Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 MEHEFIN 2022 PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 yn gofnod cywir.
|
|
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 3 MAI 2022 PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 3 Mai 2022.
|
|
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 30 MEHEFIN 2022 PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2022/23.Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022, yn rhagweld tanwariant o £3.9m o ran arian parod.
O ran gwariant roedd tanwariant o £612K oherwydd rhagolygon treuliau rheoli is na'r gyllideb.
O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £3.3m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer. Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £107.2m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £111.1m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £3.9m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 hyd at 30 Mehefin 2022.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2022 PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £11.4m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, prisio, datganiadau buddion blynyddol, y gofrestr torri rheolau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-2023 PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
· na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun; · bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau gan nad oedd unrhyw oblygiadau i'r achosion hynny o dorri'r rheolau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor. Roedd y ddogfen wedi'i diwygio er mwyn tynnu sylw at y risgiau fel rhai gweithredol a strategol. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad y gofrestr risg.
|
|
CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022-2023, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer cyfnod 2022-23.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) gan gynnwys yr Is-gronfeydd canlynol:-
· Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang · Cyfran 2 – Ecwiti'r DU · Cyfran 3 – Incwm Sefydlog · Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|
AILSTRWYTHURO ECWITI CAM III PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad Ailstrwythuro Ecwiti Cam III. Yn flaenorol, roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar ailstrwythuro'r portffolio ecwiti ym mis Mawrth a mis Rhagfyr 2021 (gan gynnwys portffolio ecwiti byd-eang BlackRock, pontio buddsoddiadau Twf Byd-eang Baillie Gifford i strategaeth Global Alpha Paris Aligned gan Baillie Gifford, a'r gostyngiad mewn ecwiti i gynyddu dyraniadau i Schroders (Eiddo) a BlackRock (Cronfa Incwm Amgen Strategol).
Nod trydydd cam yr ailstrwythuro ecwiti oedd rhesymoli'r portffolios ecwiti rhanbarthol etifeddiaeth, gan leihau'r ôl troed carbon a pharhau â'r cynnydd ar gyfuno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y dyraniad o 5% o Is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei gymeradwyo.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2022.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022.
|
|
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yn eitem rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2022.
· BlackRock – Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2022 · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch2 2022 · Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Ch2 · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Mehefin 2022 · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru – 30 Mehefin 2022
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|