Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mawrth, 28ain Mehefin, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Croesawodd y Cadeirydd aelodau newydd y Pwyllgor i'r cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd D.E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D. Thomas

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd R. James

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 29AIN MAWRTH, 2022 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022, gan eu bod yn gywir.

4.

2022 CYNLLUN ARCHWILIO pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Jason Blewitt o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr adroddiad ar Gynllun Archwilio 2022 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed i'r Pwyllgor.  Roedd y Cynllun yn nodi'r cwmpas arfaethedig, pryd i'w gyflawni, cost a chyfrifoldebau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai Archwilio Cymru oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r adroddiad ar y datganiadau cyfrifyddu a oedd yn cynnwys barn ar eu ‘gwirionedd a thegwch’.  Roedd hyn yn rhoi sicrwydd y byddai'r cyfrifon yn:

·       rhydd rhag camddatganiad, p'un a wedi’i achosi gan dwyll neu wall

·       cydymffurfio â gofynion statudol a gofynion cymwys eraill ac yn

·       cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol ar gyfer cyflwyno a datgelu cyfrifyddu.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffi a oedd wedi cynyddu tua £3,000. Gofynnwyd a oedd y ffi hon yn gystadleuol o gymharu â'r prisiau gan sefydliadau eraill. Cadarnhaodd Archwilio Cymru fod hon yn ffi gystadleuol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio 2022.

5.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 25 IONAWR 2022 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 25 Ionawr, 2022 yn cael eu derbyn. 

6.

SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2021-2022 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa derfynol cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021-22 ar 31 Mawrth 2022 a ddangosodd danwariant o gymharu â'r gyllideb o £6.5m ar eitemau arian parod. 

 

Nodwyd bod treuliau rheoli yn dangos gorwariant o £433k a arweiniodd at wariant o £886k yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd. Cyfanswm y gwariant oedd £105.2m a chyfanswm yr incwm oedd £111.7m.

 

Gofynnwyd a oedd cap ar y cyfandaliad sy'n ddyladwy i aelodau'r gronfa bensiwn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gronfa'n rhan o gynllun buddion diffiniedig ac y byddai buddion yn cael eu talu yn unol â'r rheoliadau.  Dywedwyd bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn pennu'r terfyn ar gyfer y cyfandaliad di-dreth sy'n daladwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Sefyllfa Derfynol y Gyllideb ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022.

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Mis Mawrth, 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.5m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

8.

DIWEDDARIADAU GWEINYDDOL pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.1

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Er budd aelodau newydd y pwyllgor, darparwyd briff ynghylch dyfarniad McCloud. 

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod Gr?p Technegol y DU wedi nodi dirywiad yn lefelau gwasanaeth drwy gronfeydd Pru yn genedlaethol. Codwyd y mater hwn yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol a Bwrdd Cynghori'r Cynllun Cenedlaethol.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at yr argymhelliad i DLUHC ddileu'rrhwystr 75 oed o ran talu grant marwolaeth goroeswr i adlewyrchu newidiadau a wnaed gan gynlluniau eraill yn y sector cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

8.2

CYFATHREBIAD PRU pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ohebiaeth a gafwyd gan Pru mewn perthynas ag oedi gweinyddol ar gyfer cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol Llywodraeth Leol.  Roedd yr ohebiaeth yn cynnwys:

·       Cydnabyddiaeth o'r oedi

·       Disgrifiad o'r problemau

·       Camau a gymerwyd i wella'r gwasanaeth

·       Amserlenni disgwyliedig ar gyfer ailddechrau gwasanaeth arferol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r ohebiaeth â Pru mewn perthynas â'r oedi gweinyddol ar gyfer cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol Llywodraeth Leol.

