Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Nodyn: Moved from the 18th Sept
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod, wrth arfer ei swyddogaethau dewisol, wedi caniatáu i Aelod o'r Cyhoedd (Mr Reed) ofyn y cwestiwn canlynol i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed na fyddai'n cael ei drafod a bod ateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.
“Yng ngoleuni’r ffaith fod maniffesto Plaid Cymru a’r arweinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin o blaid datgarboneiddio Cronfa Bensiwn Dyfed ar frys mewn ymateb i’r Datganiad o Argyfwng Hinsawdd, beth sy’n atal Cronfa Bensiwn Dyfed rhag ymrwymo i ddatganiad o ddatgarboneiddio 100% erbyn 2030 fel rheidrwydd moesol a tharged realistig, yn lle’r targed presennol o 2050?" |
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 19 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion Cyfarfodydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 14 Mai a 24 Gorffennaf 2024 yn cael eu nodi. |
|||||||||||||
ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiadau’r Bwrdd Pensiwn, a gyflwynwyd gan Gadeirydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd a gynhaliwyd ar 14 Mai a 24 Gorffennaf 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiadau Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Mai a 24 Gorffennaf 2024 yn cael eu derbyn. |
|||||||||||||
MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 30 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb a'r Sefyllfa Arian Parod ar 30 Mehefin, 2024 mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
Mewn perthynas ag elfen Monitro'r Gyllideb yr adroddiad, dywedwyd bod tanwariant o £116k ar ddiwedd mis Mehefin o gymharu â'r gyllideb.
Mewn perthynas â gwariant, rhagwelwyd ar hyn o bryd y byddai tanwariant o £642k. Rhagwelwyd tanwariant o £342k yn y pensiynau taladwy a £300k mewn costau rheoli. Nodwyd hefyd, wrth osod y gyllideb, bod lwfans o 0.5% wedi'i gynnwys ar gyfer y cynnydd yn aelodaeth pensiynwyr, fodd bynnag, roedd y cynnydd gwirioneddol hyd at fis Mehefin ychydig yn is. O ran ffioedd, roedd costau'r chwarter cyntaf ychydig yn is na'r hyn a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb
O ran incwm, rhagwelwyd y byddai hynny'n llai na'r gyllideb o £526k. Rhagwelwyd y byddai cyfraniadau £1.9m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd, i'w briodoli'n bennaf i fwy o incwm ychwanegol gan gyflogwyr nag a ragwelwyd wrth osod y gyllideb. Yn ogystal, rhagwelwyd y byddai tâl pensiynadwy gweithwyr ychydig yn uwch nag a ragwelwyd wrth bennu'r gyllideb gan arwain at ragweld cyfraniadau ychwanegol. Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £500k a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £2.9m yn is na'r gyllideb.
Yn gyffredinol, amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gwariant yn £133m a chyfanswm yr incwm yn £133.1m a arweiniodd at amrywiad cadarnhaol o £116k yn erbyn y gyllideb.
Mewn perthynas â sefyllfa arian parod y gronfa, nodwyd bod £5.6m o arian parod yn cael ei gadw gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a'r Sefyllfa Arian Parod.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Cyfeiriwyd at y gwaith a'r cymorth sy'n cael eu darparu i Goleg Sir Benfro, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr a Heddlu Dyfed Powys i ddefnyddio i-connect, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn defnyddio'r cyfleuster. Cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau, oherwydd y cymorth sy'n cael ei roi i'r sefydliadau uchod, a'r adnoddau cyfyngedig, nad oedd y broses o ddefnyddio'r cyfleuster gan y Gwasanaeth Tân wedi dechrau eto. Fodd bynnag, byddai'r cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu cyn gynted ag y byddai'r llwyth gwaith presennol yn caniatáu, ac roedd y sefydliadau a nodir uchod wedi dechrau defnyddio i-connect.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. |
|||||||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y rhestr o doriadau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a nodwyd na fu unrhyw achosion o dderbyn cyfraniadau’n hwyr gan Gyflogwyr ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau fod y sefyllfa a oedd yn cyfeirio at y toriadau blaenorol gan Burry Port Marina Ltd mewn perthynas â thaliadau i'r Gronfa wedi'i datrys gan weinyddwyr y cwmni fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor ar 27 Mawrth 2024 (cofnod 10)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Roedd y gofrestr i’w hystyried yn canolbwyntio ar y 13 o risgiau Cyllido a Buddsoddiadau (a nodir fel rhifau risg F1-F13 yn y gofrestr) a chadarnhawyd yn dilyn adolygiad o’r gofrestr, na fu unrhyw newidiadau i risgiau unigol ers cymeradwyo’r gofrestr yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024.
