Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr- Cyngor Abertawe, Guildhall, Abertawe, SA1 4PE.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Graeme Russell, Pennaeth Pensiynau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

2.

Datganiadau o fuddiant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Natur y Buddiant Personol

G. Caron

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen)

S. Churchman

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd;

D. Hughes

Aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd;

P. Lewis

Aelod o Gronfa Powys;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed;

 

Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 7FED TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017 fel rhai cywir.

 

4.

CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar Gerrig Milltir Allweddol a Chynnydd yr is-gronfeydd.

 

Cyflwynodd Ms Jones restr o ddyddiadau posib i'r Pwyllgor ar gyfer Cerrig Milltir Allweddol er mwyn sefydlu is-gronfeydd y Bartneriaeth. Byddai'r cronfeydd hyn yn diwallu anghenion yr awdurdodau sy'n buddsoddi, ac yn eu galluogi i roi eu strategaethau dyrannu asedau amrywiol ar waith. Adroddwyd bod dyddiad i gytuno'r is-gronfa gychwynnol, a glustnodwyd ar gyfer 28 Mawrth 2018, wedi'i ohirio a rhagwelwyd y byddai hyn bellach yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â chymeradwyo prosbectws y gronfa, mewn cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor a drefnir ym mis Mai 2017.  Byddai Link yn parhau i drafod gyda Rheolwyr Buddsoddi a chynigiwyd y byddai'r cais i'r FCA yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Mai 2017, ac y byddai'r Gronfa'n lansio ym mis Medi/Hydref 2018.

 

Dywedodd Ms Jones y byddai Link, ar yr un pryd â'r is-gronfa gychwynnol, yn bwrw ymlaen gydag is-gronfeydd Cyfran 2 a Chyfran 3; y mae'r naill wedi'i glustnodi i lansio ym mis Tachwedd 2018 a'r llall ym mis Chwefror 2019. 

 

Wrth gyfeirio at ei chyflwyniad, soniodd Ms Jones am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bod y cynnig ar gyfer cyflwyno'r gronfa gychwynnol wedi'i ystyried gan Weithgor y Swyddogion (GS) ym mis Chwefror 2018 a chynnig cychwynnol am gronfa Fyd-eang a Rhanbarthol, a dewis ychwanegol hefyd ar gyfer cronfa Fyd Eang yn unig. Ar ôl ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan y GS, cyflwynodd Link bum dewis diwygiedig i'r Gr?p ym mis Mawrth 2018.  Dau gynnig terfynol a drafodwyd gyda Thrysoryddion yr wyth Awdurdod, sef:

 

·         Dewis 1a - dau reolwr presennol ac un rheolwr newydd - Link i benodi rheolwyr (Global Core Fund)

 

·         Dewis 4a, saith rheolwr newydd (pum byd eang a dau ranbarthol) - Russell i gael ei benodi fel prif reolwr y prosbectws a dyrannu gwaith i'r saith rheolwr arall.

 

Awgrymodd Mr Chris Lee, er mwyn cael eglurdeb, y dylai'r ddau gynnig gael eu hystyried fel cynigion Byd-eang Alffa Uchel.

 

Mynegodd Mr Dafydd Edwards fod yr amserlen wreiddiol a gynhyrchodd Link wedi'i diwygio er mwyn sicrhau fod y cynigion yn fwy cynhwysfawr. Byddai hyn yn galluogi i Aelodau'r Pwyllgor a swyddogion gael y wybodaeth berthnasol a chael digonedd o amser i adrodd yn ôl a thrafod y cynigion gyda'u cronfeydd perthnasol.

 

O ran cynnydd arall, soniwyd i'r Pwyllgor fod Link wedi cysylltu â thri rheolwr buddsoddi ynghylch yr is-gronfa a bod cyfarfodydd dygnwch wedi'u trefnu. Yn ogystal, roedd y prosbectws drafft wedi'i gwblhau a'i drosglwyddo i Burges Salmon er mwyn adolygu a chael sylwadau, ac ar ôl cael mewnbwn pellach gan Eversheds, fe gai'r prosbectws ei drafod gan y Pwyllgor.  Yn ogystal, cynhaliodd Link a Russell Investments sesiynau briffio gydag wyth Pwyllgor Cyfansoddol y Gronfa Bensiwn.

 

Wrth gasglu, soniodd Ms Jones wrth y Pwyllgor am gamau nesaf y broses, fel manylwyd yn y cyflwyniad, a rhoddodd gyfle i holi cwestiynau. Yna, diolchodd y Cadeirydd i Ms Jones am fynychu.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYLLIDEB PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd Mr Chris Moore, Swyddog Adran 151 y Pwyllgor, y Pwyllgor o gyllideb Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Dywedodd, gan fod trefniadau Cyfuno megis dechrau, fod y gyllideb wedi'i seilio ar amcangyfrifon gwybodus ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac y gallai'r rhain newid yn dibynnu ar lif gwaith y gronfa a gofynion y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor fod y ffigyrau gwirioneddol a ragwelwyd ar gyfer 2017/18 yn is na rhai blynyddoedd i ddod; roedd hyn oherwydd bod trefniadau partneriaeth yn dal i gael eu datblygu. Mae'r rhan fwyaf o swyddogaethau'r Awdurdod Llwyfannu bellach wedi'u sefydlu ac mae angen gwaith pellach ar ddatblygu'r wefan a strwythur staffio terfynol.  Caiff cost cyllid yr Awdurdod Llwyfannu ei rhannu rhwng yr wyth awdurdod cyfansoddol.

