Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Medwyn Hughes (roedd y Cynghorydd Elin Hywel yn bresennol fel dirprwy) |
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]
|
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024 gan eu bod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
Gofynnwyd i'r swyddogion a ellid cynnwys gwerthoedd presennol yr is-gronfeydd yn y diweddariad er budd y cyhoedd sy'n edrych ar y wefan. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau fod y wybodaeth hon wedi'i chynnwys yn yr eitem diweddariad gan y Gweithredwr ar yr agenda y byddent yn ei hystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan yr Awdurdod Cynnal. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CH4 2024 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Adolygiad Cofrestr Risg Ch3 2024. Atgoffwyd yr Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru oedd:
- Amlinellu risgiau allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r ffactorau a allai gyfyngu ar ei gallu i fodloni ei hamcanion. - Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru. - Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru. - Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.
Yn ystod Ch4 2024, cynhaliwyd adolygiad o'r Risgiau Buddsoddi.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr is-gr?p hefyd wedi adolygu'r risg ganlynol yn ystod yr adolygiad hwn:
- Risg G.15 - nid yw PPC yn barod ar gyfer canlyniadau unrhyw ymgynghoriad neu newid rheoleiddiol.
Cynhelir yr adolygiad nesaf yn Ch1 2025 a bydd yn canolbwyntio ar risgiau G.1 i G.7 yn yr adran Risg Llywodraethu a Rheoleiddio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor bolisïau wedi'u diweddaru i'w hystyried mewn perthynas ag Ailgydbwyso ac Addasu.
Nodwyd bod y polisi Ailgydbwyso ac Addasu wedi cael ei gymeradwyo'n wreiddiol gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2021 a'i fod yn nodi dull Partneriaeth Pensiwn Cymru o ailgydbwyso'r asedau a ddelir o fewn is-gronfeydd y cronfeydd. Mae'r polisi'n amlinellu'r fframwaith sydd wedi cael ei roi ar waith i sicrhau bod dyraniadau rheolwr o fewn yr is-gronfeydd yn cael eu monitro a'u hailgydbwyso lle bo'n briodol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am ddiweddariadau amrywiol i'r polisïau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Ailgydbwyso ac Addasu. |
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD Ch3 2024 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad a ddarparwyd gan Waystone Management (UK) Limited ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf - Medi) 2024 mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:
- Diweddariadau corfforaethol a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol - Diweddariad busnes - Daliannau cyfredol y gronfa - Diweddariad is-gronfeydd - Diweddariadau'r farchnad - Ymgysylltu
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEDI 2024 PDF 164 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 30 Medi, 2024. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd a oedd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio eu meincnodau priodol fel a ganlyn:
- Twf Byd-eang - tanberfformiad o 1.5% gros / 1.9% net - Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 0.8% gros / 0.5% net yn uwch - Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy – tanberfformiad o 3.6% gros / 4% net - Cyfleoedd y DU – tanberfformiad o 0.2% gros / 0.6% net - Bond Llywodraeth Fyd-eang – wedi perfformio 1.1% gros / 0.9% net yn uwch - Credyd Byd-eang – meincnod wedi'i fodloni gros / tanberfformiad o 0.2% net
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 30 Medi 2024. |
|||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE JOINT COMMITTEE RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEDI 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yr adroddiad ar yr Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau fel yr oedd ar 30 Medi 2024 i'w ystyried. Cyflwynwyd yr adroddiad gan Northern Trust.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau fel yr oedd ar 30 Medi 2024, fel y manylir arno yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH3 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer Ch3 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch3 2024.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd, ar gyfer Chwarter 3, 2024 (y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi, 2024), mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-
- Cyfleoedd y DU - Marchnadoedd Datblygol
Roedd yr adroddiadau yn rhoi sylw i fetrigau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, gan dynnu sylw at unrhyw risgiau a materion perthnasol sy'n gysylltiedig â ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, ac yn nodi camau allweddol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru eu trafod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:
- Cyfleoedd y DU - Marchnadoedd Datblygol
|
|||||||||||||||||||||||||
DARPARWR GWASANAETH PLEIDLEISIO AC YMGYSYLLTU Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor benodi Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn unol ag Atodlen 3 i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi cynigydd 3 fel Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Contract Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu.
|
|||||||||||||||||||||||||
YMGYNGHORYDD TROSOLWG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Weaver, M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, D. Rose, E Williams ac E. Hywel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Gofynnwyd i'r Pwyllgor benodi Ymgynghorydd Goruchwylio Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn unol ag Atodlen 3 i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi cynigydd 1 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Ymgynghorydd Goruchwylio Partneriaeth Pensiwn Cymru yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Contract Ymgynghorydd Goruchwylio.
|