Agenda a chofnodion drafft

Powys, Hybrid, Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Neuadd y Sir, - Llandrindod, Powys. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd M. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Ef a'i wraig yn aelodau o Gronfa Bensiwn Abertawe.

Y Cynghorydd S. Churchman

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd

Y Cynghorydd P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cynghorydd N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Y Cynghorydd M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Ef, ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro

 

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 13 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 13 Rhagfyr, 2023 gan eu bod yn gywir.

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-        Cyfathrebu ac adrodd;

 -         Hyfforddiant a chyfarfodydd;

      -          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, nododd y Pwyllgor fod cofnod presenoldeb ar gyfer aelodau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer pob sesiwn hyfforddi a ddarparwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

 

 

5.

CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC - 2024/25 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/25. Dywedwyd wrth y cyfarfod y lluniwyd cynllun hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru i ategu hyfforddiant presennol yr Awdurdod Cyfansoddol a bydd yn berthnasol i weithgareddau Partneriaeth Pensiwn Cymru o ran cyfuno cronfeydd.  Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn, os yw'n berthnasol.

 

Cynhelir sesiynau hyfforddiant 2024/2025 bob chwarter a byddant yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

 

·       Gwybodaeth am gynnyrch a Seiberddiogelwch

·       Polisïau

·       Buddsoddi Cyfrifol

·       Dealltwriaeth o'r Farchnad a Gofynion Rheoleiddio

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar gynllun hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru 2024/25.

 

6.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2024 - 2027 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2024-2027. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod y Cynllun Busnes wedi'i ddrafftio yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb rhwng Awdurdodau. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor, byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon at bob Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.

 

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai pwrpas y cynllun busnes oedd:

 

       Egluro cefndir a strwythur llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru

       Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y tair blynedd nesaf

       Cyflwyno polisïau a chynlluniau Partneriaeth Pensiwn Cymru

       Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol

       Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n gyson a bydd yn cael ei adolygu a'i gytuno arno yn ffurfiol yn flynyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cytuno ar y Cynllun Busnes a'i anfon at bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.

 

7.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 1 2024 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch1 2024. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:

 

·       Amlinellu risgiau allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r ffactorau a allai gyfyngu ar ei gallu i fodloni ei hamcanion

·       Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru

·       Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.

 

Mae'r Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad chwarterol o'r gofrestr, gan edrych ar hanner cyntaf yr adran Llywodraethu a Rheoleiddio, risgiau G.1 i G.7.  Roedd yr Is-Gr?p hefyd wedi adolygu Risg G.12 a G.15.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal yn Ch2 2024 a bydd yn canolbwyntio ar weddill y risgiau o fewn yr adran Risgiau Llywodraethu a Rheoleiddio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

8.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor y Polisi Cyfathrebu wedi'i ddiweddaru i'w ystyried.  

 

Nodwyd bod y Polisi Cyfathrebu wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2019 a chafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ym mis Mawrth 2021 a Mawrth 2022.

 

Adolygwyd y Matrics Llywodraethu hefyd yn ystod y chwarter hwn. Cymeradwywyd y Matrics yn wreiddiol gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2019 a chaiff ei adolygu'n flynyddol. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i'r Matrics Llywodraethu yn ystor adolygiad eleni.

 

Nodwyd y byddai'r Polisi Cyfathrebu yn cael ei ddiweddaru ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyfathrebu, y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

9.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD CH4 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad a ddarparwyd gan Waystone Management (UK) Limited ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Chwarter 4, 2023, mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

·       Diweddariadau'r farchnad ;

·       Daliannau Cyfredol y Gronfa;

·       Y diweddaraf ynghylch yr is-gronfeydd;

·       Diweddariad ac ymgysylltiad corfforaethol

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariadau ynghylch y canlynol :-

 

·       Diweddariad y farchnad ynghylch cwblhau'r broses o gaffael Link Fund Solutions

·       Crynodeb Asedau dan Reolaeth ar 31 Rhagfyr 2023

·       Ariannu newidiadau mewn perthynas â'r gronfa Credyd Byd-eang, Cronfa Twf Byd-eang, Cronfa Cyfleoedd y DU, Cronfa Bond Elw Absoliwt ac Opsiynau Arenillion.

·       Diweddariadau'r farchnad mewn perthynas â Rwsia / Wcráin a'r Dwyrain Canol

·       Diweddariad ac ymgysylltiad corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

10.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar  31 Rhagfyr, 2023. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd a oedd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

  

·       Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.1% gros / 0.8% net yn well

·       Twf Byd-eang - tanberfformiad o 0.9% gros / 1.3% net

·       Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy - tanberfformiad o 2.6% gros / 2.8% net

       · Marchnadoedd Datblygol - tanberfformiad o 0.3% gros / 0.8% net

·       Cyfleoedd y DU - tanberfformiad o 0.3% gros / 0.7% net

·       Bond Llywodraeth Fyd-eang - wedi perfformio 1.3% gros / 1.0% net yn well

·       Credyd Byd-eang - tanberfformiad o 0.1% gros / 0.3% net

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y cronfeydd Credyd Aml-asedau a Bond Elw Absoliwt yn cyrraedd eu targedau a bod y Gronfa Credyd Sterling yn rhagori ar ei tharged. 

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2023:

 

10.1.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang

10.2.    Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang

10.3     Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy

10.4     Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol

10.5     Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU

10.6     Cronfa Bond Llywodraeth Byd-eang

10.7     Cronfa Credyd Fyd-eang

10.8     Cronfa Credyd Aml-asedau

10.9     Cronfa Bond Elw Absoliwt

 

11.

DIWEDDARIAD MARCHNADOEDD PREIFAT - SEILWAITH pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan GCM Grosvenor am raglenni caeedig a phenagored buddsoddi’r Farchnad Breifat.

 

Nodwyd bod y rhaglen gaeedig yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau seilwaith amrywiol ar draws prif fuddsoddiadau, buddsoddiadau eilaidd a chyd-fuddsoddiadau yn y DU, Ewrop a Gogledd America. Roedd cyfanswm o £166m wedi'i glustnodi a £77m wedi'i fuddsoddi hyd yma. Y cronfeydd sy'n buddsoddi yn y rhaglen hon yw Clwyd, Dyfed, Gwynedd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Gwent Fwyaf (Torfaen).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am dri rheolwr penagored:

·       IFM – Mae Cronfa Seilwaith Byd-eang IFM yn buddsoddi mewn portffolio amrywiol o asedau seilwaith ar draws y sectorau trafnidiaeth, ynni, cyfleustodau a digidol sy'n ceisio darparu refeniw sefydlog yn yr hirdymor. Roedd £221m wedi'i glustnodi heb unrhyw fuddsoddiadau hyd yma.

·       CBRE - Mae Cronfa Seilwaith Byd-eang CBRE yn buddsoddi mewn asedau ar draws sectorau digidol, trafnidiaeth, trawsnewid ynni, a seilwaith cyfleustodau sydd â nodweddion cynhyrchu arian gyda chontract manwl. Roedd £88m wedi'i glustnodi heb unrhyw fuddsoddiadau hyd yma.

·       Octopus - Mae Cronfa Octopus Renewable Sky yn buddsoddi'n bennaf mewn asedau adnewyddadwy a thrawsnewid ynni craidd, dan gontract ac sy'n cynhyrchu arian ledled y DU, Ewrop, Gogledd America ac Asia a'r Môr Tawel. Roedd £133m wedi'i glustnodi a £67m wedi'i fuddsoddi hyd yma.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y diweddariad ynghylch Marchnadoedd Preifat - Seilwaith, yn cael ei dderbyn.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH4 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu Ch4 2023 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr, 2023).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch4 2023.

 

14.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

  

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd, ar gyfer Chwarter 4, 2023 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023), mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-

 

·       Credyd y DU

·       Credyd Byd-eang

·       Bond Llywodraeth Fyd-eang

 

Rhoddodd yr adroddiad sylw i fetrigau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu a risg hinsawdd a nododd gamau allweddol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru eu trafod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd.

 

15.

ADRODDIAD ARGYMELL CAFFAEL GWEITHREDWR I PPC

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ynghylch yr argymhellion o ran caffael Gweithredwr, a fyddai'n cael ei anfon at bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig, yn unol ag Atodlen 2 i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid cytuno ar yr Argymhelliad o ran Caffael Gweithredwr a'i anfon at bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.

 

16.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 RHAGFYR 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Norris, C. Weaver, N. Yeowell, M. Lewis, S. Churchman, P. Lewis, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am yr Adolygiad Benthyca Gwarannau fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Gwarannau fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2023, fel y nodir yn yr adroddiad.