Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan MR. M. Rogers (Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 9FED TACHWEDD 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|
CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 3 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2021 wedi'u derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Medi, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £2.4m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD i nodi'r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
CYTUNWYD i nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
COFRESTR RISG 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers y cyfarfod diwethaf. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Bwrdd.
Cytunwyd bod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei nodi.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu a dyddiadau cyfarfodydd allweddol.
CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|
ATODIAD CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAChU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Atodiad i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd wedi’i lofnodi gan bob un o'r 8 awdurdod cyfansoddol.
CYTUNWYD i nodi'r Atodiad i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD y dylid nodi Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22. |
|
DIWEDDARIAD AR ÔL TROED CARBON Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd diweddariad ynghylch Cynllun Gweithredu Ôl Troed Carbon Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod gostyngiad mewn dwyster carbon o flaen y targed sy’n gyson â Chytundeb Paris (-7% y flwyddyn) wedi’i gyflawni a bod cynlluniau ar waith i leihau ôl troed carbon dros y flwyddyn i ddod. Roedd camau gweithredu yn y dyfodol yn cynnwys adolygiad parhaus o Ddyraniad Asedau Strategol, gyda’r nod o leihau’r ôl troed Carbon, gan barhau i gyflawni nodau ariannol a mwy o gyfathrebu â rhanddeiliaid. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu bob chwarter. Canmolodd yr Aelodau y cynnydd rhagorol sy'n cael ei wneud a chytunodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn i ystyried yr awgrym y dylid tynnu sylw at hyn.
CYTUNWYD i nodi’r diweddariad mewn perthynas ag Ôl Troed Carbon Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 3 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD y dylid nodi cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2021.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD i nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2021.
|
|
CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23 a oedd yn unol â'r gyllideb ar gyfer 2021-22.
CYTUNWYD i gymeradwyo'r Gyllideb ar gyfer 2022-23.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 31 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn ar 31 Rhagfyr 2021. Cyfanswm y gwir wariant oedd £11.3k. Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £9.3k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad buddsoddi mewn perygl.
Derbyniodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2021 yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad buddsoddi mewn perygl.
Derbyniodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad ar lefel y gronfa gyfan ac yn ôl rheolwyr buddsoddi am y cyfnodau hyd at ddechrau’r adroddiad.
CYTUNWYD i nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi perfformiad buddsoddi mewn perygl.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiadau'r Rheolwyr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Medi 2021: ·BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2021; ·Schroders – Adroddiad Buddsoddi Ch2 2021 30 Medi 2021; ·Partners Group – Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2021; · Cronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Medi 2021; · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Medi 2021.
CYTUNWYD i nodi adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|