Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mawrth, 3ydd Mai, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mr Mike Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau a Mr Paul Ashley Jones, Cynrychiolydd Aelodau.

 

Croesawyd Mr Michael Evans, Cynrychiolydd Aelodau, gan y Cadeirydd.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 25 IONAWR 2022 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 yn gywir.

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 29 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 513 KB

Dogfennau ychwanegol:

4.1

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 9 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.2

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 31 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 31 Mehefin 2021.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.3

CYLLIDEB 2022-2023 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.  Tynnwyd sylw at y ffaith fod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2022/23 a oedd wedi'i bennu ar £107.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £107.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian. 

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Bwrdd fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £93.9m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 3.1% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2021, ynghyd ag effaith net o 1.9% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.5

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol,  cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pryd y byddai pob cyflogwr yn weithredol ar i-Connect, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed hefyd wedi codi ymholiad tebyg a dywedodd fod yr amserlen yn cael ei phennu gan gyflogwyr yn blaenoriaethu cynhyrchu darn mewn fformat penodol i'w lwytho'n uniongyrchol i mewn i'r system bensiynau. 

 

Gofynnodd y Bwrdd am anogaeth bellach i'r cyflogwyr hynny sy'n rhan o'r cynllun ac sydd heb ddod yn weithredol ar i-Connect hyd yn hyn.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

 

 

4.6

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Gan nad oedd unrhyw oblygiadau i'r achosion o dorri'r rheolau, nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau, ond dywedwyd ei bod yn ymddangos bod patrwm mynych o achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi'u derbyn yn brydlon.  Eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod ymgysylltu parhaus yn digwydd er mwyn lleihau'r mathau hyn o achosion o dorri amodau.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

 

 

4.7

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg wedi'i hadolygu a bod risg CSV400035 wedi'i diwygio a bod risg newydd CSV400036 – Risg y Farchnad Ariannol Fyd-eang wedi'i chynnwys.

 

O ran nifer y risgiau a restrir ar y gofrestr risg, gofynnodd y Bwrdd a ellid cynhyrchu adroddiad mwy cryno yn tynnu sylw at y risgiau strategol ar wahân i'r risgiau gweithredol?

 

Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n cysylltu â'r tîm sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r adroddiad ac yn y cyfamser byddai'r risgiau'n cael eu hadolygu bob chwarter a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn i sylw'r Bwrdd.

 

 

4.8

DIWEDDARIARD YNGHYLCH BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chynnydd y Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu, stiwardiaeth (Ymgysylltu /Cyfathrebu) a'r cynnydd a wnaed hyd yma.

 

Roedd y Bwrdd yn falch o dderbyn yr adroddiad a gofynnwyd am gyfleoedd i roi cyhoeddusrwydd ehangach i'r adroddiad.

 

CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi Cyfrifol mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.

 

 

 

4.9

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Bolisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn cynnwys yr eitemau canlynol:

 

·       Cyflwyniad

·       Buddsoddi Cyfrifol

·       Credoau Buddsoddi

·       Rôl y Bwrdd Pensiwn

·       Rhoi Benthyg Stoc

·       Ymgysylltu

·       Newid yn yr Hinsawdd

·       Hawliau Dynol

 

CYTUNWYD bod Polisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cynllun Pensiwn Dyfed yn cael ei nodi

 

 

4.10

CYNLLUN BUSNES 2022-2023 pdf eicon PDF 481 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.11

CYNLLUN HYFFORDDI 2022-23 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.12

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2022-2025 pdf eicon PDF 995 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2022-2025, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-25 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

4.13

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 640 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-Gronfeydd ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa a Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu Buddsoddiadau Link / Russell, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar 29 Mawrth 2022.

 

Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr yn cael ei dderbyn a bod y cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.

 

 

4.14

PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED DRAFFT - 29 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022 yn cael eu nodi.

 

 

5.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022-2023 pdf eicon PDF 412 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2022-23 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

CYTUNWYDbod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2022-2023 yn cael ei nodi.

 

 

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 417 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn ar 31 Mawrth 2022. Cyfanswm y gwir wariant oedd £14.477k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £9.683k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei nodi

 

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei nodi.

 

 

10.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.

 

Derbyniodd y Bwrdd adroddiadau i'w hystyried a ddarparwyd gan y Rheolwyr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021:

 

· BlackRock  - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021;

· Schroders – Adroddiad Buddsoddi Ch4 2021 31 Rhagfyr 2021;

· Partners Group – Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021;

· Cronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 31 Rhagfyr 2021;

· Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 31 Rhagfyr 2021.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.