Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Mark Norris (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf).
|
||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]
|
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 8 Gorffennaf 2022 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu Parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac - Adnoddau, Cyllideb a ffioedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CH3 & CH4 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch3 a Ch4. Pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:
• Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion • Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru • Rhoi crynodeb o strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru • Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am strategaethau lliniaru risg pellach.
Yn ystod Ch3 2022, cynhaliwyd adolygiad o'r Risgiau Hyfforddiant ac Adnoddau a Chyfathrebu ac yn ystod Ch4 2022, y Risgiau Buddsoddi.
Cynhelir yr adolygiad nesaf yn Ch1 2023 a bydd yn canolbwyntio ar risgiau G.1 i G.8 yn yr adran Risg Llywodraethu a Rheoleiddio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||||||||
POLISÏAU / CYNLLUNIAU NEWYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am y Polisi Cwynion newydd. Mae'r Polisi yn ymwneud â'r wyth Awdurdod sy'n Cyfrannu at Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd bod yr IAA yn cynnwys adran ar y Datrysiad Anghydfod Amgen sy'n nodi'r broses ar gyfer datrys unrhyw anghydfod rhwng yr Awdurdodau sy'n Cyfrannu mewn perthynas â materion a gwmpesir gan yr IAA.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cwynion.
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad wedi'i ddiweddaru ynghylch y Polisi Buddsoddi Cyfrifol.
Yn dilyn adolygiad eleni, mae'r polisi wedi'i ddiweddaru i gynnwys adran ar Hawliau Dynol (adran 5) ac mae pwynt rhif 8.2 o dan Stiwardiaeth wedi cael ei ymestyn i gynnwys pleidleisio ar y cronfeydd goddefol a grynhowyd.
Nodwyd bod newid, i bwynt 8.2, fel yr amlygwyd, i'r frawddeg ganlynol:
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi penodi Darparwr Gwerth a Thystiolaeth i gynnal pleidlais drwy ddirprwy ar bob cyfranddaliad a gedwir yn is-gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn ogystal â'r cronfeydd goddefol a grynhowyd lle bo modd, ac i ymgysylltu'n uniongyrchol â chwmnïau ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Codwyd ymholiad yngl?n â'r geiriad, o dan yr adran benthyca stoc, pwynt 8.8, gan nad yw'n glir faint yw'r union ganran sydd allan ar fenthyg
Cytunwyd y byddai'r geiriad polisi yn cael ei ddiwygio i adleisio bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn benthyg uchafswm o 95% o'r daliad mewn unrhyw stoc unigol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar gynnwys y ddau newid.
|
||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
· Daliannau Cyfredol y Gronfa · Cynnydd Lansio'r Gronfa · Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-
· Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang · Cyfran 2 – Ecwiti DU · Cyfran 3 - Incwm Sefydlog · Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
Hefyd, diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu gan gynnwys y protocol ymgysylltu a dyddiadau cyfarfod allweddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 30 Medi, 2022. Rhoddwyd gwybod bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n well/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
• Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.73% gros / 1.40% net yn well • Twf Byd-eang - tanberfformiad o 1.27% gros / 1.69% net • Marchnadoedd Datblygol - tanberfformiad o 0.99% gros / 1.31% net • Cyfleoedd y DU - tanberfformiad o 2.53% gros / 2.93% • Bond Llywodraeth Fyd-eang - tanberfformiad o 1.06% gros / 0.84% net • Credyd Byd-eang - wedi perfformio 0.12% gros yn well / tanberfformiad o 0.03% Net
Nid yw MAC, ARB nac UK credit wedi cyrraedd eu targedau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 30 Medi 2022:
• Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang • Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang • Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol • Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU • Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang • Cronfa Credyd Byd-eang • Cronfa Credyd Aml-asedau • Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt • Cronfa Credyd y DU
|
||||||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI12>
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG AT 30 MEDI 2022 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi Rheolwyr y Gronfa dan anfantais yn y trafodaethau.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adolygiad Benthyca Global Securities, fel roedd ar 30 Medi 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Global Securities fel roedd ar 30 Medi 2022.
|
||||||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYLLTU CH3 2022 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Ymgysylltu Ch3 2022, a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch3 2022.
|
||||||||||||||||||||||||||||
PENODI DYRANNWR MARCHNADOEDD PREIFAT PPC Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu adroddiad i benodi Dyrannwr Marchnad Breifat ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Cynhaliwyd gweithdrefn gystadleuol dau gam gyda phroses gaffael i benodi Dyrannwr ar gyfer y dosbarth asedau Ecwiti Preifat.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo penodiad y Dyrannwr, fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad
|
||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Ashford (d), T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-Is-bwyllgor adroddiad am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:
· Is-gronfa Bond Elw Absoliwt · Is-gronfa Credyd Aml-asedau · Is-gronfa Cyfleoedd y DU · Is-gronfa Marchnadoedd Datblygol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd.
|