Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd T.J. Jones

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 8 HYDREF 2021 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 447 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 30 MEDI 2021 pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Medi 2021, yn rhagweld tanwariant o gymharu â chyllideb o £5.1m o ran arian parod. 

 

O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.8m.  Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1%.  Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £246k mewn costau rheoli, gan olygu bod y gwariant yn is na'r gyllideb o £1.56m.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £3.5m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £102.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £107.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £5.1m.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd at 30 Medi 2021

6.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2021 pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â dyfarniad McCloud, dywedodd y Rheolwr Pensiynau y rhagwelwyd y byddai'r feddalwedd sydd ei hangen ar gyfer y cyfleuster lanlwytho yn weithredol erbyn mis Hydref/Tachwedd 2022. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd, hyd yn oed gyda'r feddalwedd newydd, y byddai'n dal yn ofynnol gwneud tua 15-20,000 o gyfrifiadau â llaw

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

8.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-2022 pdf eicon PDF 368 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

 

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Nid oedd adroddiad wedi gorfod cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

9.

COFRESTR RISG 2021-2022 pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. 

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei gymeradwyo.

10.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am y cynnydd diweddaraf o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru, a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:-

 

·       Daliannau Cyfredol y Gronfa

·       Cynnydd Lansio'r Gronfa

·       Cyswllt / Ymgysylltu a Diweddariad Corfforaethol Russell Investments

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â daliannau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa ac ymgysylltu a diweddariad corfforaethol LFS fel a ganlyn:-

 

·       Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

·       Cyfran 2 – Ecwiti'r DU

·       Cyfran 3 – Incwm Sefydlog

·       Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

Yn ogystal, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a luniwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar ei Ôl Troed Carbon a chytunwyd y byddai copi ohono'n cael ei ddarparu i aelodau Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

11.

ATODIAD CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar ddiwygiadau arfaethedig i Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd bod unrhyw newidiadau i'r Cytundeb yn gofyn am gytundeb unfrydol pob un o'r wyth Awdurdod Etholaethol o fewn y Cynllun, a bod Ychwanegiad i ganiatáu i'r newidiadau hynny ddigwydd wedi'i atodi fel Atodlen 1 i'r adroddiad. Roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor ystyried argymell yr Atodiad i gyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 8 Rhagfyr 2021 i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cytundeb cychwynnol wedi'i lunio ar 26 Mehefin 2017 yn unol â gofynion Adrannau 101 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas â ffurfio Cyd-bwyllgor. Gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers y Cytundeb cychwynnol hwnnw, roedd nifer o ddiwygiadau'n cael eu cynnig o fewn yr Atodiad i'r Cyngor eu hystyried. Roedd y prif ddiwygiadau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·       Penodi Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun cyfetholedig nad yw'n pleidleisio i'r Cydbwyllgor Llywodraethu;

·       Penodi 'dyrannwr' ar gyfer is-gronfeydd y farchnad breifat

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ac argymell yr atodiad i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau i'w gymeradwyo i gyfarfod nesaf Cyngor Sir Caerfyrddin  

12.

CYNLLUN HYFFORDDI 2021-2022 pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar ddiwygiadau arfaethedig i Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd bod unrhyw newidiadau i'r Cytundeb yn gofyn am gytundeb unfrydol pob un o'r wyth Awdurdod Etholaethol o fewn y Cynllun, a bod Ychwanegiad i ganiatáu i'r newidiadau hynny ddigwydd wedi'i atodi fel Atodlen 1 i'r adroddiad. Roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor ystyried argymell yr Atodiad i gyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 8 Rhagfyr 2021 i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cytundeb cychwynnol wedi'i lunio ar 26 Mehefin 2017 yn unol â gofynion Adrannau 101 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas â ffurfio Cyd-bwyllgor. Gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers y Cytundeb cychwynnol hwnnw, roedd nifer o ddiwygiadau'n cael eu cynnig o fewn yr Atodiad i'r Cyngor eu hystyried. Roedd y prif ddiwygiadau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·       Penodi Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun cyfetholedig nad yw'n pleidleisio i'r Cydbwyllgor Llywodraethu;

·       Penodi 'dyrannwr' ar gyfer is-gronfeydd y farchnad breifat

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ac argymell yr atodiad i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau i'w gymeradwyo i gyfarfod nesaf Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

13.

DIWEDDARIAD AR ÔL TROED CARBON pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol y Gronfa ar ei Ôl Troed Carbon presennol gan gynnwys manylion mewn perthynas â'r canlynol:

 

·       Y Cyd-destun

·       Cynllun Gweithredu a Chynnydd o ran lleihau ôl troed carbon

·       Camau Nesaf

·       Casgliad

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad diweddaru ar Ôl Troed Carbon.

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021.

17.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Medi 2021.

 

BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2021

Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2021

Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Chwarterol 2021

Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2021

Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau