Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd N. Lewis, a oedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod fel sylwedydd fel aelod dirprwyol y Pwyllgor.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Mr A. Brown*

12.          13. Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol

Mae'n gweithio fel Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ar gyfer MJ Hudson.

*Gwnaeth y datganiad ar ddechrau eitem 13.

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Mawrth 2023 gan eu bod yn gywir. 

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 12 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed oedd wedi ei gynnal ar 12 Ionawr, 2023 yn cael eu derbyn.

5.

CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor i'r cyfarfod Jason Blewitt o Archwilio Cymru a gyflwynodd Gynllun Archwilio Manwl 2023 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi cyfrifoldebau statudol yr archwilydd allanol ac yn cyflawni'r rhwymedigaethau o dan y Côd Ymarfer Archwilio.  Nododd y Cynllun Archwilio y gwaith archwilio sydd i'w wneud i fynd i'r afael â'r risgiau archwilio a nodwyd ynghyd â meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2023. Nododd y ffi archwilio amcangyfrifedig a hefyd rhoddodd fanylion am y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau'r tîm archwilio a'r allbynnau arfaethedig.

 

Wrth ystyried amserlen archwilio'r datganiadau ariannol, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r dyddiad cau oedd wedi'i bennu ar gyfer cymeradwyo cyfrifon wedi'u harchwilio ar gyfer 2022/23 oedd 30 Tachwedd 2023, ond roedd ymrwymiad i osod y dyddiad cau hwnnw'n gynharach yn raddol dros y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn dychwelyd i'r amserlenni cyn y pandemig.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at amcangyfrif o'r ffi archwilio, lle nodwyd bod y cyfraddau ar gyfer 2023-24 wedi cynyddu 4.8% ar gyfer pwysau chwyddiant. Yn ogystal, byddai'r ffi archwilio ariannol yn cynyddu 10.2% ymhellach i ystyried effaith safon archwilio ddiwygiedig ISA 315 ar ddull archwilio ariannol yr Archwilydd Cyffredinol, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Yn hyn o beth, eglurwyd bod y safon ISA 315 ddiwygiedig yn gofyn am archwilwyr â gwell cymysgedd o sgiliau i ymgymryd â'r gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cam cynllunio ac asesu risg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl 2023. 

6.

SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2022-2023 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa derfynol cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23 ar  31  Mawrth 2023 a ddangosodd danwariant o gymharu â'r gyllideb o £7.2m.  Cyfanswm y gwariant oedd £113.2m a chyfanswm yr incwm oedd £120.4m.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn fod y £6.9m o orwariant o ran budd-daliadau sy'n daladwy a throsglwyddiadau o'r gronfa wedi'i briodoli, yn bennaf, i wariant uwch na'r disgwyl o ran cyfandaliadau ar gyfer ymddeoliadau, budd-daliadau marwolaeth a throsglwyddiadau o'r Gronfa. Roedd y gyllideb ar gyfer 2023/24 wedi cynyddu o ran cyfandaliadau a thaliadau grant marwolaeth amcangyfrifedig. Ychwanegodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod amcangyfrifon cyllidebol yn seiliedig ar broffil oedran y gweithlu, ond nid oedd union nifer yr ymddeoledigion ar gyfer y flwyddyn i ddod yn hysbys yng ngham cynllunio'r gyllideb ac yn hyn o beth cydnabuwyd y gallai ffactorau allanol gael effaith sylweddol ar y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad ar Sefyllfa Derfynol Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023.

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Mawrth 2023 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £6.6m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

8.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad McCloud /Sargeant lle nodwyd bod disgwyl i'r rheoliadau gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2023 er mwyn eu gweithredu erbyn 1 Hydref 2023. Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y pwyllgor ynghylch yr amserlenni byr dan sylw, rhoddodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sicrwydd fod gwaith yn mynd rhagddo yn yr Awdurdod i baratoi ar gyfer y rheoliadau newydd, a rhagwelwyd y byddai angen ymyrraeth â llaw hyd nes bod y systemau meddalwedd wedi'u newid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri rheolau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn at achos o dorri amodau y rhoddwyd gwybod amdano yn y cyfarfod diwethaf a chadarnhaodd fod adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â Chyflogwr a oedd wedi methu taliadau'n rheolaidd yn y cyfnod rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023 ac wedi methu â darparu dogfennau.  Adroddwyd bod y Cyflogwr hefyd bellach yn torri'r amodau yn y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2023 a 30 Ebrill 2023 ac amcangyfrifir mai £6,417.36 yw cyfanswm y cyfraniadau sy'n ddyledus i'r Gronfa gan y Cyflogwr erbyn hyn. Yn unol â hynny, roedd yr achos o dorri amodau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2023 a 30 Ebrill 2023 hefyd wedi'i adrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.  Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhawyd bod y Cyflogwr hwn, sef Burry Port Marina Ltd, wedi  mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ers hynny ac roedd yr Awdurdod yn delio â'r cwmni mewn perthynas â materion ehangach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

10.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg, a oedd yn manylu ar yr holl risgiau gweithredol a strategol a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac nad oedd unrhyw newidiadau i risgiau unigol wedi'u nodi ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad y gofrestr risg. 

11.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i'w hystyried am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru fel a ganlyn:

11.1

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN Y CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd adroddiad Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru grynodeb o'r eitemau a ystyriwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023.  Cyfeiriwyd at Gynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2023/24 lle anogwyd aelodau i fynychu'r holl sesiynau hyfforddi sy'n berthnasol i'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn i wneud ymholiadau pellach ynghylch datganiad i'r wasg diweddar mewn perthynas â rhyngweithio Partneriaeth Pensiwn Cymru â chyllid ecwiti preifat.  Gellid darparu seminar ar y mater hwn i'r aelodau os yw'n briodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu. 

11.2

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor adroddiad y gweithredwr a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â'r Is-gronfeydd ynghyd â Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, eglurodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod dyraniadau buddsoddi'r is-gronfa'n seiliedig ar y proffil risg a strwythurau dyrannu asedau y Pwyllgorau Pensiwn priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

12.

CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2023-2024 a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023-24.

 

13.

ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Yn ystod y rhan hon o'r cyfarfod, roedd Mr A. Brown wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon gan adael y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]

 

Yn dilyn canlyniad Prisiad Tair blynedd 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor i ddechrau Adolygiad Dyrannu Asedau Strategol (SAA) o'r portffolio buddsoddi.  Byddai'r adolygiad yn rhoi argymhellion ynghylch lle y gellir gweithredu'r portffolio mor effeithiol â phosibl i gyflawni amcanion a gofynion y Gronfa.

 

Nodwyd bod gan nifer o ymgynghorwyr buddsoddi brofiad sylweddol o ran cynnal yr adolygiad hwn gan gynnwys MJ Hudson (APEX Group), sef Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol y Gronfa, a'i fod wedi cwblhau ymarfer tebyg yn ddiweddar ar gyfer nifer o Gronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol eraill. Ystyriwyd y byddai gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl MJ Hudson o'r Gronfa, ynghyd â'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddai'r adolygiad yn cael ei gynnal yn effeithlon ac i safon uchel.  Pwysleisiwyd hefyd y byddai unrhyw argymhellion yn berthnasol i barodrwydd y Gronfa i dderbyn risg.

 

Adolygodd y Pwyllgor y ffi arfaethedig o £19,750 a ystyriwyd yn gystadleuol o'i gymharu â'r ymgynghorwyr buddsoddi eraill. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai penodi MJ Hudson yn amodol ar awdurdodi eithriad o ran caffael yn unol â gweithdrefnau'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r gwaith a oedd yn gysylltiedig â'r Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol.  

14.

DADANSODDIAD DWYSEDD CARBON pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa i'w hystyried.

 

Dangosodd y diweddariad y Cyfartaledd Pwysedig o ran Dwyster Carbon (WACI) ar gyfer portffolio ecwiti'r Gronfa a dangosodd fod y gronfa wedi lleihau ei hôl troed carbon o waelodlin o 147 WACI ym mis Medi 2020 i 102 WACI ym mis Mawrth 2023.

 

Roedd y gostyngiad sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn adlewyrchu penderfyniadau'r Pwyllgor a wnaed yn 2022/23 i fuddsoddi 5% o ddyraniad i Ecwiti Cynaliadwy Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru (wedi'i ariannu o ecwiti goddefol y DU a Marchnadoedd Datblygol) ac adfer cydbwysedd o £50m o ecwiti goddefol y DU i Gredyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r diweddariad ynghylch Ôl Troed Carbon mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod Eitem 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2023.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLynghylch y canlynol

 

16.1

nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023;

16.2

bod cyfanswm o £100m yn cael ei ymrwymo i Gronfa Seilwaith PPC / GCM, a bydd y £50m cyntaf yn cael ei ariannu gan y portffolio ecwiti Ewrop goddefol yn ôl yr angen, a hynny oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. bod penderfyniad yn cael ei wneud pan fydd angen, sef mis Mawrth 2024 o bosib, ynghylch y ffynhonnell ariannu ar gyfer y £50m nesaf.

 

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod Eitem 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023.

18.

ADRODDIADAU’R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod Eitem 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023. 

 

· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Mawrth 2023;

· Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch1 2023;

· Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch1 2023;

· Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2023;

· Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau