Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267 224178
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi ei gynnal ar 22 Medi 2021 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-
- Llywodraethu; - Sefydlu parhaus; - Gwasanaethau gweithredwyr; - Cyfathrebu ac adrodd; - Hyfforddiant a chyfarfodydd; ac - Adnoddau, cyllideb a ffioedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 4 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch4 2021. Nodwyd bod adolygiad wedi'i gynnal yn ystod y chwarter diwethaf o'r risgiau Buddsoddi a Pherfformiad, risgiau I.1 i I.9. Crynhowyd canlyniadau adolygu pob risg mewn atodiad i'r adroddiad.
Mae gan y Gweithgor Swyddogion Is-gr?p Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i berchnogi Cofrestr Risg PPC a'r adolygiad chwarterol o'r ddogfen hon. Cynhelir yr adolygiad nesaf yn Ch1 2022 a bydd yn canolbwyntio ar risgiau G.1 i G.8 yn yr adran Risg Llywodraethu a Rheoleiddio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad |
||||||||||||||||||||||||||
POLISI AIL-GYDBWYSO AC ADDASU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Cyd-bwyllgor bolisi Ailgydbwyso ac Addasu oedd yn nodi dull PPC o ailgydbwyso'r asedau a ddelir o fewn is-gronfeydd y gronfa. Roedd y polisi'n amlinellu'r fframwaith oedd wedi cael ei roi mewn lle i sicrhau bod dyraniadau rheolwr o fewn yr is-gronfeydd yn cael eu monitro a'u hailgydbwyso lle bo'n briodol.
Roedd y polisi'n berthnasol i'r ystod lawn o is-gronfeydd a ddelir dan ymbarél ACS PPC, a oedd yn cwmpasu ecwiti a mandadau incwm sefydlog. Efallai fod gan yr Awdurdodau Cyfansoddol asedau eraill tu allan i PPC ac nid oedd y polisi hwn yn cwmpasu'r asedau hyn. Bwriad polisi ailgydbwyso PPC yw sicrhau bod gan bob buddsoddwr eglurder ynghylch y polisïau ailgydbwyso sydd ar waith.
Bydd y polisi'n cael ei adolygu'n ffurfiol gan y Gweithgor Swyddogion yn flynyddol, ac, os bydd angen, bydd newidiadau i'r polisi yn cael eu cyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Ailgydbwyso ac Addasu.
|
||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.] Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn manylu ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r polisïau canlynol:-
- Polisi Buddsoddi Cyfrifol - Polisi Hyfforddiant
Cymeradwywyd y polisïau hyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi 2019 a mis Rhagfyr 2020 ac roeddent wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru gan y Gweithgor Swyddogion.
O ran y Polisi Buddsoddi Cyfrifol, cyfeiriwyd at bwynt 5 (Gwaharddiadau) a'r datganiad nad yw PCC wedi mabwysiadu polisi o arferion gwaharddol. Gofynnwyd i swyddogion a ddylid newid hyn i ddweud y bydd PCC yn edrych ar arferion gwaharddol yn y dyfodol, gan ei fod wedi'i drafod gan yr awdurdodau cyfansoddol. Y teimlad oedd y dylid cynnwys y bwriad hwn. Cytunodd y cynrychiolydd o Hymans i ymestyn y geiriad i ddweud y bydd y mater yn parhau ar yr agenda.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r polisïau wedi'u diweddaru, fel y nodir uchod, gan gynnwys y newid i'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol fel y nodir uchod.
|
||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:-
- Daliannau Cyfredol y Gronfa - Cynnydd Lansio'r Gronfa - Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol:-
• Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang • Cyfran 2 – Ecwiti DU • Cyfran 3 – Incwm Sefydlog • Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru gan y Gweithredwr.
|
||||||||||||||||||||||||||
ADRIADDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 30 Medi, 2021. Nodwyd bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/tanberfformio yn erbyn eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:
· Tanberfformiodd Cronfa Gredyd y DU 0.28% gros / 0.15% net yn uwch
Cyfeiriwyd at berfformiad eithriadol y gwahanol gronfeydd ers sefydlu'r Bartneriaeth ac at y buddsoddiad cyfrifol a wnaed a diolchwyd i'r buddsoddwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi Adroddiadau Perfformiad yr Is-Gronfeydd, fel y nodir uchod, ar 30 Medi 2021.
|
||||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE JOINT COMMITTEE RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI12>
|
||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEDI 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri i Reolwyr y Gronfa fod dan anfantais mewn trafodaethau gyda benthycwyr er anfantais i'r Gronfa.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adolygiad Benthyca Global Securities ar gyfer Chwarter 3, fel roedd ar 30 Medi 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Global Securities fel roedd ar 30 Medi 2021.
|
||||||||||||||||||||||||||
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH3 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Ymgysylltu Ch3 2021, a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch3 2021.
|
||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD IS-GRONFA PPC Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy roi Rheolwyr y Gronfa dan anfantais yn y trafodaethau.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar yr adolygiad o'r Cronfeydd Ecwiti Twf Byd-eang a Chyfleoedd Byd-eang.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Is-Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
||||||||||||||||||||||||||
CYFLE BUDDSODDI LLEOL Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar gyfle buddsoddi lleol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru.
PENDERFYNWYD cytuno mewn egwyddor i Bartneriaeth Pensiwn Cymru fwrw ymlaen â'r Cyfle Buddsoddi Lleol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn amodol ar gwblhau'r agweddau strwythurol a diwydrwydd dyladwy cyfreithiol.
[NODER: Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod bu'n rhaid i'r Cadeirydd adael, a'r Is- gadeirydd fu'n cadeirio gweddill y cyfarfod.]
|
||||||||||||||||||||||||||
CONTRACT Y GWEITHREDWR Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beri i Reolwyr y Gronfa fod dan anfantais mewn trafodaethau gyda benthycwyr er anfantaisi'r Gronfa.
[NODER: Roedd y Cynghorwyr G. Caron, P. Jenkins, P. Lewis, C. Lloyd, M. Norris, T. Palmer ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnig ymestyn contract y gweithredwr. Roedd adolygiad o'r gweithredwr wedi'i gynnal a'r argymhelliad oedd ymestyn y contract presennol hyd at fis Rhagfyr 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid ymestyn contract y gweithredwr am 2 flynedd arall, fel y nodir yn yr adroddiad.
|