Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Chris Weaver. |
|||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AM Y 12 MIS CALENDR SYDD I DDOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Elwyn Williams yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf. |
|||||||||||||||||||||||||
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AM Y 12 MIS CALENDR SYDD I DDOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf. |
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.] |
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||
FFURFLEN / ARCHWILIAD FLYNYDDOL 2023/24 PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Llywodraeth Ffurflen/Archwiliad Blynyddol 2023/24. Roedd yr adroddiad wedi'i rannu'n adrannau fel a ganlyn:
1. Datganiadau Cyfrifon 2023/24 – gan gynnwys datganiad incwm a gwariant / derbynebau a thaliadau a datganiad balansau. 2. Datganiad Llywodraethu Blynyddol 3. Cymeradwyaeth ac ardystiad y Pwyllgor 4. Cadarnhad Archwilio Mewnol/Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol
Nododd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu fod Adrannau 1 a 2 wedi'u cwblhau gan yr Awdurdod Cynnal yn unol ag arferion priodol fel y nodir yn y Canllaw Ymarferwyr. Roedd adran 4 wedi'i chwblhau gan Adran Archwilio Mewnol yr Awdurdod Cynnal ac roedd y Ffurflen Flynyddol wedi'i harchwilio gan Archwilio Cymru.
Nodwyd hefyd bod yr Awdurdod Cynnal wedi paratoi Datganiad Cyfrifon i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2023/24. Er nad oedd y Datganiad yn ofyniad statudol ac na fyddai'n cael ei archwilio, fe'i paratowyd er gwybodaeth yn unig, i gefnogi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD AWDURDOD CYNNAL PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
Cyfeiriwyd at werth asedau cyfun ac awgrymwyd tynnu sylw at ffigurau canrannol y cronfeydd unigol yn yr adroddiad yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gais, dywedodd yr Awdurdod Cynnal y gellid hwyluso sesiynau briffio anffurfiol y Cyd-bwyllgor yn ôl yr angen er mwyn trafod materion perthnasol. Yn hyn o beth, gofynnwyd i aelodau'r Cyd-bwyllgor awgrymu pynciau i'w hystyried er mwyn gwneud trefniadau priodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 2 2024 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch2 2024. Atgoffwyd yr Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:
· Amlinellu risgiau allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r ffactorau a allai gyfyngu ar ei gallu i fodloni ei hamcanion. · Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru. · Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru. · Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.
Roedd adolygiad chwarterol o'r gofrestr wedi'i gynnal gan y Gweithgor Swyddogion a oedd yn edrych ar rai o'r risgiau yn adran Llywodraethu a Rheoleiddio y Gofrestr Risg. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor am ganlyniadau'r adolygiad ar gyfer pob un o'r risgiau hynny (G.8. – G.18) fel y'u crynhoir yn yr adroddiad.
Byddai'r adolygiad nesaf yn cael ei gynnal yn Ch3 2024 a byddai'n canolbwyntio ar yr adran Risgiau Hyfforddiant ac Adnoddau a Chyfathrebu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor y polisïau canlynol wedi'u diweddaru i'w hystyried: · Polisi Buddsoddi Cyfrifol · Polisi Hinsawdd · Polisi Stiwardiaeth.
Nodwyd bod y polisïau uchod wedi'u cymeradwyo'n wreiddiol gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi 2019, mis Gorffennaf 2020 a mis Rhagfyr 2020 yn y drefn honno. Er bod yr holl bolisïau yn cael eu hadolygu'n flynyddol roedd y diwygiadau a argymhellwyd yn ystod yr adolygiad eleni yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor.
Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod adolygiad blynyddol wedi'i gynnal yn unol â'r ymrwymiadau a nodwyd yn y polisïau Buddsoddi Cyfrifol a Hinsawdd a rhoddwyd asesiad o'r cynnydd a wnaed gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru yn ystod y 12 mis hyd at 31 Mawrth 2024 a'r meysydd ffocws arfaethedig yn y dyfodol.
Gofynnwyd bod unrhyw ddiwygiadau polisi arfaethedig yn cael eu hamlygu mewn adroddiadau yn y dyfodol er hwylustod.