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-2023 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.  O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                 

Nododd y Pwyllgor fod ychydig o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Nid oedd adroddiad wedi gorfod cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pam nad oedd enwau cwmnïau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, dywedwyd bod hyn o ganlyniad i gyfrinachedd. Pe bai achosion parhaus o dorri amodau, byddent yn cael eu riportio yn unol â hynny. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

10.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Dywedwyd bod y gofrestr risg wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

Nodwyd bod y risgiau wedi'u rhannu rhwng agweddau gweinyddu, buddsoddi a llywodraethu Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

Mewn ymateb i risg CSV400036 (Marchnadoedd ariannol byd-eang yr effeithir arnynt gan yr hinsawdd economaidd, mesurau cyni cenedlaethol/byd-eang a digwyddiadau geowleidyddol) gofynnwyd a ellid darparu adroddiad i'r Pwyllgor ynghylch sefyllfa'r farchnad fyd-eang a'r camau lliniaru sydd ar waith.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai trefniadau'n cael eu gwneud ar y cyd â'r Ymgynghorydd Buddsoddi a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i roi mwy o fanylion am liniaru digwyddiadau'r farchnad fyd-eang yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad am y gofrestr risg.

11.

CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022-2023 i'w hystyried a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi diweddariad y Cynllun Hyfforddi.

12.

DIWEDDARIAD AR ÔL TROED CARBON pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa i'w hystyried.

 

Dangosodd y diweddariad y Cyfartaledd Pwysedig o ran Dwyster Carbon (WACI) ar gyfer portffolio ecwiti'r Gronfa a dangosodd fod y gronfa wedi lleihau ei hôl troed carbon o waelodlin o 147 WACI ym mis Medi 2020 i 127 WACI ym mis Mawrth 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r prif wahaniaeth yn y data rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth oedd y ffaith bod sectorau sy'n ddwys o ran carbon yn perfformio'n dda. Nodwyd nad oedd y data diweddar ynghylch dwyster carbon ar gyfer cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gael eto a bod data Mawrth 2021 wedi'i gynnwys. Rhagwelwyd y byddai rhywfaint o welliant o ran dwyster carbon cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y cyfnod hwnnw.

 

Gofynnwyd i swyddogion pryd y byddai'r gronfa'n cyrraedd y targed carbon niwtral.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd y data wedi'i fodelu mor bell ymlaen â hynny, fodd bynnag, yn fathemategol pe bai gostyngiad blynyddol o 7%, byddai dwyster carbon yn cael ei haneru erbyn 2030 a byddai'r gronfa'n garbon niwtral erbyn 2050.

 

Gofynnwyd a oedd cronfeydd pensiwn eraill yn defnyddio'r un dull ar gyfer mesur data ac a oedd y data hwnnw ar gael i Gronfa Bensiwn Dyfed gymharu ei sefyllfa yn ei erbyn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhai yn defnyddio'r un cyfrifiadau neu gyfrifiadau tebyg ac nad oedd eraill yn defnyddio unrhyw gyfrifiadau.  Nid oedd data cymharol o gronfeydd eraill ar gael ar hyn o bryd oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi gydag agendâu pwyllgorau.  Nodwyd y byddai gofyniad yn y dyfodol am Dasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n gysylltiedig â'r Hinsawdd a byddai hyn yn darparu dull mesur cyson ar draws y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflogi ail ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn newid yn yr hinsawdd, dywedwyd, gan fod 70% o fuddsoddiadau'r Gronfa wedi'u cronni ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru, y byddai'n ddoeth i ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru ddarparu'r adnodd hwn ar draws holl gronfeydd Cymru yn hytrach na chyflogi ymgynghorydd arbenigol ym mhob cronfa. Cadarnhawyd bod adnodd ychwanegol ar Fuddsoddi Cyfrifol wedi'i gynnwys yng nghyllideb Partneriaeth Pensiwn Cymru. Byddai adroddiad cynnydd yn cael ei roi i'r Pwyllgor yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Diweddariad ynghylch Ôl Troed Carbon mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022.

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2022.

16.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2022

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2022.

 

·BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Mawrth 2022;

·Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch1 2022;

·Partners Group – Adroddiad Chwarterol Ch1 2022;

· Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2022;

· Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.