 

O safbwynt Cyllid y Gweithredwr a'r Gwasanaethau Eraill, roedd gwariant gwirioneddol yr elfen hon o'r cyllid yn ddibynnol ar drosglwyddo asedau a ffioedd rheoli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

1.            Nodi'r sefyllfa sydd ohoni gyda chyllideb 2017-18

1.            Cymeradwyo cyllidebau diwygiedig 2018-19 a 2019-20

2.            Cymeradwyo cyllideb 2020-2021.

 

6.

DIWEDDARIAD AWDURDOD CYNNAL pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Anthony Parnell y diweddariad a ganlyn i'r pwyllgor ar gyfrifoldebau'r awdurdod llwyfannu.

 

·         Staffio - penodwyd Prif Swyddog Gwasanaethau Cyllidol, a dechreuodd yn y swydd ym mis Ionawr 2018

·         Cyfathrebu - roedd gwaith wedi dechrau ar Wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru a chafwyd tri dyfynbris gan ddarparwyr meddalwedd a chai hyn ei werthuso'n fuan.  Roedd cylchlythyr dwyieithog yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a byddai'n cael ei gyhoeddi bob deufis, gyda'r rhifyn cyntaf ar gael ym mis Ebrill neu Fai 2018.

·         Llywodraethu - roedd trefniadau'n gweithio'n dda ar hyn o bryd ar lefel y Cyd-bwyllgor a Swyddogion. Roedd Swyddogion o'r awdurdodau cyfansoddol hefyd yn rhan o is-grwpiau, er mwyn cyfrannu at y gwaith trawsnewidiol angenrheidiol ac roedd trafodaethau wedi dechrau gyda Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn pennu a ellid caffael yr holl geisiadau am wybodaeth am y Bartneriaeth Pensiwn gan yr Awdurdod Llwyfannu.

·         Adrodd - roedd trafodaethau cyson yn cael eu cynnal gyda Link a Northern Trust, oedd yn galluogi i Russell Investments gytuno ar ffordd ymlaen wrth adrodd.  Roedd Rheolwyr hefyd yn ymgysylltu â gr?p adrodd CIPFA.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod Llwyfannu yn archwilio a fyddai'n beth da penodi ymgynghorydd annibynnol i'r Pwyllgor.

 

Holwyd a fyddai'r Cydbwyllgor yn trafod buddsoddiadau cyfrifol. Dywedodd Mr Parnell, ar hyn o bryd, fod is-gronfa o fuddsoddi cyfrifol ar draws cronfeydd wedi'i sefydlu a oedd yn cynnwys swyddogion o bob un o'r chwe threfniant cydgyfrannu. Y gobaith oedd y byddai'r broses hon yn arwain at gydsynio ar y ffordd orau i fwrw ymlaen gyda'r buddsoddiadau hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r diweddariad yn cael ei dderbyn.

 

7.

NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

1AF RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod  Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2017 YN UNFRYDOL.

 

7.2

20FED RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL - derbyn cofnodion cyfarfod  Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2017.

 

7.3

26AIN CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL - derbyn cofnodion cyfarfod  Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 26 Chwefror, 2018.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD  SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 - gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

 

9.

CYFLWYNIAD GAN LINK / RUSSELL AR IS-GRONFA ECWITI BYD-EANG

Cofnodion:

Yn dilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 8  uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat ac y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar sail bod y wybodaeth a drafodir yn yr adroddiad yn cynnwys manylion cyfleoedd buddsoddi nad oedd wedi'u trafod yn llwyr na'u hail-negodi eto, ac y byddai datgelu'r cyflwyniad yn niweidio'r trafodaethau ac yn cael effaith ar gostau a dychweliadau'r Cronfeydd.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Peter Hugh Smith - RheolwrGyfarwyddwr Link Asset Services, a Sasha Mandich - Cyfarwyddwr, Russell Investments.

 

Cafwydtrosolwg o weithgaredd, buddsoddiadau ac arbenigedd y ddau gwmni ar lefel byd-eang gan y cynrychiolwyr ynghyd â'r ymdriniaeth i'w defnyddio wrth sefydlu Is-gronfeydd Ecwiti Byd-eang, y proses o benodi is-reolwyr cronfeydd, a'r effaith posib a'r arbedion yn sgil uno cronfeydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r cyflwyniad yn cael ei dderbyn ac y byddai'r cynigion yn cael eu derbyn mewn egwyddor, gydag adroddiad pellach i gael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor Llywodraethu yn y man.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau