Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mawrth, 9fed Gorffennaf, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Phillip Hughes (Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynrychiolydd y Cyflogwr), Mr Mike Rogers (Cynrychiolydd y Pensiynwr), Mr Chris Moore a Mr Randal Hemingway.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Ian Eynon (Cynrychiolydd y Cyflogwr) am ei gyfraniadau i'r Bwrdd ac estynnodd ei ddymuniadau gorau iddo ar ei ymddeoliad.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 21 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 370 KB

Cofnodion:

O ran Eitem 9 (Benthyca Gwarannau), dywedodd Mr Parnell fod Cyngor Torfaen bellach wedi cytuno â'r egwyddor o fenthyca gwarannau.

 

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 19 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Er ystyriaeth, cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 19 Mehefin 2019.

 

4.1

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 21AIN CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2019.

 

CYTUNWYD bod y cofnodion yn cael eu nodi.

 

4.2

GWEITHGAREDDAU MONITRO'R GYLLIDEB 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.3

DATGANIAD CYFRIFON HEB EU HARCHWILIO 2018-19 pdf eicon PDF 633 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2018-19, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2018-19 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod. 

 

Nodwyd bod sefyllfa'r Gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, yn nodi mai gwerth y cyfanswm asedau oedd £2.575bn, i fyny o £2.44bn yn 2017/18. Roedd hwn yn gynnydd o £135m yn yr asedau net o 2017/18 i 2018/19. O ran gwariant y Gronfa, daeth y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau i gyfanswm o £87m a'r adenillion yn sgil buddsoddi i £152m.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mr Parnell fod disgwyl i'r broses o drawsnewid i Bartneriaeth Pensiwn Cymru godi costau tymor byr oherwydd costau trawsnewid ond disgwylir y bydd arbedion o ran costau rheolwr buddsoddi yn y tymor hir. Byddai cynnydd yn cael ei fonitro a'i adrodd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu (JGC) yn chwarterol. Byddai manylion am y costau trawsnewid yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor a'r Bwrdd Pensiwn yn eu cyfarfodydd nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfraniadau, dywedodd Mr Parnell fod gwahaniaethau rhwng ffigurau Cyfrif y Gronfa a Monitro'r Gyllideb yn bennaf oherwydd gwahanol ffyrdd o gyfrifyddu mewn perthynas ag athrawon ymddeoledig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch achos McCloud, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r materion yn berthnasol i unrhyw weithiwr neu weithiwr blaenorol â dyddiad geni cyn 1 Ebrill 1957. Roedd yr apêl wedi cael ei gwrthod bellach, a byddai'r cyfrifon yn cael eu diwygio'n unol â hynny a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi.

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys enwau Aelodau'r Bwrdd Pensiwn yn yr adroddiad.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 9 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2018-19 pdf eicon PDF 375 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.

 

O ran Eitem 62 yn yr adroddiad, rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Bwrdd fod yr achos o dorri amodau'n ymwneud â gofyniad i dalu ad-daliadau awtomatig ar ôl pum mlynedd i aelodau'r cynllun a oedd wedi gadael ar ôl Ebrill 2014. Cysylltwyd ag aelodau'r cynllun yr oedd hyn wedi effeithio arnynt i ofyn am eu manylion banc ond nid oedd ateb wedi dod i law. Roedd Gr?p Technegol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cydnabod y mater hwn ar raddfa genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas ag ad-dalu symiau bach o arian, a gofynnodd Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun i Weinidogion newid y Rheoliad.

 

O ran Eitem 61, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod yr achos o dorri amodau o ganlyniad i faterion staffio ond bod ymgysylltu cyson â'r cyfrifydd a oedd yn ceisio unioni'r mater. Yn ogystal, dywedwyd wrth y Bwrdd fod y mwyafrif o achosion o dorri amodau mewn perthynas ag oedi tymor byr o ran cyflogwyr bach.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.6

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (WPP) pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd a'r cerrig milltir hyd yn hyn.

 

Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf allweddol ganlynol:

·         Cerrig Milltir Allweddol

·         Y cynnydd hyd yn hyn

o   Cronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang)

o   Tranche 2 (Ecwitis y DU ac Ewrop)

o   Tranche 3 (Incwm Sefydlog)

·         Y Camau Nesaf

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn archwilio marchnadoedd preifat ar hyn o bryd. Byddai is-gr?p o'r Gweithgor Swyddogion yn cynnal cyfarfod yngl?n â'r pwnc ym mis Gorffennaf. Roedd Tracey Williams wedi'i phenodi'n Uwch-swyddog y Gwasanaethau Ariannol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. O ran cyfathrebu, byddai gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru yn weithredol erbyn dechrau mis Awst ac roedd tudalen LinkedIn wedi'i sefydlu. Roedd gweithdy yn ymwneud â pholisi cyfathrebu wedi cael ei gynnal ar ôl cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Mehefin. Yn dilyn hyn byddai gweithdy yn ymwneud â llywodraethu yn cael ei gynnal ar ôl cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.7

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT WPP pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd y fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddiad Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried. Dywedwyd fod y polisi trosfwaol hwn yn cynnwys egwyddorion y byddai angen i bob cronfa eu hystyried ond ei fod wedi'i lunio mewn ffordd a allai ddarparu ar gyfer polisïau Buddsoddiad Cyfrifol cronfeydd unigol. Byddai'n rhaid i bob un o'r wyth cronfa ystyried y polisi drafft, a fyddai'n cael ei ddychwelyd i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Mr Parnell fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch y posibilrwydd o gyflogi darparwr ymgysylltu (Paragraff 7.12).  O ran monitro metrigau (Paragraff 9.1), rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai metrigau posibl yn cael eu harchwilio gan y Gweithgor Swyddogion ar y cyd â Russell. Byddai monitro a chyflwyno adroddiadau ynghylch y polisi'n cael eu cyflawni gan Link a Russell.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

6.

IS-GRONFEYDD INCWM SEFYDLOG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad am yr is-gronfeydd arfaethedig a'r strwythurau rheolwyr ar gyfer Is-gronfeydd Incwm Sefydlog Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd Mr Parnell taw dim ond y Gronfa Credyd Byd-eang oedd yn berthnasol i Gronfa Bensiwn Dyfed o ran y strwythur is-gronfeydd arfaethedig. Byddai adroddiadau monitro is-gronfeydd yn rhoi manylion am berfformiad rheolwyr unigol.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

7.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2019.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.