Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Peredur Jenkins, ac roedd y Cynghorydd Stephen Churchman yno ar ei ran.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

G. Caron

 

 

 

S. Churchman

 

P. Lewis

 

C. Lloyd

 

M. Norris

 

T. Palmer

 

E. Williams

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Gwraig yn aelod gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf;

Mab-yng-nghyfraith yn aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

 

Merch a phartner yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 10 Rhagfyr, 2020 gan eu bod yn gywir.

4.

DIWEDDARIAD GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd yn ymwneud â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-          Hyfforddiant a chyfarfodydd; a

-          Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y cyfarfod fod y gwaith ar yr adolygiad o'r contract Gweithredwr wedi dechrau ac y byddai amserlen fanylach yn cael ei darparu yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad gan yr Awdurdod sy'n Lletya.

5.

CYNLLUN BUSNES 2021 - 2024 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2021-2024. Dywedwyd bod y Cynllun Busnes wedi'i ddrafftio yn unol ag Adran 6 o'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau ac y byddai'n cael ei fonitro'n barhaus a'i adolygu a'i gytuno'n ffurfiol bob blwyddyn. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor, byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei anfon at bob Awdurdod Cyfansoddol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig.

 

O ran polisïau Partneriaeth Pensiwn Cymru, gwnaed ymholiad yn awgrymu y gallai Partneriaeth Pensiwn Cymru ystyried mabwysiadu polisi datgelu camarfer. Byddai'r awdurdod cynnal yn trafod hyn gyda Hymans Robertson.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes 2021-24.

6.

CYNLLUN HYFFORDDIANT 2021/22 pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Gynllun Hyfforddi 2021/22. Dywedwyd wrth y cyfarfod y lluniwyd y Cynllun Hyfforddi i ategu hyfforddiant presennol yr Awdurdod Cyfansoddol. Roedd hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwallu anghenion hyfforddi aelodau'r Cydbwyllgor Llywodraethu a Gweithgor Swyddogion, ond gellid hefyd ddiwallu anghenion aelodau'r Pwyllgor Pensiwn a chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiwn.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Cydbwyllgor Llywodraethu y gellid cynnwys hyfforddiant yn ymwneud â chronfeydd eraill CPLlL a chyfleoedd i gydweithio yn flynyddol. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cynllun hyfforddi.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Cynllun Hyfforddi 2021/22.

 

7.

CYNRYCHIOLAETH AELODAU'R CYNLLUN pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar Gynrychiolydd Aelodau'r Cynllun, a oedd yn manylu ar y broses benodi a argymhellir a'r fanyleb person a baratowyd gan y Gweithgor Swyddogion.

 

O ran y broses benodi, argymhellodd yr adroddiad y dylai pob Bwrdd Pensiwn lleol enwebu un cynrychiolydd aelodau'r cynllun a fyddai'n cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn nodi ei rinweddau penodol yn erbyn y fanyleb person. Byddai'r broses benodi yn cael ei chynnal gan is-gr?p Cydbwyllgor Llywodraethu a fyddai'n cyflwyno argymhelliad o ran penodi i'w gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu.

 

Ar ôl i'r fanyleb person a'r broses benodi gael eu cymeradwyo'n ffurfiol, byddai angen diwygio'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau a byddai angen i'r wyth awdurdod cyfansoddol gymeradwyo’r addasiadau.

 

O ran y broses benodi, awgrymwyd y dylai deiliadaeth y penodiad fod yn ddwy flynedd a dylai'r penodiad gynnwys dirprwy gynrychiolydd o Fwrdd Pensiwn gwahanol i Gynrychiolydd Aelod y Cynllun.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar amserlenni, rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod disgwyl i'r broses benodi gymryd rhwng chwech a deuddeg mis gan fod angen cymeradwyaeth Cyngor llawn gan bob awdurdod cyfansoddol ar gyfer newidiadau i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

PENDERFYNWYD

7.1       Gofyn i’r Awdurdodau Cyfansoddol gymeradwyo cynnwys cynrychiolydd cynllun cyfetholedig i’r Cydbwyllgor Llywodraethu;:

