Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, - Cyngor Sir Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Cydbwyllgor, y Cynghorydd Mark Norris, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan Nigel Aurelius o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Philip Latham o Gyngor Sir y Fflint.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
(Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).
|
|||||||||||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG MEHEFIN 2018 PDF 168 KB Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod yna un cywiriad i'r cofnodion gan nad oedd y Cynghorydd C. Weaver yn aelod o Gronfa Bensiwn llywodraeth leol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Weaver fod hyn yn gywir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL llofnodi cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mehefin fel rhai cywir, yn amodol ar yr addasiad uchod.
|
|||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar y Prif Gerrig Milltir a'r cynnydd ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Darparodd Ms Jones restr lawn i'r Cydbwyllgor o'r dyddiadau posib ar gyfer y prif gerrig milltir, y cynnydd hyd yn hyn ar Gronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) Tranche 2 (y DU ac Ecwiti Ewropeaidd) a'r camau nesaf.
Dywedodd Ms Jones fod Link ar hyn o bryd yn gweithio trwy'r templedi adrodd a bod y Gweithgor Swyddogion wedi ystyried pecyn sampl ym mis Gorffennaf, gobeithiwyd felly y byddai modd cytuno ar y pecyn cyn hir i fod yn barod ar gyfer lansiad y gronfa gyntaf.
Rhoddodd Ms Jones wybod i'r Cydbwyllgor fod Cytundebau'r Rheolwyr Buddsoddi ar y gweill a gobeithiwyd y byddai'r holl gytundebau wedi cael eu llofnodi erbyn diwedd mis Medi 2018.
O ran yr Is-gronfa Ecwiti Byd-eang, roedd Link yn parhau i dargedu canol mis Tachwedd 2018 ar gyfer lansio'r ddwy gronfa gyntaf a gobeithiwyd y byddai modd llunio cytundeb o fewn Eitem 6 y Rhaglen ar gyfer cronfeydd Tranche 2 - Ecwiti'r DU ac Ewrop, a chymeradwyo ychwanegiadau atodlen 5 i brosbectws y gronfa erbyn 5 Hydref.
O ran Penodi Rheolwyr Trawsffurfio ar gyfer y ddwy gronfa gyntaf (Ecwiti Byd-eang), roedd pob bid wedi'i gyflwyno a'r broses werthuso gychwynnol wedi'i chynnal, roedd y swyddogion wedi'u hadolygu a disgwylid cymeradwyaeth terfynol yn yr wythnos nesaf.
O ran y cynnydd hyd yn hyn, rhoddwyd gwybod i'r Cydbwyllgor:-
· Derbyniwyd cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ar gyfer yr arian cychwynnol ar 24 Gorffennaf; · Cynhaliwyd diwrnod ymgysylltu Rheolwyr Cychwynnol ar 5 Medi gyda'r 3 Rheolwr Twf Byd-eang a'r 3 Rheolwr Cyfleoedd Byd-eang yn mynychu, byddai 4 rheolwr arall yn cyfarfod â'r Cydbwyllgor yn ddiweddarach y bore hwnnw · Roedd trafodaethau ynghylch contractau wedi dechrau gyda Northern Trust ar gyfer y cytundeb adneuo, yn unol â'r adroddiad ac roedd y copi gweithredu i fod i gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn yr wythnos. · Roedd Link wedi adolygu'r cytundeb Gweinyddol ac wedi bwydo sylwadau cychwynnol i Northern Trust. · Roedd llythyrau ymgysylltu yn eu lle ar gyfer ymgynghorwyr Archwilio, Cyfreithiol a Threthi.
O ran Tranche 2, roedd Link wedi ystyried ecwiti'r DU ac Ewrop, ac roedd y cynigion ar gyfer y gronfa wedi cael eu cytuno gydag awdurdodau lleol Caerdydd a Thorfaen, gydag ychwanegiadau atodlen 5 wedi'u cwblhau a'u cyflwyno i'r Swyddogion eu hadolygu ac yna i'w cymeradwyo ar gyfer eu cyflwyno i FCA gyda'r bwriad o'u lansio ganol mis Ionawr 2019. Gobeithiwyd y byddai'r Rheolwyr Trawsnewid yn cael eu penodi erbyn 11 Hydref 2018. Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y cynigion incwm sefydlog a gobeithiwyd y byddant yn cael eu cytuno ym mis Tachwedd 2018 er mwyn i'r gwaith ddechrau ar drydydd cyflwyniad i'r FCA.
Cyfeiriwyd at y prif gerrig milltir a'r dyddiadau yn yr adroddiad, a gofynnwyd am eglurhad o ran y broses o benodi'r Rheolwr Trawsnewid. Dywedodd Swyddog A151 y Cydbwyllgor y byddai angen i bob awdurdod unigol benodi Rheolwr Trawsnewid, a phroses benodi yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'RMATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYD-BWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 - gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN LINK / RUSSELL AR IS-GRONFEYDD ECWITI Y DU A EWROPEAIDD Cofnodion: Yn dilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 5 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat ac y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar sail bod y wybodaeth a drafodir yn yr adroddiad yn cynnwys manylion cyfleoedd buddsoddi nad oedd wedi'u trafod yn llwyr na'u hail-negodi eto, ac y byddai datgelu'r cyflwyniad yn niweidio'r trafodaethau ac yn cael effaith ar gostau a dychweliadau'r Cronfeydd.
Croesawodd y Pwyllgor Peter Hugh Smith
- Rheolwr Gyfarwyddwr
Link Asset Services, a Sasha Mandich - Cyfarwyddwr, Russell
Investments i'r cyfarfod.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar strwythur y ddwy gronfa ecwiti ranbarthol sef UK ac Europe ex-UK, ac ystyriwyd argymhellion ar gyfer y cronfeydd hynny.
Cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau am y cronfeydd, gan gynnwys perfformiad y cronfeydd, arallgyfeirio ffurfiau buddsoddi, sut yr oedd y cyllid yn cael ei rannu rhwng y ddwy is-gronfa, newidiadau/trosiant staff y rheolwr cronfa, a'r broses ar gyfer buddsoddi / tynnu yn ôl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
1. Y byddai'r cyflwyniad yn cael ei nodi.
2. Buddsoddi mewn dwy is-gronfa wahanol i gyflawni arallgyfeirio effeithiol, ac i gyflogi pum rheolwr arbenigol i bob cronfa, sef:-
· UK – Majedie, Lazard Omega, Baillie Gifford, Investec a Liontrust.
· Europe ex-UK - Blackrock, Pzena, Invesco, SW Mitchell a Liontrust.
3. Lleihau costau masnachu trwy ddefnyddio dull 'uwch weithredu', fyddai'n golygu gosod masnachau rheolwyr sy'n gorgyffwrdd yn erbyn ei gilydd yn hytrach na rhoi cyfarwyddyd i bob rheolwr fasnachu ar wahân gyda'u broceriaid eu hunain.
|