Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Mike Rogers - Cynrychiolydd Pensiynwyr.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai dyma gyfarfod olaf Mr Gwyn Jones ac, ar ran y bwrdd, mynegodd ei werthfawrogiad am ei gyfraniad gwerthfawr a phroffesiynol i waith y Bwrdd yn ystod ei gyfnod yn y swydd. |
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod. |
|||||
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 20 GORFFENNAF 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir. |
|||||
CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 8 HYDREF 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriwyd at sylwadau'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yng nghofnod 8 cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed mewn perthynas â Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft 2021 ac at gyfarfod a oedd i’w drefnu gyda chynrychiolwyr Divest Dyfed. Nodwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2021 ac yn cael ei adrodd i gyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn y dyfodol.
CYTUNWYD bod cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2021 yn cael eu nodi. |
|||||
ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260.
Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2021, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ar 12 Hydref 2021.
Roedd Archwilio Cymru hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân gamgymeriadau yn y cyflwyniadau i'r datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod un mater a oedd yn weddill ar adeg yr Archwiliad yn ymwneud â Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, a oedd yn fater cenedlaethol, bellach wedi'i ddatrys.
CYTUNWYD bod adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2020-21 yn cael ei dderbyn. |
|||||
DATGANIAD CYFRIFON 2020-21; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Datganiad Drafft Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020/21, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2020-21, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2020-21 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. - atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y costau rheoli uwch wedi digwydd o ganlyniad i drosglwyddiadau rhwng gwahanol gronfeydd ac fe'u cofnodwyd yn unol â'r Côd Tryloywder
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 16 EBRILL 2021; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 16 Ebrill, 2021 wedi'u derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021. Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £102.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £104.8m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £2m.
Cyfeiriwyd at gyfnod mis Ebrill - Mehefin 2021 yn yr adroddiad ac at y cadarnhad bod rhywfaint o'r data a nodwyd wedi'i ddiweddaru hyd at ddiwedd Medi 2021. Awgrymwyd, pe bai gwybodaeth wedi'i diweddaru yn cael ei darparu mewn adroddiadau yn y dyfodol, y dylid cynnwys nodyn esboniadol i'r perwyl hwnnw er eglurder.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2021; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £11m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
DRAFFT DATGANIAD STRATEGAETH FUDDSODDI 2021; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynai'r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft ar gyfer 2021 i'w gymeradwyo. Mae Datganiad Cronfa Bensiwn Dyfed, sy'n ofynnol o dan reoliad 7 o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi mewn Cronfeydd) 2016, yn nodi strategaeth fuddsoddi gyfredol y Gronfa, yn darparu tryloywder mewn perthynas â sut y caiff buddsoddiadau'r Gronfa eu rheoli, ac yn gweithredu fel cofrestr risg lefel uchel, ac roedd wedi'i dylunio i fod yn ddefnyddiol i'r holl randdeiliaid. Nodwyd hefyd bod y Strategaeth yn disodli Datganiad Egwyddorion Buddsoddi'r Gronfa.
CYTUNWYD bod y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft 2021 yn cael ei nodi. |
|||||
WEDI'I DDIWEDDARU DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a ddarparodd y Datganiad Strategaeth Ariannu ddiweddaraf o'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol gan y Pwyllgor Pensiwn ar 2 Mawrth 2020, ac roedd yn adlewyrchu hyblygrwydd newydd cyflogwyr ynghylch Trefniadau Taenu Dyledion a Chytundebau Dyledion Gohiriedig
Roedd y Datganiad yn nodi strategaeth ariannu eglur a thryloyw a fydd yn nodi sut y byddai rhwymedigaethau pensiwn pob un o gyflogwyr y Gronfa yn cael eu bodloni yn y dyfodol.
CYTUNWYD bod y Datganiad Strategaeth Gyllido ddiweddaraf yn cael ei nodi. |
|||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a roddai ddiweddariad ar
Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad
yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth
Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion
rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y
gofrestr torri amodau,
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|||||
COFRESTR RISG 2021-22; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.
Cytunwyd bod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei nodi. |
|||||
DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR; Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-Gronfeydd ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa a Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu Buddsoddiadau Link / Russell, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar 22 Medi 2021.
Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.
CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. |
|||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 yn cael ei nodi. |
|||||
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2022 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD i nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2022. |
|||||
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 30 MEDI 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb derfynol y Bwrdd Pensiwn a bu'n ystyried y sefyllfa gyllidebol ar 30 Medi 2021. Y sefyllfa derfynol ar 30 Medi 2021 oedd tanwariant o'i gymharu â chyllideb o £4.6k.
CYTUNWYD i dderbyn adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiynau 1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021. |
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
CYTUNWYD bod Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 yn cael ei nodi. |
|||||
AILSTRWYTHURO ECWITI - CAM II. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Cafodd y Bwrdd adroddiad ar Gam II Ailstrwythuro Ecwiti a ddarparodd gynigion ynghylch ail gam cam camau gweithredu arfaethedig y Gronfa gyda'r nod o leihau ôl troed carbon a gwella'r llif arian a gynhyrchir o'r portffolio. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 8 Hydref 2021.
CYTUNWYD bod y cynigion fel y'u nodir yn adroddiad Cam II Ailstrwythuro Ecwiti yn cael eu nod.
|
|||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Ystyriodd Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 yn cael ei nodi. |
|||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2021: Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri risg i'r perfformiad buddsoddi.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiadau Rheolwyr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2021: ·BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin: 2021; ·Schroders - Adroddiad Buddsoddi 2021 Chwarter 2 30 Mehefin 2021; ·Partners Group - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2021; · Cronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021; · Cronfa Gredyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021.
CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi. |