Mewn perthynas â'r Polisi Stiwardiaeth, dywedwyd y dylid adolygu'r geiriad yn adran 4.3 i egluro pwerau a chyfrifoldebau'r Cyd-bwyllgor ynghylch penderfyniadau gwerthu ac ystyried dadfuddsoddi, a bod Rheolwyr Buddsoddi yn gyfrifol am weithredu'r penderfyniadau hynny. Cafwyd sicrwydd gan gynrychiolwyr Hymans fod y geiriad presennol yn adlewyrchu bwriad ac uchelgeisiau'r Cyd-bwyllgor ac y gellid trafod y mater ymhellach yn y gweithdy a fyddai'n cael ei gynnal ar gyfer y Cyd-bwyllgor ym mis Medi 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD Ch1 2024 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad gan Waystone Management (UK) Limited ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Chwarter 1, 2024, mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
· Diweddariadau'r farchnad ; · Daliannau cyfredol y gronfa; · Diweddariad is-gronfeydd; · Diweddariad ac ymgysylltiad corfforaethol
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariadau ynghylch y canlynol:-
· Diweddariad y farchnad · Diweddariad busnes · Crynodeb Asedau Dan Reolaeth ar 31 Mawrth 2024 · Newidiadau i gronfeydd mewn perthynas â'r Gronfa Twf Byd-eang · Diweddariadau'r farchnad mewn perthynas â Rwsia / Wcráin a'r Dwyrain Canol · Diweddariad ac ymgysylltiad corfforaethol.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2024 PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Mawrth, 2024. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd a oedd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
· Twf Byd-eang - tanberfformiad o 1.1% gros / 1.6% net · Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.0% gros / 0.7% net yn uwch · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy – tanberfformiad o 3.8% gros / 4.1% net · Marchnadoedd Datblygol – tanberfformiad o 1.4% gros / 2.0% net · Cyfleoedd y DU – tanberfformiad o 0.1% gros / 0.5% net · Bond Llywodraeth Fyd-eang – perfformiodd 1.1% gros / 0.8% net yn uwch · Credyd Byd-eang – meincnod wedi’i fodloni gros / tanberfformiad o 0.2% net
Nododd y Pwyllgor nad oedd y cronfeydd Credyd Aml-asedau a Bond Elw Absoliwt wedi cyrraedd eu targedau a bod y Gronfa Credyd Sterling wedi rhagori ar ei tharged.
PENDERFYNWYD nodi Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2024:
11.1 Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang 11.2 Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang 11.3 Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy 11.4 Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol 11.5 Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU 11.6 Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang 11.7 Cronfa Credyd Byd-eang 11.8 Cronfa Credyd Aml-asedau 11.9 Cronfa Bond Elw Absoliwt 11.10 Cronfa Credyd Sterling |
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD MARCHNADOEDD PREIFAT - ECWITI PREIFAT PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad gan Schroders Capital, Dyrannwr Ecwiti Preifat Partneriaeth Pensiwn Cymru, ar y rhaglen ecwiti preifat bengaead a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau amrywiol ar draws prif fuddsoddiadau, buddsoddiadau eilaidd a chyd-fuddsoddiadau yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Roedd cyfanswm o £156m wedi'i glustnodi hyd yn hyn a'r cronfeydd pensiynau a oedd yn buddsoddi yn y rhaglen oedd Caerdydd a Bro Morgannwg, Clwyd, Gwynedd, Powys a Dinas a Sir Abertawe.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ar y Diweddariad ynghylch Marchnadoedd Preifat – Ecwiti Preifat. |
|||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU 2023/24 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Nododd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yr Adroddiad ar Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau 2023/2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ar Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau 2023/2024. |
|||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch1 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2024 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2024).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2024. |
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd, ar gyfer Chwarter 1, 2024 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2024), mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-
· Twf Byd-eang · Cyfleoedd Byd-eang · Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy
Rhoddodd yr adroddiad sylw i fetrigau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu gan dynnu sylw at unrhyw risgiau a materion perthnasol sy'n gysylltiedig â ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, a nododd gamau allweddol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru eu trafod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O IS-GRONFA PPC Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ganlyniad adolygiad annibynnol a oedd wedi'i gynnal ynghylch Is-gronfeydd canlynol Partneriaeth Pensiwn Cymru: · Marchnad Ddatblygol · Credyd Aml-asedau · Bond Elw Absoliwt · Credyd Sterling
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||
PENODIADAU RHEOLWR BUDDSODDI EIDDO TIROL PPC Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams a M. Hughes wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu adroddiad ynghylch penodi Rheolwyr Eiddo Tirol Preifat ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|