Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi Location - Ystafell Dafydd Orwig, Gwynedd County Council Ofices, Caernarfon - Multi Location. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

 

Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cyng. M. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Ef a'i wraig yn aelodau o Gronfa Bensiwn Abertawe.

Y Cyng.S.Churchman

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd

Y Cyng. P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cyng. N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Ei dad a'i ddwy fodryb yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf ac mae ef yn y broses o ymuno â Chronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Y Cyng. M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cyng. T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd ac yn y broses o ymuno â Chronfa Bensiwn Clwyd.

Y Cyng. E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cyng. C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro

 

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

  </AI2>

 

3.

LLOFNODI YN GOGNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD BWYLLGOR A GYNHALIWYD 5 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 5 Rhagfyr, 2022 gan eu bod yn gywir.

 

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu Parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

 -          Hyfforddiant a chyfarfodydd;

 -          Adnoddau, Cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

 

5.

CYNLLUN HYFFORDDIANT PPC 2023/24 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023/24.

 

Lluniwyd y cynllun hyfforddi hwn i ategu hyfforddiant presennol yr Awdurdod Cyfansoddol a bydd yn berthnasol i weithgareddau Partneriaeth Pensiwn Cymru o ran cyfuno cronfeydd. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn, os yw'n berthnasol.

 

Cynhelir sesiynau hyfforddiant 2023/24 bob chwarter a byddant yn ymdrin â'r  pynciau canlynol:

·       Gwybodaeth am gynnyrch

·       Adrodd

·       Buddsoddi Cyfrifol

·       Dealltwriaeth o'r Farchnad a Gofynion Rheoleiddio

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd i drefnu sesiwn gynnar ar y gwahanol gyfleoedd a'r opsiynau o fuddsoddi mewn ynni cynaliadwy a buddsoddiadau lleol/effaith.

 

    PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023-24.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2023-2026 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2023-2026.

 

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor mai pwrpas y cynllun busnes oedd:

 

       Egluro cefndir a strwythur llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru

       Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y tair blynedd nesaf

       Cyflwyno polisïau a chynlluniau Partneriaeth Pensiwn Cymru

       Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol

       Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n gyson a bydd yn cael ei adolygu a'i gytuno arno yn ffurfiol yn flynyddol.

 

Dywedwyd wrth y cyfarfod, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon i bob Awdurdod Cyfansoddol yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb rhwng Awdurdodau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd i ystyried ychwanegu'r canlynol at yr amcanion cyn ei anfon at yr wyth awdurdod cyfansoddol:-

 

·       buddsoddi cyfrifol a mesurau effeithiol i liniaru risg i'r hinsawdd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cytuno ar y Cynllun Busnes a'i anfon at bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig, yn amodol ar ystyried y mân welliant.

 

 

 

 

7.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 1 2023 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch1 2023.  Dywedwyd wrth yr Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:

·       Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion

·       Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.

 

Mae'r Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad chwarterol o'r gofrestr, gan edrych ar hanner cyntaf yr adran Llywodraethu a Rheoleiddio, risgiau G.1 i G.6.  Roedd yr Is-Gr?p hefyd wedi adolygu Risg G.12.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal yn Ch2 2023 a bydd yn canolbwyntio ar weddill y risgiau o fewn yr adran Risgiau Llywodraethu a Rheoleiddio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

8.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried y Matrics Llywodraethu.

 

Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y Matrics Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2019 a chafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2020 a Mawrth 2022 yn y drefn honno. Y chwarter hwn cynhaliwyd adolygiad blynyddol 2023 o'r matrics ac mae wedi'i ddiweddaru i gyfeirio at adrannau perthnasol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

Bydd y Matrics Llywodraethu yn cael ei ddiweddaru ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Matrics Llywodraethu.

 

 

 

 

 

9.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-       Daliannau Cyfredol y Gronfa;

-       Cynnydd Lansio'r Gronfa;

-       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

·   Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

·   Cyfran 2 – Ecwiti y DU

·   Cyfran 3 - Incwm Sefydlog

·   Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

Hefyd, cafwyd diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu a oedd yn cynnwys y protocol ymgysylltu a dyddiadau cyfarfod allweddol.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

 

10.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr, 2022. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

·       Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.58% gros / 1.29% net yn well

·       Twf Byd-eang - tanberfformiad o 0.73% gros / 1.14% net

·       Marchnadoedd Datblygol - tanberfformiad o 1.00% gros / 1.31% net

·       Perfformiodd Cyfleoedd y DU 1.79% gros / 2.20% net yn uwch

·       Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.93% gros / 1.70% net yn uwch

·       Perfformiodd Credyd Byd-eang 0.39% gros / 0.23% net yn uwch

 

Nid yw cronfeydd MAC nac ARB wedi cyrraedd eu targedau.

Roedd Cronfa Credyd y DU wedi mynd y tu hwnt i'w darged.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2022:

 

10.1          Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang;

10.2          Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang;

10.3          Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol;

10.4          Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU;

10.5          Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang;

10.6          Cronfa Credyd Byd-eang;

10.7          Cronfa Credyd Aml-asedau;

10.8          Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt;

10.9          Cronfa Credyd y DU.

 

  

Ar ran Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, diolchodd y Cadeirydd i Dafydd Edwards, Cyfarwyddwr Cronfa Gwynedd am ei holl waith yn ei rôl fel aelod sylfaenol o'r gr?p gan estyn dymuniadau gorau iddo am ymddeoliad hapus.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

12.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 RHAGFYR 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Berthynas ac Adolygiad Perfformiad Gwarannau Byd Eang am chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-Eang fel roedd ar 31 Rhagfyr 2022.

 

13.

GWASANETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH4 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Chwarter 4 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch4 2022.

 

14.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:-

 

·       Credyd y DU

·       Credyd Byd-eang

·       Bond Llywodraeth Fyd-eang

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd fel y nodwyd uchod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau