Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 3YDD RHAGFYR 2021 PDF 326 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3 Rhagfyr 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 9 TACHWEDD 2021 PDF 448 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 9 Tachwedd 2021 yn cael eu derbyn.
|
|||||||||||||
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 31 RHAGFYR 2021 PDF 358 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021, yn rhagweld tanwariant o £5.6m o ran arian parod.
O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.8m. Roedd hynny yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd 1%. Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £739k mewn costau rheoli, gan olygu bod y gwariant yn is na'r gyllideb o £1.1m.
O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £4.5m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £103.3m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £108.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £5.6m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb terfynol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
|
|||||||||||||
CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2022 - 2023 PDF 359 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23. Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2022-23 a oedd wedi'i bennu ar £107.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £107.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.
O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £93.9m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 3.1% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2021, ynghyd ag effaith net o 1.9% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.
Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £10.8m, ac o blith hwn roedd £8.5m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi.
Nodwyd yr amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £13.4m i gynnal cyllideb niwtral o ran arian parod fel nad oedd y gronfa'n dal arian parod dros ben y gellid ei fuddsoddi.
Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23.
|
|||||||||||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2021 PDF 351 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Rhagfyr 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £3.7m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 441 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyddiad cau pan fyddai pob gweithiwr yn weithredol ar i-Connect, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod amserlenni'n cael eu pennu gan allu gweithwyr i lunio darn mewn fformat penodol er mwyn llwytho'n uniongyrchol i mewn i'r system bensiynau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 446 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau gan nad oedd unrhyw oblygiadau i'r achosion hynny o dorri'r rheolau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau wedi'u nodi a'u hasesu.
Rhif y risgiau CSV400035 - Coronafeirws – COVID19 a CSV40003 - Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at farchnadoedd ariannol byd-eang yr effeithiwyd arnynt gan yr hinsawdd economaidd, mesurau cyni cenedlaethol/byd-eang a digwyddiadau geowleidyddol.
Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||||||||
DIWEDDARIAD YNGHYLCH BUDDSODDI CYFRIFOL PDF 442 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chynnydd y Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol.
Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu, stiwardiaeth (Ymgysylltu / Cyfathrebu) a'r cynnydd a wnaed hyd yma.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Diweddariad Buddsoddi Cyfrifol mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT PDF 443 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er ystyriaeth, cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o Bolisi Buddsoddiad Cyfrifol Cronfa Bensiwn Dyfed.
Roedd y Polisi yn cynnwys yr eitemau canlynol:
Mewn ymateb i gais i gyfeirio at fuddsoddiad moesegol yn ogystal â buddsoddiad cyfrifol, dywedwyd bod hyn wedi'i awgrymu ond y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys buddsoddiadau moesegol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cynllun Pensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||
CYNLLUN BUSNES 2022-2023 PDF 352 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2022-2023 yn manylu ar sut y byddai'r Gronfa yn cyflawni ei nodau ac yn nodi'r cynlluniau o safbwynt marchnata, ariannol a gweithredol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-23.
|
|||||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 PDF 428 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022-2023, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2022-23.
|
|||||||||||||
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2022-2025 PDF 444 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2022-2025, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-25.
|
|||||||||||||
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR PDF 474 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Pwyllgor i'r cyfarfod Eamonn Gough, Peter Ritchie, Helena Hui Ravanas, Jim Leggate, Taran Paik a Paddy Bortoli, o Link a Russell a chafodd adroddiad diweddaru ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ar gerrig milltir a chynnydd yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â'r Protocol Ymgysylltu a dyddiadau'r cyfarfodydd allweddol:-
· Cyfran 3 – Incwm Sefydlog · Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
Nododd y Pwyllgor fod yr ecwiti Twf Byd-eang presennol yn dod i gyfanswm o £3.47b a'r Gronfa Gredyd Byd-eang yn £810m.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021.
|
|||||||||||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2021.
· BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021 · Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2021 · Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Hydref i Ragfyr 2021 · Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2021 · Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2021
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|