Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Mr Mike Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau a Mr Paul Ashley Jones, Cynrychiolydd Aelodau.
Croesawyd Mr Michael Evans, Cynrychiolydd Aelodau, gan y Cadeirydd.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 25 IONAWR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 yn gywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 29 MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 9 TACHWEDD 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 31 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 31 Mehefin 2021.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Tynnwyd sylw at y ffaith fod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2022/23 a oedd wedi'i bennu ar £107.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £107.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.
O ran lefelau gwariant, nododd y Bwrdd fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £93.9m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 3.1% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2021, ynghyd ag effaith net o 1.9% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pryd y byddai pob cyflogwr yn weithredol ar i-Connect, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed hefyd wedi codi ymholiad tebyg a dywedodd fod yr amserlen yn cael ei phennu gan gyflogwyr yn blaenoriaethu cynhyrchu darn mewn fformat penodol i'w lwytho'n uniongyrchol i mewn i'r system bensiynau.
Gofynnodd y Bwrdd am anogaeth bellach i'r cyflogwyr hynny sy'n rhan o'r cynllun ac sydd heb ddod yn weithredol ar i-Connect hyd yn hyn.
CYTUNWYD bod Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Gan nad oedd unrhyw oblygiadau i'r achosion o dorri'r rheolau, nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau, ond dywedwyd ei bod yn ymddangos bod patrwm mynych o achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi'u derbyn yn brydlon. Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod ymgysylltu parhaus yn digwydd er mwyn lleihau'r mathau hyn o achosion o dorri amodau.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg wedi'i hadolygu a bod risg CSV400035 wedi'i diwygio a bod risg newydd CSV400036 – Risg y Farchnad Ariannol Fyd-eang wedi'i chynnwys.
O ran nifer y risgiau a restrir ar y gofrestr risg, gofynnodd y Bwrdd a ellid cynhyrchu adroddiad mwy cryno yn tynnu sylw at y risgiau strategol ar wahân i'r risgiau gweithredol?
Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n cysylltu â'r tîm sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r adroddiad ac yn y cyfamser byddai'r risgiau'n cael eu hadolygu bob chwarter a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn i sylw'r Bwrdd.
|
|
DIWEDDARIARD YNGHYLCH BUDDSODDI CYFRIFOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chynnydd y Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu, stiwardiaeth (Ymgysylltu /Cyfathrebu) a'r cynnydd a wnaed hyd yma.
Roedd y Bwrdd yn falch o dderbyn yr adroddiad a gofynnwyd am gyfleoedd i roi cyhoeddusrwydd ehangach i'r adroddiad.
CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi Cyfrifol mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.
|
|
POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Bolisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn cynnwys yr eitemau canlynol:
· Cyflwyniad · Buddsoddi Cyfrifol · Credoau Buddsoddi · Rôl y Bwrdd Pensiwn · Rhoi Benthyg Stoc · Ymgysylltu · Newid yn yr Hinsawdd · Hawliau Dynol
CYTUNWYD bod Polisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cynllun Pensiwn Dyfed yn cael ei nodi
|
|
CYNLLUN BUSNES 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022/23 yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23 yn cael ei nodi.
|
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2022-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2022-2025, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.
CYTUNWYD bod Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-25 yn cael ei gymeradwyo.
|
|
Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU LINK A RUSSELL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-Gronfeydd ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa a Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu Buddsoddiadau Link / Russell, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar 29 Mawrth 2022.
Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.
CYTUNWYD bod Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr yn cael ei dderbyn a bod y cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.
|
|
PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED DRAFFT - 29 MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022 yn cael eu nodi.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2022-23 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYDbod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022-2023 yn cael ei nodi.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 31 MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn ar 31 Mawrth 2022. Cyfanswm y gwir wariant oedd £14.477k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £9.683k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi
Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei nodi
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Derbyniodd y Bwrdd adroddiadau i'w hystyried a ddarparwyd gan y Rheolwyr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021:
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021; · Schroders – Adroddiad Buddsoddi Ch4 2021 31 Rhagfyr 2021; · Partners Group – Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021; · Cronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 31 Rhagfyr 2021; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 31 Rhagfyr 2021.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.
|