Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Gwener, 8fed Gorffennaf, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Christopher Weaver yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

Diolchwyd i'r cyn-Gadeirydd am ei holl waith caled a'i gyfraniad i'r Cyd-bwyllgor yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AR GYFER Y FLWYDDYN CALENDR NESAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Ted Palmer yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn galendr nesaf.

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd M. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Abertawe ynghyd â'i wraig.

Y Cynghorydd S. Churchman

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd

Y Cynghorydd P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cynghorydd N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei dad a dwy fodryb yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwent ac yn y broses o ymuno â Chronfa Bensiwn Gwent

Y Cynghorydd M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Mae ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd ac yn y broses o ymuno â Chronfa Bensiwn Clwyd

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

 

[SYLWER: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

5.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a oedd wedi'i gynnal ar 23 Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.

 

6.

DATGANIAD/ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2021/22 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, N. Yeowell ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 y Cyd-bwyllgor y Ffurflen Flynyddol wedi'i harchwilio ar gyfer 2020/21.  Roedd adrannau Datganiadau Cyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Ffurflen Flynyddol wedi'u paratoi gan yr Awdurdod Cynnal yr oedd ei Adain Archwilio Mewnol wedi cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Roedd y Ffurflen Flynyddol hefyd wedi'i harchwilio gan Archwilio Cymru a chyflwynodd Mr Jason Blewitt o Archwilio Cymru y llythyr archwilio i'r Cyd-bwyllgor.

 

Roedd yr Awdurdod Cynnal hefyd wedi paratoi Datganiad Cyfrifon llawn i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021/22. Nid oedd y Datganiad yn ofyniad statudol ac ni fyddai'n cael ei archwilio. Fe'i paratowyd er gwybodaeth yn unig, i gefnogi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1 Derbyn y llythyr gan Archwilio Cymru ynghylch Ffurflen Flynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22;

6.2 Cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol wedi'i Harchwilio ar gyfer 2021/22;

6.3 Nodi'r Datganiad Cyfrifon llawn heb ei Archwilio ar gyfer 2021/22

 

7.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-          Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac

-          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

 

8.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 2 2022 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, C. Weaver, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch2 2022. Yn ystod y chwarter diwethaf, roedd y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad, gan edrych ar ail hanner adran Llywodraethu a Rheoleiddio'r Gofrestr Risg h.y. Risgiau G.7 i G.12. Crynhowyd canlyniadau adolygu pob risg mewn atodiad i'r adroddiad.

 

Argymhellwyd diwygio'r parti cyfrifol yn G9 i gynnwys y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys diwygiad i G9.

 

 

9.

POLISÏAU / CYNLLUNIAU NEWYDD pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, C. Weaver, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar y canlynol:-

 

·         Y Polisi Datgelu Camarfer

·         Cynllun Dilyniant Busnes

 

Mae'r Polisi Datgelu Camarfer wedi'i ddatblygu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru sy'n rhoi arweiniad i bersonél a darparwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru ar sut i godi pryderon os ydynt yn amau camymddwyn gan unrhyw un sy'n gweithredu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru neu ar ei rhan. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n ffurfiol gan y Gweithgor Swyddogion bob tair blynedd.

 

Mae gan bob un o’r wyth Awdurdod Cyfansoddol a darparwyr allanol presennol Partneriaeth Pensiwn Cymru eu polisïau datgelu camarfer eu hunain ar waith.

 

Mae'r Cynllun Dilyniant Busnes wedi'i ddatblygu ac mae'n amlinellu sut y bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn parhau i weithredu yn ystod tarfu heb ei gynllunio yn y gwasanaeth. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r canlynol, fel y nodir uchod:-

 

·         Y Polisi Datgelu Camarfer

·         Y Cynllun Dilyniant Busnes

 

10.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, C. Weaver, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd y chwarter hwn gan y Gweithgor Swyddogion ar y polisïau canlynol:-

 

     -     Polisi Pleidleisio

-          Polisi Gwrthdaro Buddiannau

-          Polisi Risg

-          Polisi Risg Hinsawdd

 

Mewn perthynas â’r Polisi Gwrthdaro Buddiannau, cyfeiriwyd at 16.2 a gofynnwyd i swyddogion a oedd yn angenrheidiol mewn gwirionedd i’r aelodau ddatgan buddiant ym mhob eitem ar yr agenda ac ym mhob cyfarfod ac na ellid gwneud datganiad blynyddol yn lle hynny. Eglurodd Swyddog Monitro'r Cyd-Bwyllgor bod y Côd Ymddygiad yn mynnu bod aelodau'n datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ym mhob cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 

 

10.1 Cymeradwyo'r Polisi Pleidleisio

10.2 Cymeradwyo'r Polisi Gwrthdaro Buddiannau

10.3 Cymeradwyo'r Polisi Risg

10.4 Cymeradwyo Polisi Risg Hinsawdd

10.5 Nodi'r diweddariad cynnydd blynyddol ar Fuddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd

 

11.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, N. Yeowell, S. Churchman, C. Weaver, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-       Daliannau Cyfredol y Gronfa;

-       Cynnydd Lansio'r Gronfa;

-       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

  • Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang
  • Cyfran 2 – Ecwiti y DU
  • Cyfran 3 - Incwm Sefydlog
  • Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

 

12.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, C. Weaver, S. Churchman, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Mawrth, 2022. Rhoddwyd gwybod bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

 

·         Perfformiodd Cyfleoedd Byd-eang 1.12% gros / 0.78% net yn uwch

·         Perfformiodd Twf Byd-eang 0.86% gros / 1.31% net yn is 

·         Perfformiodd Marchnadoedd Datblygol 0.35% gros / 0.58% net yn is

·         Perfformiodd Cyfleoedd y DU 1.85% gros / 2.27% net yn is

·         Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 0.84% gros / 0.61% net yn uwch

·         Perfformiodd Credyd Byd-eang 1.36% gros / 1.19% net yn uwch

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2022:

 

12.1.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang;

12.2.        Cronfa Ecwiti Byd-eang;

12.3.        Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol;

12.4.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU;

12.5.        Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang;

12.6.        Cronfa Credyd Byd-eang;

12.7.        Cronfa Credyd Aml-asedau;

12.8.        Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt;

12.9.        Cronfa Credyd y DU.

 

 

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

14.

IS-GRONFA ECWITI GWEITHREDOL CYNLIADWY

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, C. Weaver, N. Yeowell, S. Churchman, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar strwythur arfaethedig yr Is-Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo strwythur arfaethedig yr is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy, fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

15.

ADOLYGIAD PERTHYNAS A PHERFFORMIAD BETNYCA GWARANNAU BYD-EANG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru drwy ragfarnu trafodaethau.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, C. Weaver, S. Churchman, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am Berthynas Benthyca Gwarannau Byd-eang ac Adolygiad Perfformiad ar gyfer 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Berthynas Benthyca Gwarannau Byd-eang ac Adolygiad Perfformiad

 

 

16.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH1 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, P. Lewis, C. Weaver, S. Churchman, N. Yeowell, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

[NODER:  Yn ystod yr eitem hon bu'n rhaid i'r Cynghorydd N. Yeowell adael y cyfarfod]

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch1 2022.

 

 

17.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. Lewis, C. Weaver, S. Churchman, P. Lewis, M. Norris, ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

[NODER:  Ar ddechrau'r eitem hon bu'n rhaid i'r Cynghorydd Ted Palmer adael y cyfarfod]

 

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd Ch1 2022 mewn perthynas ag is-gronfa Credyd y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer Ch1 2022.