Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Gwener, 20fed Tachwedd, 2020 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 38776192# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 2 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod ar y cyd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020.

5.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 24 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gofnod 10 o'r cyfarfod a oedd yn ymwneud ag ystyriaeth gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed o Hysbysiad o Gynnig y Cyngor ynghylch bod y Gronfa yn ymwrthod â thanwydd ffosil, a hefyd e-bost roedd rhai aelodau o'r Bwrdd Pensiwn wedi ei gael yr wythnos honno ar yr un mater. Er cydnabod nad oedd yr e-bost wedi'i dderbyn mewn da bryd i'w drafod gan y Bwrdd yn ei gyfarfod y diwrnod hwnnw, nodwyd ei fod yn un o nifer o sylwadau tebyg a ddaethai i law'r Cyngor yn ddiweddar ac y byddai pob gohebydd yn cael ymateb cyflawn.  Barnwyd y dylid rhoi adroddiad diweddaru ar y mater ar agenda cyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Bwrdd fod cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2020, lle trafodwyd y mater hwn, wedi'i we-ddarlledu a'i fod ar gael i'w wylio ar wefan y Cyngor.

 

CYTUNWYD: 

 

5.1

derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd wedi ei gynnal ar 24 Mehefin 2020;

5.2

cyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd adroddiad ar yr ymateb a anfonwyd at y gohebwyr ynghylch Cronfa Bensiwn Dyfed yn ymwrthod â thanwydd ffosil.

 

6.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 16 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.1

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2019-20 pdf eicon PDF 817 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2020, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio y Cyngor ar 16 Hydref 2020. 

 

Canfu Archwilio Cymru nad oedd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd dal heb gael eu cywiro, ond roedd nifer o fân gamddatganiadau wedi'u cywiro gan y rheolwyr fel y'u rhestrir yn Atodiad 3.

 

Ystyriodd y Bwrdd yr amgylchiadau anodd ar hyn o bryd o achos pandemig Covid-19, a mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad i'r holl staff oedd ynghlwm wrth gynhyrchu'r adroddiad.

 

CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2019–20

6.2

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 30 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 30 Mehefin 2020.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Mehefin, a bod y cyfarfod y diwrnod hwnnw ar 20 Tachwedd, ac a fyddai'n bosibl rhoi gwybodaeth fwy diweddar i'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y dyfodol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'n archwilio'r mater hwnnw ac yn cyflwyno adroddiad wedi'i ddiweddaru i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

6.3

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2020 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £21.719m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

 CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

6.4

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-21 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

Nododd y Bwrdd fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r cyrff oedd yn rhan o'r Bwrdd i leihau'r achosion hyn o dorri amodau. Fodd bynnag, er nad oedd yr achosion o dorri amodau'n cyfateb i swm sylweddol o arian, roedd yn rhaid eu cofnodi o hyd.

 

O ran Eitem 90 a 96 yn yr adroddiad, mewn perthynas â thalu ad-daliadau, hysbyswyd y Bwrdd fod y toriad yn ymwneud â gofyniad i dalu ad-daliadau awtomatig ar ôl pum mlynedd i aelodau'r cynllun a wnaeth adael ar ôl Ebrill 2014. Roeddid wedi cysylltu ag aelodau'r cynllun yr oedd hyn wedi effeithio arnynt i ofyn am eu manylion banc ond nid oedd ateb wedi dod i law. Roedd Gr?p Technegol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cydnabod y mater hwn ar raddfa genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas ag ad-dalu symiau bach o arian, ac wedi argymell bod Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun yn gofyn i Weinidogion newid y Rheoliad.

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiad mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

6.5

COFRESTR RISG 2020-21 ADOLYGIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y Gofrestr Risg wedi'i chynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod, a dylid cywiro hynny ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn galluogi'r Bwrdd i ystyried risgiau posibl i'r gronfa. Mynegwyd barn hefyd y dylai'r adroddiad, os oedd yn bosibl, gael ei rhannu'n risgiau gweithredol a strategol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, gan nad oedd y gofrestr risg wedi newid ers yr adroddiad diwethaf i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2020, fod dolen i'r adroddiad hwnnw wedi'i darparu gyda'r agenda. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sicrwydd i aelodau'r Bwrdd y byddai'r gofrestr yn cael ei chynnwys ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. Byddai hefyd yn edrych ar ymarferoldeb rhannu adroddiadau yn y dyfodol yn risgiau gweithredol a strategol.

 

CYTUNWYD

6.5.1

I nodi'r esboniad

6.5.2

I ystyried y Gofrestr Risg ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn

 

6.6

DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-                  Daliadau Cyfredol y Gronfa;

-                  Cynnydd Lansio'r Gronfa;

-                  Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 59 yr adroddiad ac a fyddai'n bosibl i aelodau Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed a Phwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed dderbyn hyfforddiant ar ddatblygu Strategaeth Marchnad Breifat Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y gellid darparu hyfforddiant priodol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i gwestiwn ar gyfethol cynrychiolydd undeb llafur i Gyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, fod y Cyd-bwyllgor yn edrych ar fater aelodau cyfetholedig a'r gobaith oedd y gellid cyflwyno adroddiad, a fyddai'n manylu ar y broses a'u penodiad, i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwnnw.

 

CYTUNWYD y dylid derbyn yr adroddiad diweddaru.

6.7

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 16 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2020.

CYTUNWYD bod y COFNODION yn cael eu nodi.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

8.

ADRODDIAD MYNEGEION CARBON ISEL (O GYFARFOD PWYLLGOR 24 MEHEFIN 2020)

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol. 

 

Cafodd y Bwrdd adroddiad yn manylu ar gynigion y Gronfa ar gyfer buddsoddiadau mynegeion carbon isel

 

CYTUNWYD derbyn yr adroddiad Mynegeion Carbon Isel.

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFEIN 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin.

 

10.

BENTHYCA GWARANNAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol. 

 

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru ar fenthyca gwarannau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 30 Mehefin 2020, ynghyd ag incwm a gynhyrchwyd ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad Benthyca Gwarannau.

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol. 

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020.