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Mawrth 2022;

·         Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2022;

·         Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2022.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.