Cyfeiriwyd at Risgiau F3 a F4 a gwnaed sylw ynghylch yr angen i adolygu'r rheiny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg. |
|||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024-2025. |
|||||||||||||
PENDERFYNIAD Y BWRDD PENSIWN MEWN PERTHYNAS Â CHWMNÏAU GRWP BUTE Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Bwrdd, yng nghyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2024 (gweler y cofnod) wedi ystyried gohebiaeth gan y Cynghorydd A. Lenny yn ymwneud â buddsoddiad Partneriaeth Pensiwn Cymru yng Ngr?p cwmnïau Bute a’i brosiectau ynni Tywi-Wysg a Thywi-Teifi. Ar ôl ystyried yr ohebiaeth honno, roedd y Bwrdd wedi gwneud yr argymhellion a ganlyn i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i’w hystyried:
“Mae Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed yn cytuno i ofyn i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i:
· Archwilio, trafod ac ystyried a oes achos neu gyfle i Gronfa Bensiwn Dyfed neu Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ar wahân neu ar y cyd â'i phartneriaid ariannu, gael rhyddhad o unrhyw drefniant ar gyfer ariannu un neu fwy o'r cwmnïau o fewn Gr?p Bute ac archwilio a allai unrhyw ryddhad o'r fath olygu adennill unrhyw swm a roddwyd hyd yma neu unrhyw ran ohono, neu a allai olygu dal arian yn ôl. · Archwilio a yw Cronfa Bensiwn Dyfed, ac unrhyw un o'i phartneriaid ariannu, yng nghyd-destun unrhyw berthynas gyllido sy'n bodoli, yn gallu ymgysylltu â GGENC/Bute tuag at sicrhau cyfeiriad priodol a hwylus, megis gwerthusiad llawn a phriodol o geblau tanddaearol trwy aredig ar gyfer ceblau. · Gofyn i'r cwmni cyfreithiol Burgess Salmon LLP a Gr?p Bute egluro a yw Burgess Salmon wedi cynorthwyo un neu fwy o'r cwmnïau o fewn Gr?p Bute ar unrhyw adeg. · Dechrau trafodaeth gyda phob un o'r partneriaid cyllido a chyda Gr?p Bute ac Ofgem sy'n berthnasol i faterion i'w harchwilio yn unol â'r penderfyniad hwn.”
Wrth ystyried yr atgyfeiriad, rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r goblygiadau posibl y gallai dargyfeirio cynnar o fuddsoddiad y Gronfa gyda Gr?p Bute eu cael ar y Gronfa mewn perthynas, er enghraifft, â’i rhwymedigaethau cyfreithiol ac unrhyw golledion ymddiriedol ac ar yr angen i'r goblygiadau hynny fod yn destun ymchwiliad llawn a chael eu hadrodd yn ôl i’r pwyllgor i’w hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r atgyfeiriad a bod swyddogion yn paratoi ymateb i'r pwyntiau a godwyd ynddo ac yn adrodd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. |
|||||||||||||
DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i’w hystyried o gyfarfod Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
· Llywodraethu · Gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Is-gronfeydd · Gwasanaethau Gweithredwyr · Buddsoddiadau ac Adrodd · Cyfathrebu a Hyfforddiant · Adnoddau, cyllideb a ffïoedd · Cynllun Hyfforddi
Roedd yr adroddiad yn cynnwys adroddiad y Gweithredwr yn rhoi diweddariad ar y canlynol: · Diweddariadau'r farchnad · Diweddariad Busnes – Goruchwylio Trydydd Partïon Ch1 2024 · Gwerthoedd Is-Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 31 Mawrth 2024 · Cipolwg ar Gronfa Mawrth 2024 – Ecwiti ac Incwm Sefydlog · Lansiadau a Newidiadau'r Gronfa · Diweddariad ac Ymgysylltu Corfforaethol Waystone
Hefyd roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb a sylwadau ynghylch perfformiad buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Ch1 2024 (Ionawr - Mawrth 2024)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghylch y Cyd-bwyllgor Llywodraethu. |
|||||||||||||
DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - 30 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru Buddsoddiadau Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 30 Mehefin 2024 yn manylu ar weithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd a ganlyn yr oedd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt:
Yn ogystal â'r uchod, roedd y diweddariad hefyd yn darparu Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol yn rhifau 1-4 yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru. |
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||||||||
ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 IONAWR 2024 - 31 MAWRTH 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Derbyniodd y Pwyllgor i’w ystyried adroddiad ymgysylltu Robeco ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2024 - 31 Mawrth 2024 a oedd yn darparu ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ystod y chwarter, ynghyd â detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas â Thrawsnewid Cyfiawn mewn Marchnadoedd Datblygol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Ionawr 2024 - 31 Mawrth 2024. |
|||||||||||||
ADOLYGIAD O BERFFORMIAD BENTHYCA GWARANNAU NORTHERN TRUST 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Adolygiad Perfformiad Benthyca Northern Trust Securities 2023-24 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad Adolygiad Perfformiad Benthyca Northern Trust Securities ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-2024. |
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol. |
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024. . |
|||||||||||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2024. |