Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr. Mark Miles [Cynrychiolydd Cyflogwr].
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 24 EBRILL 2018 PDF 191 KB Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 yn gywir.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENIWN A GYNHALIWYD AR 20 MEHEFIN 2018 PDF 61 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin 2018, i'w hystyried:-
|
|
COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 4 MAI 2018 PDF 128 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 4 Mai, 2018.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2017 - 31 MAWRTH 2018 PDF 70 KB Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn cyflwyno'r union sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â 2017/18. Roedd cyfanswm gwariant o £84.1m a chyfanswm incwm o £85.2m wedi arwain at sefyllfa llif arian cadarnhaol o £1.1m. Datganodd yr adroddiad diwedd blwyddyn o ran gwariant, fod effaith net Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau wedi arwain at orwariant o £1.4m, y dylanwadwyd arno'n bennaf gan natur afreoladwy'r cyfandaliadau a throsglwyddiadau allan o'r Gronfa.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CRYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2018 PDF 70 KB Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2017-2018 PDF 59 KB Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Rheolau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIADAU IS-GRONFA ECWITI BYD-EANG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Is-gronfa Ecwiti Byd-eang a oedd yn rhoi manylion llawn am y cyfle buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan gynnwys:-
· Yr elw disgwyliedig ar y buddsoddiadau; · Y buddsoddiadau arfaethedig i'w defnyddio; · Dyraniad arfaethedig yr is-gronfa i reolwyr; · Ffioedd rheoli buddsoddiadau a dargedwyd; · Y costau trosiannol disgwyliedig; · Y buddsoddiad posibl a oedd yn cael ei rannu rhwng cronfeydd; · Yr arbedion cost posibl.
CYTUNWYD i nodi'r adroddiad is-gronfa ecwiti fyd-eang a'r daflen arbedion o ran costau.
|
|
ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL MAWRTH 2018 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2018.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
GWEITHREDU STRATEGAETH DDIWYGIEDIG (BLACKROCK SAIF) Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Cafodd y Bwrdd adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig mewn perthynas â Chronfa Incwm Amgen Strategol (SAIF) Black Rock. Cyflwynwyd yr adroddiad ar ôl i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed gymeradwyo'r strategaeth ddiwygiedig, a oedd yn ddetholiad o adroddiad Diwygio Dyraniad Asedau Strategol Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn fwy cynhwysfawr ac a ysgrifennwyd gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ym mis Gorffennaf 2017.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2018 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Cafodd y Bwrdd adroddiad am berfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth