Lleoliad: Siambr- Cyngor Abertawe, Guildhall, Abertawe, SA1 4PE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Runeckles 01267 224674
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Osian Richards.
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd yr awdurdod cynnal diweddariad ar gynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
Cymeradwywyd Cynllun Busnes PPC gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar 13 Mawrth 2024. Atodwyd diweddariad Chwarter 3 (1 Ebrill 2024 i 31 Rhagfyr 2024) a oedd yn dangos cynnydd PPC mewn perthynas â'r Cynllun Gwaith, y Gyllideb a Buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei derbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC - 2025/26 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cyflwynwyd cynllun hyfforddi 2025/26 a ddatblygwyd ar gyfer PPC i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor am bwysigrwydd unigolion yn cynnal lefel 'briodol' wybodaeth a dealltwriaeth am weithgareddau sy'n berthnasol i'w dyletswyddau o fewn PPC. Mae gan PPC bolisi hyfforddi penodol y gellir ei weld ar wefan PPC.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor hefyd fod Holiadur Gofynion Hyfforddiant wedi'i roi i holl aelodau y Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2024 a bod yr ymatebion o'r holiaduron wedi'u cwblhau wedi'u hasesu wrth baratoi cynllun hyfforddi PPC 2025/26.
Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn, os yw'n berthnasol.
Cynhelir sesiynau hyfforddiant 2025/26 bob chwarter a byddant yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Gwybodaeth am gynnyrch - Stiwardiaeth - Buddsoddi Cyfrifol - Ymgynghori ynghylch Cyfuno a Gofynion Rheoleiddio
Mewn ymateb i gwestiwn am gynnal y sesiwn hyfforddi Ymgynghori ynghylch Cyfuno a Gofynion Rheoleiddio yn gynharach, dywedodd Rheolwr Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn yr awdurdod cynnal y byddai hyn yn cael ei nodi a'i ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES 2025-2028 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cyflwynwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2025-2028 i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb rhwng Awdurdodau. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu, bydd y Cynllun Busnes yn cael ei anfon at yr holl Awdurdodau Cyfansoddol i'w gymeradwy'n ysgrifenedig.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai pwrpas y cynllun busnes yw:
- Egluro cefndir a strwythur llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y tair blynedd nesaf - Cyflwyno polisïau a chynlluniau Partneriaeth Pensiwn Cymru - Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol - Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru
Bydd y cynllun hwn yn cael ei fonitro'n gyson a bydd yn cael ei adolygu a'i gytuno arno yn ffurfiol yn flynyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Busnes ar gyfer 2025-2028.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 1 2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu fod PCC wedi llunio Cofrestr Risg, sef y ffordd o ddogfennu, rheoli a monitro risgiau. Pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:
- Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion. - Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru. - Rhoi crynodeb o strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru - Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg
Yn ystod y chwarter diwethaf, cynhaliwyd adolygiad o rai o'r risgiau yn adran Llywodraethu a Rheoleiddio'r Gofrestr Risg h.y. risgiau G.1 i G.7. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor nad oedd diweddariad sylweddol i'r risgiau hyn. Roedd yr is-gr?p hefyd wedi adolygu'r risg ganlynol yn ystod yr adolygiad hwn:
- Risg G.15 - nid yw PPC yn barod ar gyfer canlyniadau unrhyw ymgynghoriad neu newid rheoleiddiol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am welliant yn y geiriad o Risg G.15, ynghylch yr ymgynghoriad 'Addas i'r dyfodol' a'r camau yr oedd PPC yn eu cymryd i fodloni'r gofynion newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg PPC.
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD CH4 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd Waystone Management (UK) Limited, Gweithredwr PPC, ddiweddariad ynghylch yr adolygiad chwarterol i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu sy'n cwmpasu'r meysydd allweddol canlynol:
- Diweddariadau Corfforaethol a Chydymffurfio - Trosolwg o Berthynas - Crynodeb Asedau Dan Reolaeth ar 31 Rhagfyr 2024 - Y prif lwyddiannau a Diweddariadau - Newidiadau i gronfeydd mewn perthynas â Chredyd Byd-eang, Bond Elw Absoliwt a chronfeydd y Farchnad Ddatblygol - Diweddariadau'r farchnad mewn perthynas â Rwsia / Wcráin a'r Dwyrain Canol - Goruchwylio - Monitro gan Drydydd Partïon - Amserlen Ymgysylltu a Chyfarfod
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad gan y Gweithredwr ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 RHAGFYR 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad ar gyfer is-gronfeydd PCC fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2024.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd a oedd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau, fel a ganlyn:
- Twf Byd-eang - tanberfformiad o 1.4% gros / 1.8% net - Cyfleoedd Byd-eang - 0.7% gros / 0.4% net yn uwch - Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy – tanberfformiad o 5.3% gros / 5.7% net - Tanberfformiodd Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol 0.1% gros / 0.5% net - Cyfleoedd y DU – meincnod wedi'i fodloni gros / tanberfformiad o 0.4% net - Bond Llywodraeth Fyd-eang – 0.6% gros / 0.3% net yn uwch - Credyd Byd-eang – meincnod wedi'i fodloni gros / tanberfformiad o 0.2% net - Nid oedd cronfeydd MAC ac ARB wedi cyrraedd eu targedau. - Roedd cronfa Credyd Sterling yn uwch na'r targed.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r sefyllfa wleidyddol ac economaidd gyfnewidiol ar hyn o bryd ac a oedd rheolwyr cronfeydd yn hyblyg i'r ansicrwydd hwn, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er ei fod yn rhan o rôl rheolwr cronfa weithredol i fod yn ymwybodol o anwadalrwydd, y byddent yn canolbwyntio'n gyffredinol ar berfformiad tymor hwy.
