Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr Gwyn Jones (Cynrychiolydd Aelodau) a Mr Paul Ashley-Jones (Cynrychiolydd Cyflogwyr sy'n Aelodau)
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 16 EBRILL 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 16 MEHEFIN 2021 Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 17 CHWEFROR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Bwrdd fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2021 wedi eu derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 1 EBRILL 2020 - 31 MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd sefyllfa Gyllidebol derfynol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020-21 ar 31 Mawrth 2021 a oedd yn dangos gorwariant o gymharu â chyllideb o £837k ar eitemau arian parod. Cyfanswm y gwariant oedd £101.3m a chyfanswm yr incwm oedd £100.5m.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £8.8m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, adroddiadau Ansawdd Data, cysoniad GMP a llif gwaith.
Cyfeiriwyd at y diweddariad Rheoleiddio. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r wybodaeth ddiweddaraf am McCloud/Sargeant, esboniodd y Rheolwr Pensiynau fod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda 3 o’r cyflogwyr mwyaf er mwyn egluro’r categorïau a’r aelodau yr oedd angen uwchlwythiadau ar eu cyfer ac y rhagwelwyd y byddai rheoliadau a chanllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2022 yn dilyn ymgynghoriad.
Yn dilyn pryder a godwyd ynghylch faint o waith fyddai casglu data ar gyfer gweithwyr sydd wedi gweithio rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod angen ailgyfrifo'r buddion, ac y byddai hyn yn cael ei gwblhau maes o law trwy gynllun prosiect manwl.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Nododd y Bwrdd fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Roedd y rheini bellach wedi dod i law felly nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed
|
|
COFRESTR RISG 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau wedi cael eu nodi a'u hasesu. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor.
Dywedwyd wrth Aelodau'r Bwrdd fod y wybodaeth yn y pennawd wedi cynnwys gwybodaeth a ddarparwyd i Bwyllgor Bwrdd Pensiwn Dyfed.
Cytunwyd i nodi adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022.
|
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2021-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2021-2024, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.
Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â pholisi ynghylch cyfranddaliadau pleidleisio, eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi penodi Robeco UK fel y darparwr pleidleisio ac ymgysylltu a’i fod yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar weithgaredd pleidleisio yn ogystal â darparu adroddiadau chwarterol a blynyddol.
CYTUNWYD i nodi Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-24.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-2022, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
CYTUNWYD y dylid nodi Cynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-22.
|
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 16 MEHEFIN 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD y dylid nodi cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.
|
|
CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2021 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2021 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.
CYTUNWYD i nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2021.
|
|
MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb terfynol y Bwrdd Pensiwn a rhoddwyd ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol fel ag yr oedd ar 30 Mehefin 2021. Ar 30 Mehefin 2021, dangoswyd tanwariant o'i gymharu â chyllideb o £4.5k.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn 1 Ebrill 2020 – 30 Mehefin 2021.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.
Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2021, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.
Derbyniodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021. Rhoddwyd ystyriaeth i'r atodiadau canlynol:-
CYTUNWYD i nodi adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi - Atodiad A-E ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD CEM BENCHMARKING 2019-20 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn. </AI20> <TRAILER_SECTION>
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad CEM Benchmarking 2019-2020 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn cynnwys asesiad annibynnol o werth am arian trwy gymharu costau a pherfformiad â chronfeydd pensiwn eraill.
CYTUNWYD i nodi adroddiad CEM Benchmarking 2019-2020 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|