Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]
|
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2021 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-
· Llywodraethu · Sefydlu parhaus · Gwasanaethau gweithredwyr · Cyfathrebu ac adrodd · Hyfforddiant a chyfarfodydd · Adnoddau, cyllideb a ffioedd
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion yr awdurdod cynnal am eu cyfraniad i'r cyflwyniad yng nghyfarfod Cyngor Cyswllt Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDIANT PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2022/2023 PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022/23. Dywedwyd wrth y cyfarfod y lluniwyd cynllun hyfforddi PPC i ategu hyfforddiant presennol yr Awdurdod Cyfansoddol a bydd yn berthnasol i weithgareddau'r PPC o ran cyfuno cronfeydd. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Gweithgor Swyddogion a'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn, os yw'n berthnasol.
Cynhelir sesiynau hyfforddiant 2022/2023 bob chwarter a byddant yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
· Gwybodaeth am gynnyrch · Gwybodaeth am y Gronfa · Buddsoddi Cyfrifol · Dealltwriaeth o'r Farchnad
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar gynllun hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru 2022/23.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU 2022-2025 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2022-2025. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod y Cynllun Busnes wedi'i ddrafftio yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb rhwng Awdurdodau. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor, byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon at bob Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.
Diolchwyd i'r Cadeirydd am ei waith caled a'i gyfraniad i'r Cyd-bwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cymeradwyo'r Cynllun Busnes.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 1 2022 PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch1 2022. Nodwyd bod adolygiad wedi'i gynnal yn ystod y chwarter diwethaf o'r adran Llywodraethu a Rheoleiddio, risgiau G.1 i G.6. Crynhowyd canlyniadau adolygu pob risg mewn atodiad i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r polisïau canlynol:-
· Polisi Cyfathrebu · Matrics Llywodraethu
Cymeradwywyd y polisïau hyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Rhagfyr 2019. Mae ail adolygiad blynyddol o'r polisïau wedi'i gynnal ac mae angen i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu gymeradwyo dogfennau sydd wedi'u diweddaru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisïau wedi'u diweddaru, fel y nodir uchod.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNRYCHIOLAETH AELODAU'R CYNLLUN AR Y CYDBWYLLGOR LLYWODRAETHU PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad i gymeradwyo argymhelliad is-gr?p y Cyd-bwyllgor Llywodraethu i benodi:
· Osian Richards o Gronfa Bensiwn Gwynedd fel Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu. · Ian Guy o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe fel Dirprwy Gynrychiolydd Aelodau'r Cynllun ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (bydd yn ofynnol i'r dirprwy fynychu cyfarfodydd yn absenoldeb Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun).
Bydd y penodiad yn effeithiol yn syth ar ôl i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu gymeradwyo'r argymhellion, gyda deiliadaeth o ddwy flynedd. Os bydd yr unigolyn yn peidio â bod yn gynrychiolydd aelodau'r cynllun y bwrdd pensiwn lleol o fewn y cyfnod hwnnw o ddwy flynedd, bydd ei rôl fel cynrychiolydd/dirprwy gynrychiolydd aelodau'r cynllun hefyd yn dod i ben.
Cyfeiriwyd at safon uchel yr ymgeiswyr ar gyfer y swyddi a nodwyd y byddai'r ymgeiswyr llwyddiannus yn ased i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion o ran penodi, fel y nodir uchod.
|
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-
- Daliannau Cyfredol y Gronfa - Cynnydd Lansio'r Gronfa - Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-
• Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang • Cyfran 2 – Ecwiti y DU • Cyfran 3 - Incwm Sefydlog • Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
Mewn ymateb i ymholiad, cynghorwyd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y byddai'n cael y wybodaeth ddiweddaraf dros y 6 mis nesaf, wrth i Dye & Durham fynd ati i gaffael Link.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru gan y Gweithredwr.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AT 31 RHAGFYR 2021 PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr, 2021. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
· Perfformiodd Cyfleoedd Byd-eang 0.71% gros / 0.34% net yn uwch · Perfformiodd Twf Byd-eang 0.01% gros yn fwy / 0.44% net yn is · Perfformiodd Marchnadoedd sy’n Amlygu 0.24% gros / 0.13% net yn uwch · Perfformiodd Cyfleoedd y DU 1.12% gros / 0.68% net yn uwch · Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.06% gros / 0.83% net yn uwch · Perfformiodd Credyd Byd-eang 1.23% gros / 1.06% net yn uwch · Perfformiodd Credyd Aml-Asedau 1.86% gros / 1.43% net yn uwch · Tanberfformiodd ARB 0.73% gros / 1.19% net · Perfformiodd Credyd y DU 0.37% gros / 0.25% net yn uwch
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi Adroddiadau Perfformiad yr Is-gronfeydd, fel y nodir uchod, fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr, 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri i Reolwyr y Gronfa fod dan anfantais mewn trafodaethau gyda benthycwyr er anfantais i'r Gronfa.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adolygiad Benthyca Global Securities ar gyfer y Chwarter sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr, 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Global Securities fel roedd ar 31 Rhagfyr, 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch4 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Ymgysylltu Ch4 2021, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch4 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||
PENODIADAU DYRANNU MARCHNAD BREIFAT WPP Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu adroddiad i benodi'r Dyranwyr Marchnad Breifat ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Ar ôl cwblhau'r broses gaffael, roedd y canlynol wedi cael ei argymell:
· Penodi Cynigydd 8 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Dyrannwr Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Dyled Breifat (Lot 1) yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Contract Dyrannu. · Penodi Cynigydd 7 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Dyrannwr Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Seilwaith (Lot 2) yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Contract Dyrannu. · Penodi Cynigydd 4, 8 ac 13 fel y cynigwyr a ffefrir ar gyfer Dyranwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Seilwaith Penagored (Lot 3) yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a chwblhau'r Contract Dyrannu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo penodiad y Dyrannwr, fel y nodir uchod.
[NODER: Ar yr adeg hon yn ystod y cyfarfod bu'n rhaid i'r Cynghorydd Ted Palmer adael y cyfarfod]
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd yr Is-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd Ch3 2021 ar gyfer is-gronfeydd canlynol Partneriaeth Pensiwn Cymru: · Is-Gronfa Credyd Byd-eang · Is-gronfa Credyd Aml-asedau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd.
|