Agenda a Chofnodion

Virtual, Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mercher, 19eg Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

Diolchwyd i'r cyn-Gadeirydd am ei waith caled a'i gyfraniad i'r Cyd-bwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd

2.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Elwyn Williams yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Stephen Churchman (Cyngor Sir Gwynedd) a Chris Moore (Cyngor Sir Caerfyrddin).

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd M. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Ef a'i wraig yn aelodau o Gronfa Bensiwn Abertawe.

Y Cynghorydd P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cynghorydd N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Y Cynghorydd M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

5.

LLOFNODI YN GOGNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD BWYLLGOR A GYNHALIWYD 29 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

6.

DATGANIAD/ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynodd yr Awdurdod Cynnal y Ffurflen Flynyddol a archwiliwyd ar gyfer 2022/23.  Roedd adrannau Datganiadau Cyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Ffurflen Flynyddol wedi'u paratoi gan yr Awdurdod Cynnal yr oedd ei Adain Archwilio Mewnol wedi cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Roedd y Ffurflen Flynyddol hefyd wedi'i harchwilio gan Archwilio Cymru a chyflwynodd Mr Jason Blewitt o Archwilio Cymru y llythyr archwilio i'r Cyd-bwyllgor.

 

Roedd yr Awdurdod Cynnal hefyd wedi paratoi Datganiad Cyfrifon llawn ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022/23. Nid oedd y Datganiad yn ofyniad statudol ac ni fyddai'n cael ei archwilio. Fe'i paratowyd er gwybodaeth yn unig, i gefnogi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD 

 

6.1      Derbyn y llythyr gan Archwilio Cymru ynghylch Ffurflen Flynyddol      Partneriaeth Pensiwn Cymru 2022/23;

6.2     Cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol wedi'i Harchwilio ar gyfer           2022/23;         

6.3      Cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon llawn heb ei Archwilio ar gyfer 2022/23.

 

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN Y AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-           Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-           Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac

-          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

 

8.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 2 2023 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch2 2023. Yn ystod y chwarter diwethaf roedd y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad o'r gofrestr, gan edrych ar ail hanner yr adran Llywodraethu a Rheoleiddio, risgiau G.7 i G.14. Roedd yr adroddiad yn crynhoi canlyniadau'r adolygiad ar gyfer pob risg.

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor wybod bod risg arall wedi'i hychwanegu, risg G.15 - nid yw PPC yn barod ar gyfer canlyniadau unrhyw ymgynghoriad neu newid rheoleiddiol.  Bydd y sgôr yn cael ei monitro a'i thrafod yn rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

9.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r polisïau canlynol:-

 

·       Polisi Risg Hinsawdd

·       Polisi Pleidleisio (Polisi Stiwardiaeth)

 

Cynhaliwyd adolygiad blynyddol o'r polisïau hyn ac roedd angen cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar y polisïau diweddar.

 

Mae Hymans wedi adolygu'r gwaith a gwblhawyd yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yn y Polisi Buddsoddi Cyfrifol a Pholisi Risg Hinsawdd ac wedi amlygu rhai meysydd allweddol ar gyfer camau gweithredu/gwella dros 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1      gymeradwyo'r polisïau wedi'u diweddaru, fel y nodir uchod;

9.2      nodi diweddariad cynnydd blynyddol Buddsoddi Cyfrifol a Risg          Hinsawdd.

 

 

10.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD CH1 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-       Diweddariadau marchnad;

-       Daliannau Cyfredol y Gronfa;

-       Diweddariadau is-gronfeydd a mentrau eraill;

-       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

11.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2023. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

·       Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.36% gros / 1.04% net yn well

·       Twf Byd-eang - tanberfformiad o 0.40% gros / 0.81% net

·       Marchnadoedd Datblygol - wedi perfformio 0.92% gros / 0.47% net yn well

·       Cyfleoedd y DU - tanberfformiad o 0.83% gros / 1.23% net

·       Bond Llywodraeth Fyd-eang – wedi perfformio 1.63% gros / 1.40% net yn well

·       Credyd Byd-eang – tanberfformiad o 0.15% gros / 0.02% net

 

Nid oedd cronfeydd MAC ac ARB yn cyrraedd eu targedau.  Roedd cronfa Credyd y DU yn uwch na'i tharged.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Perfformiad yr Is-Gronfeydd, fel y nodir uchod, ar 31 Mawrth 2023.

 

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1    fod Dirprwy gynrychiolydd Aelodau'r Cynllun yn aros yn y        cyfarfod, yn ystod trafodaeth ynghylch adroddiadau eithriedig a            rhoi caniatâd ar gyfer y flwyddyn galendr sydd i ddod.

 

12.2    yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr        eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n    cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14        o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU 2022/23

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar yr Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Perfformiad Benthyca Gwarannau 2022/23.

 

 

14.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH1 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2023.

 

15.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor yr adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd mewn perthynas â'r cronfeydd canlynol:-

 

· Twf Byd-eang

· Cyfleoedd Byd-eang

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer Ch1 2023.

 

 

 

16.

ADOLYGIAD O IS-GRONFA PPC

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy niweidio o bosib y broses gaffael.

 

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor is-gronfa adolygu o Gronfa Ecwiti Cyfleoedd PPC y DU, y Gronfa Credyd Byd-eang a'r Gronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adolygiad Is-Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

17.

CAFFAEL GWEITHREDWR - MEINI PRAWF GWERTHUSO

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy niweidio o bosib y broses gaffael.

 

[NODER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ynghylch y meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael gweithredwr a fyddai'n cael ei anfon at bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y Meini Prawf Gwerthuso - Caffael Gweithredwr a'u hanfon at bob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol i'w cymeradwyo'n ysgrifenedig.