Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mercher, 17eg Chwefror, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr M. Rogers [Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau].

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 20FED TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2020 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

4.

PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 451 KB

Dogfennau ychwanegol:

4.1

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 30 MEDI 2020 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 30 Medi 2020.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

4.2

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Tachwedd, 2020 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £22.634m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

 CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.3

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-21 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau nad oedd unrhyw achosion mawr o dorri rheolau yn y Gronfa.

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiad mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

4.4

COFRESTRE RISG 2020-21 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r gofrestr risg fel yr oedd ar 29 Rhagfyr 2020. Er na chyfeiriwyd yn benodol at Covid-19 yn y gofrestr, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y gellir adolygu hyn mewn perthynas â'r Gofrestr Risg ar gyfer 2021/22.

Ystyriwyd ei bod yn galonogol nodi bod presenoldeb yn y cynadleddau a'r seminarau cenedlaethol rhithwir a drefnwyd ar gyfer aelodau wedi bod yn uwch na'r arfer. 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd sicrwydd i'r Bwrdd bod gan Gyngor Sir Caerfyrddin, sef awdurdod cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru, ddigon o adnoddau staff ar hyn o bryd i ddarparu'r cymorth angenrheidiol.

 

CYTUNWYD y dylid nodi'r adroddiad ac y dylid tynnu sylw at unrhyw newidiadau mawr i'r gofrestr mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

 

4.5

DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR - LINK A RUSSELL INVESTMENTS pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r is-gronfeydd canlynol ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa a Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol Link / Russell Investments.

 

· Tranche 3 - Incwm Sefydlog;

· Tranche 4 – Marchnadoedd Datblygol;

· Tranche 5 – Datblygu strategaeth Marchnadoedd Preifat.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Bwrdd na ddylai unrhyw gaffaeliad o'r Link Group effeithio ar ei ymrwymiad i Bartneriaeth Bensiwn Cymru a byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith nad oedd Protocol Ymgysylltu LFS yn cyfeirio at y ffaith bod Link and Russell yn cynnal cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda Chadeiryddion Byrddau Pensiwn a gofynnodd i hyn gael ei adrodd yn ôl.

RR

CYTUNWYD y dylid derbyn yr adroddiad.

 

4.6

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 11 IONAWR 2021 pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD y dylid derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2021.

 

5.

AILSTRWYTHURO ECWITI pdf eicon PDF 454 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar gynigion y cytunwyd arnynt gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer ail-strwythuro portffolio ecwiti Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi ystyriaeth i risg sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a sefydlu portffolios Partneriaeth Pensiwn Cymru. Byddai strwythur portffolio Ecwiti BlackRock Gwaddol gwerth £1.27Bn yn cael ei adolygu i'w alluogi i weithio'n galetach i gyflawni nod y Gronfa o ran perfformiad tymor hir a risgiau yn sgil yr hinsawdd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac allyriadau carbon, dywedwyd wrth y Bwrdd fod y rhain yn faterion a oedd yn cynyddu'r risg o fuddsoddi mewn rhai meysydd. Nodwyd bod y mater 'ôl troed carbon' wedi'i godi'n gyntaf gan Bwyllgor Pensiwn Dyfed yn 2017 a bod strategaeth ar waith a oedd yn anelu at ei leihau'n barhaus. O ran 'lleoliaeth', nodwyd er y bu buddsoddiad mewn dwy fferm paneli haul yn Sir Benfro, bod yn rhaid pwyso a mesur hyn ochr yn ochr ag enillion posibl.

 

Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad a'r cynnydd oedd yn cael ei wneud.

 

CYTUNWYD y dylid nodi'r adroddiad ac y dylid adrodd ar ddatblygiadau pellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

6.

CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2021-22 pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 a oedd wedi cynyddu tua 15% o gyllideb 2020-21 o ganlyniad i'r ffioedd uwch ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn ac Yswiriant Atebolrwydd Bwrdd Pensiwn.

 

CYTUNWYD i nodi'r Gyllideb ar gyfer 2020-21.

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

 

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2020, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2020.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2020.