Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mawrth, 29ain Mawrth, 2022 10.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd D.E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.M. Cundy

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd T.J. Jones

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 3YDD RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3 Rhagfyr 2021 gan eu bod yn gywir.

 

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 9 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 9 Tachwedd 2021 yn cael eu derbyn. 

 

5.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 31 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2021/22.  Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021, yn rhagweld tanwariant o £5.6m o ran arian parod. 

 

O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.8m.  Roedd hynny yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd 1%. Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £739k mewn costau rheoli, gan olygu bod y gwariant yn is na'r gyllideb o £1.1m.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £4.5m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £103.3m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £108.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £5.6m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb terfynol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Rhagfyr 2021.

 

6.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2022 - 2023 pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23.  Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2022-23 a oedd wedi'i bennu ar £107.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £107.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £93.9m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 3.1% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2021, ynghyd ag effaith net o 1.9% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.

 

Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £10.8m, ac o blith hwn roedd £8.5m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi. 

 

Nodwyd yr amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £13.4m i gynnal cyllideb niwtral o ran arian parod fel nad oedd y gronfa'n dal arian parod dros ben y gellid ei fuddsoddi.

 

Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod  wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2022-23.

 

 

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Rhagfyr 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £3.7m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 441 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyddiad cau pan fyddai pob gweithiwr yn weithredol ar i-Connect, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod amserlenni'n cael eu pennu gan allu gweithwyr i lunio darn mewn fformat penodol er mwyn llwytho'n uniongyrchol i mewn i'r system bensiynau. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

9.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

  • na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;
  • bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau gan nad oedd unrhyw oblygiadau i'r achosion hynny o dorri'r rheolau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

10.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 445 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau wedi'u nodi a'u hasesu. 

 

Rhif y risgiau CSV400035 - Coronafeirws COVID19 a CSV40003 -  Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at farchnadoedd ariannol byd-eang yr effeithiwyd arnynt gan yr hinsawdd economaidd, mesurau cyni cenedlaethol/byd-eang a digwyddiadau geowleidyddol.

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

DIWEDDARIAD YNGHYLCH BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chynnydd y Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol.

 

Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu, stiwardiaeth (Ymgysylltu / Cyfathrebu) a'r cynnydd a wnaed hyd yma.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Diweddariad Buddsoddi Cyfrifol mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

12.

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT pdf eicon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er ystyriaeth, cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o Bolisi Buddsoddiad Cyfrifol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Roedd y Polisi yn cynnwys yr eitemau canlynol:

  • Cyflwyniad
  • Buddsoddi Cyfrifol
  • Credoau Buddsoddi
  • Rôl y Bwrdd Pensiwn
  • Rhoi Benthyg Stoc
  • Ymgysylltu
  • Newid yn yr Hinsawdd
  • Hawliau Dynol

 

Mewn ymateb i gais i gyfeirio at fuddsoddiad moesegol yn ogystal â buddsoddiad cyfrifol, dywedwyd bod hyn wedi'i awgrymu ond y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys buddsoddiadau moesegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol Drafft Cynllun Pensiwn Dyfed.

 

13.

CYNLLUN BUSNES 2022-2023 pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2022-2023 yn manylu ar sut y byddai'r Gronfa yn cyflawni ei nodau ac yn nodi'r cynlluniau o safbwynt marchnata, ariannol a gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-23.

 

14.

CYNLLUN HYFFORDDI 2022-2023 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2022-2023, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer y cyfnod 2022-23.

 

15.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2022-2025 pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2022-2025, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-25.

 

16.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor i'r cyfarfod Eamonn Gough, Peter Ritchie, Helena Hui Ravanas, Jim Leggate, Taran Paik a Paddy Bortoli, o Link a Russell a chafodd adroddiad diweddaru ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ar gerrig milltir a chynnydd yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â'r Protocol Ymgysylltu a dyddiadau'r cyfarfodydd allweddol:-

 

  • Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang
  • Cyfran 2 – Ecwiti'r DU

·         Cyfran 3 – Incwm Sefydlog

·         Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ecwiti Twf Byd-eang presennol yn dod i gyfanswm o £3.47b a'r Gronfa Gredyd Byd-eang yn £810m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

17.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

18.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021.

 

19.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021.

 

20.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2021.

 

·         BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2021

·         Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2021

·         Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Hydref i Ragfyr 2021

·         Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2021

·         Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.