7.2      Cymeradwyo’r broses benodi yn amodol ar yr addasiadau canlynol:

a.   Byddai dirprwy gynrychiolydd o Fwrdd Pensiwn gwahanol i   Gynrychiolydd Aelodau'r Cynllun hefyd yn cael ei benodi;

b.   Bydd deiliad y swydd yn cael ei benodi am ddwy flynedd;

7.3       Cymeradwyo'r gwaith o sefydlu is-gr?p penodi sy'n cynnwys y Cadeirydd - y Cynghorydd Glyn Caron, Is-gadeirydd - y Cynghorydd Clive Lloyd a chynrychiolydd y Cydbwyllgor Llywodraethu a enwebwyd ymhellach - y Cynghorydd Ted Palmer;

7.4       Cymeradwyo'r fanyleb person ar gyfer Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun.

8.

COFRESTR RISG CH1 ADOLYGIAD 2021 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Adolygiad Cofrestr Risg Ch1. Rhoddwyd gwybod bod is-gr?p Risg y Gweithgor Swyddogion yn adolygu'r Gofrestr Risg yn chwarterol. Roedd y newidiadau allweddol a nodwyd yn yr adolygiad diweddaraf yn ymwneud yn bennaf ag adran Llywodraethu a Rheoleiddio y Gofrestr.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r diwygiadau i'r Gofrestr Risg.

9.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar yr Adolygiadau Polisi Blynyddol o'r Polisi Cyfathrebu. Rhoddwyd gwybod bod y Polisi Cyfathrebu presennol wedi'i gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2019.

 

Roedd gweithdy cyfathrebu, a fynychwyd gan aelodau’r Cydbwyllgor Llywodraethu a Gweithgor Swyddogion, ym mis Rhagfyr 2020 wedi nodi ‘negeseuon allweddol’ ychwanegol yn ymwneud â natur arloesol a blaengar Partneriaeth Pensiwn Cymru a maint y Gronfa. Roedd y Polisi Cyfathrebu wedi’i ddiweddaru i gynnwys y ‘negeseuon allweddol’ newydd hyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y cyfarfod fod yr is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol yn gweithio ar gyfathrebu yn ymwneud ag ymholiadau newid hinsawdd a bod cynrychiolwyr Cyfeillion y Ddaear wedi cael gwahoddiad i un o gyfarfodydd yr is-gr?p.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Cyfathrebu diweddaredig.

10.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-       Daliadau Cyfredol y Gronfa;

-       Cynnydd Lansio'r Gronfa;

-       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod cyfanswm ffigur Asesiad dan Reolaeth wedi cynyddu i oddeutu £9.3bn ers dyddiad yr adroddiad. O ran Marchnadoedd sy'n Dod i'r Amlwg (Tranche 4), derbyniwyd cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 23 Mawrth 2021 a disgwylid iddo gael ei lansio ym mis Medi/Hydref 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

11.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD AR 31 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor gyflwyniad ar Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2020. Rhoddwyd gwybod bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

·         Perfformiodd Cyfleoedd Byd-eang 1.28% gros / 0.91% net yn uwch;

·         Perfformiodd Twf Byd-eang 2.84% gros / 2.38% net yn uwch;

·         Perfformiodd Cyfleoedd y DU 4.33% gros / 3.90% net yn uwch;

·         Perfformiodd Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.41% gros / 1.32% net yn uwch;

·         Perfformiodd Credyd Byd-eang 0.81% gros / 0.75% net yn uwch;

·         Perfformiodd Credyd Aml-Asedau 3.93% gros / 3.76% net yn uwch;

·         Perfformiodd Bond Elw Absoliwt 0.40% gros / 0.27% net yn uwch;

·         Perfformiodd Credyd y DU 1.24% gros / 1.20% net yn uwch.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2020:

11.1.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang;

11.2.        Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang;

11.3.        Cronfa Ecwiti Cyfleoedd DU;

11.4.        Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang;

11.5.        Cronfa Credyd Byd-eang;

11.6.        Cronfa Credyd Aml-asedau;

11.7.        Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt;

11.8.        Cronfa Credyd y DU.

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

13.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru trwy ragfarnu trafodaethau.

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Fenthyca Gwarantau Byd-eang.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r Adolygiad Benthyca Gwarantau Byd-eang ar 31 Rhagfyr 2020.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau