Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone+44 330 336 4321 Passcode: 73005937#. (For call charges contact your service provider)
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Cydbwyllgor Llywodraethu y penodwyd y Cynghorydd Ted Palmer yn lle'r Cynghorydd Aaron Shotton. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Shotton am ei gyfraniad ar ran y Cydbwyllgor Llywodraethu.
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ted Palmer a Mr Dafydd Edwards am eu bod yn absennol, ac roedd Delyth Jones-Thomas yn bresennol fel dirprwy ar ran Mr Edwards. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 GORFFENNAF 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Oherwydd trafferthion technegol, y Cynghorydd Clive Lloyd a gadeiriodd y cyfarfod o'r eitem hon ymlaen.]
Derbyniodd y Cydbwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaed yn y meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
Hysbyswyd y Cydbwyllgor fod y cynnig ynghylch cynrychioli aelodau'r cynllun yn dal yn cael ei ddatblygu ac y byddai'n dod gerbron y Cydbwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad, hysbyswyd y Cydbwyllgor y rhoddid ystyriaeth i lunio holiadur asesu gwybodaeth yn debyg i'r holiadur Gofynion ac Uchelgeisiau oedd wrthi'n cael ei ddrafftio.
Gofynnwyd pa ganran o gyfanswm asedau'r gronfa bensiynau a oedd wedi'i throsglwyddo i Bartneriaeth Pensiynau Cymru. Hysbyswyd y Cydbwyllgor y trosglwyddwyd oddeutu 65% o'r holl asedau a bod y ffigwr yn amrywio o un Gronfa Bensiynau i'r llall.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Awdurdod Lletya. |
|||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Duncan Lowman a Richard Thornton o Link Fund Solutions a Sasha Mandich o Russell Investments yngl?n â chynnydd Partneriaeth Pensiynau Cymru yn y meysydd allweddol canlynol:
- Daliannau Presennol y Gronfa; - Lansio'r Gronfa; - Ymgysylltu Corfforaethol a Rhannu'r Wybodaeth Ddiweddaraf
Hysbyswyd y Cydbwyllgor y penodwyd Richard Thornton yn Bennaeth Rheoli Cysylltiadau gyda Link.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||
ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEHEFIN 2020 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang, y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a Chronfa Cyfleoedd y Deyrnas Gyfunol fel yr oedd hi ar 30 Mehefin 2020.
Nodwyd fod gwerth y tair cronfa ar y farchnad wedi cynyddu yn y tri mis diwethaf. Cynyddodd Cronfa Twf Byd-eang y Bartneriaeth o £1,961,972,648 i £2,373,367,154; cododd Cronfa Cyfleoedd Byd-eang y Bartneriaeth o £1,881,872,223 i £2,230,646,643; ac fe gynyddodd Cronfa Cyfleoedd y Deyrnas Gyfunol o £480,052,962 i £545,585,824. Ers y cychwyn roedd y cronfeydd Twf Byd-eang a Chyfleoedd Byd-eang wedi perfformio 0.42% (gros) yn well na'u meincnodau / (0.01% yn waeth na'u meincnodau) (net), a 0.93% (gros) / 0.57% (net). Perfformiodd Cyfleoedd y Deyrnas Gyfunol 1.11% (gros) / 1.39% (net) yn waeth na'i meincnodau.
Wrth ateb ymholiad yngl?n â phwysoli targedau, hysbyswyd y Cydbwyllgor mai'r pwysoliadau hyn a gytunwyd pan lansiwyd y cronfeydd, ac y gellid eu haddasu yn sgîl trafodaeth a chytundeb drachefn gan y Gweithgor Swyddogion a'r Cydbwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau perfformiad ar gyfer y Gronfa Twf Byd-eang, y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang a Chronfa Cyfleoedd y Deyrnas Gyfunol fel yr oedd hi ar 30 Mehefin 2020. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o'r Ddeddf. |
|||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2020 Cofnodion: Ar sail prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng Nghofnod 7 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i Bartneriaeth Pensiynau Cymru drwy amharu ar drafodaethau.
Bu'r Cydbwyllgor yn ystyried adroddiad ar yr Adolygiad Benthyca Cyfranddaliadau fel yr oedd hi ar 30 Mehefin 2020.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad Benthyca Cyfranddaliadau fel yr oedd hi ar 30 Mehefin 2020. |