PENDERFYNWYD (YN UNFRYDOL) nodi adroddiadau perfformiad yr is-gronfeydd a nodwyd uchod fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2024.
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD MARCHNADOEDD PREIFAT - CREDYD PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad gan Russell Investments ar y rhaglen Buddsoddi Credyd Preifat a lansiwyd ym mis Ebrill 2023.
Dywedwyd bod y Gronfa Credyd Preifat Byd-eang yn ceisio darparu amlygiad amrywiol i wyth strategaeth arbenigol uchel eu clod. Mae'r Gronfa yn ceisio buddsoddi'r rhan fwyaf o'i hymrwymiadau mewn trafodion dyled uwch ac israddol cwmnïau bach i ganolig yn fyd-eang yn ogystal â phrosiectau eiddo tirol a seilwaith sy'n gymesur â bodloni amcan adenillion cyffredinol y mandad. Mae cyfanswm ymrwymiad cyfalaf o £696m ar draws y saith cronfa sy'n cymryd rhan.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad gan Russell Investments.
|
|||||||||||||||||||||||||
CPLLL: 'FIT FOR THE FUTURE' - CYFLWYNIAD PPC I'R LLYWODRAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, fel rhan o'r CPLlL: Ymgynghoriad Addas i'r Dyfodol, a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2024, gofynnwyd i gronfeydd gyflwyno cynnig, yn ogystal â'r ymateb i'r ymgynghoriad, gan nodi sut y byddent yn darparu'r model cyfuno arfaethedig a chwblhau'r trosglwyddiad o'r holl asedau, gan gynnwys asedau etifeddiaeth. Roedd cynllun arfaethedig wedi'i ddrafftio y mae angen i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ei gymeradwyo.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gr?p prosiect PPC (Prosiect Yr Wyddfa) wedi'i sefydlu yn cynnwys swyddogion/ymarferwyr S151 o'r wyth awdurdod a chynrychiolwyr o ddarparwyr gwasanaethau penodedig PPC (Hymans Robertson, Waystone, Russell Investments a Burges Salmon) i adolygu a datblygu'r cynnig hwn. Mae swyddogion PPC hefyd wedi cael sawl cyfarfod gyda Thrysorlys EF a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyfodol PPC a sut mae'n bwriadu cyflawni amcanion y Llywodraeth.
Mae cynnig drafft wedi'i gyflwyno i'r llywodraeth o fewn yr amserlen. Mae'r cyflwyniad hwn yn nodi'r achos busnes cymhellol i PPC gadw cronfa fuddsoddi annibynnol i Gymru a bwrw ymlaen ag adeiladu gofynion newydd arfaethedig ychwanegol y Llywodraeth ar gyfer model gweithredu cronfeydd. Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant PPC hyd yma ac yn cyflawni'r ystod o amcanion y mae'r Llywodraeth wedi'u nodi yn ei huchelgeisiau ar gyfer cynnydd y CPLlL, ac yn benodol y CPLlL yng Nghymru. Mae'r cyflwyniad hwn yn dangos gallu PPC i gyflawni ar draws pob agwedd fel cronfa fuddsoddi annibynnol.
Mae WPP yn cynnig sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau awdurdodedig Awdurdod Ymddygiad Ariannol annibynnol ("IM Co") yn unol â meini prawf y Llywodraeth a symud holl asedau PPC i reolaeth IM Co yn unol â'r amserlenni a amlinellwyd. Mae'r cyflwyniad hwn hefyd yn dangos y gwerthusiad gwrthrychol o'n cynlluniau yn erbyn meini prawf a nodwyd gan y Llywodraeth (Manteision Maint, Gwytnwch, Gwerth am Arian, Hyfywedd yn erbyn llinell amser) a sut mae hyn yn cael ei gymharu orau ag opsiynau eraill.
Gofynnodd y Pwyllgor sut y cynigiodd y Bwrdd Rhanddeiliaid i'r cwmni newydd gael ei ffurfio, a dywedwyd nad oedd hyn wedi'i bennu eto, ond bod trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal gyda swyddogion, gan gynnwys Swyddogion Monitro.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cyflwyniad PCC i'r Llywodraeth ar yr ymgynghoriad Addas i'r Dyfodol CPLlL.
|
|||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE JOINT COMMITTEE RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd, ar gyfer Chwarter 4, 2024 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr, 2024), mewn perthynas â'r is-gronfeydd canlynol: - Credyd Sterling - Credyd Byd-eang - Bond Llywodraeth Fyd-eang
Roedd yr adroddiadau yn rhoi sylw i fetrigau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, gan dynnu sylw at unrhyw risgiau a materion perthnasol sy'n gysylltiedig â ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, ac yn nodi camau allweddol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru eu trafod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiadau.
|
|||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH4 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E. Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer Ch4 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch4 2024.
|