Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 8 HYDREF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Medi 2021, yn rhagweld tanwariant o gymharu â chyllideb o £5.1m o ran arian parod.
O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.8m. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1%. Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £246k mewn costau rheoli, gan olygu bod y gwariant yn is na'r gyllideb o £1.56m.
O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £3.5m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.
Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £102.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £107.9m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £5.1m.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd at 30 Medi 2021 |
||||||||||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed. |
||||||||||
ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.
Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â dyfarniad McCloud, dywedodd y Rheolwr Pensiynau y rhagwelwyd y byddai'r feddalwedd sydd ei hangen ar gyfer y cyfleuster lanlwytho yn weithredol erbyn mis Hydref/Tachwedd 2022. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd, hyd yn oed gyda'r feddalwedd newydd, y byddai'n dal yn ofynnol gwneud tua 15-20,000 o gyfrifiadau â llaw
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
||||||||||
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.
Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
· na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;
· bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Nid oedd adroddiad wedi gorfod cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. |
||||||||||
COFRESTR RISG 2021-2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei gymeradwyo. |
||||||||||
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad am y cynnydd diweddaraf o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru, a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:-
· Daliannau Cyfredol y Gronfa · Cynnydd Lansio'r Gronfa · Cyswllt / Ymgysylltu a Diweddariad Corfforaethol Russell Investments
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â daliannau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa ac ymgysylltu a diweddariad corfforaethol LFS fel a ganlyn:-
· Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang · Cyfran 2 – Ecwiti'r DU · Cyfran 3 – Incwm Sefydlog · Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol
Yn ogystal, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.
Cyfeiriwyd at adroddiad a luniwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar ei Ôl Troed Carbon a chytunwyd y byddai copi ohono'n cael ei ddarparu i aelodau Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. |
||||||||||
ATODIAD CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar ddiwygiadau arfaethedig i Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd bod unrhyw newidiadau i'r Cytundeb yn gofyn am gytundeb unfrydol pob un o'r wyth Awdurdod Etholaethol o fewn y Cynllun, a bod Ychwanegiad i ganiatáu i'r newidiadau hynny ddigwydd wedi'i atodi fel Atodlen 1 i'r adroddiad. Roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor ystyried argymell yr Atodiad i gyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 8 Rhagfyr 2021 i'w gymeradwyo'n ffurfiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cytundeb cychwynnol wedi'i lunio ar 26 Mehefin 2017 yn unol â gofynion Adrannau 101 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas â ffurfio Cyd-bwyllgor. Gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers y Cytundeb cychwynnol hwnnw, roedd nifer o ddiwygiadau'n cael eu cynnig o fewn yr Atodiad i'r Cyngor eu hystyried. Roedd y prif ddiwygiadau'n ymwneud â'r canlynol:
· Penodi Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun cyfetholedig nad yw'n pleidleisio i'r Cydbwyllgor Llywodraethu; · Penodi 'dyrannwr' ar gyfer is-gronfeydd y farchnad breifat
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ac argymell yr atodiad i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau i'w gymeradwyo i gyfarfod nesaf Cyngor Sir Caerfyrddin |
||||||||||
CYNLLUN HYFFORDDI 2021-2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar ddiwygiadau arfaethedig i Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd bod unrhyw newidiadau i'r Cytundeb yn gofyn am gytundeb unfrydol pob un o'r wyth Awdurdod Etholaethol o fewn y Cynllun, a bod Ychwanegiad i ganiatáu i'r newidiadau hynny ddigwydd wedi'i atodi fel Atodlen 1 i'r adroddiad. Roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor ystyried argymell yr Atodiad i gyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 8 Rhagfyr 2021 i'w gymeradwyo'n ffurfiol.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cytundeb cychwynnol wedi'i lunio ar 26 Mehefin 2017 yn unol â gofynion Adrannau 101 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas â ffurfio Cyd-bwyllgor. Gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers y Cytundeb cychwynnol hwnnw, roedd nifer o ddiwygiadau'n cael eu cynnig o fewn yr Atodiad i'r Cyngor eu hystyried. Roedd y prif ddiwygiadau'n ymwneud â'r canlynol:
· Penodi Cynrychiolydd Aelodau'r Cynllun cyfetholedig nad yw'n pleidleisio i'r Cydbwyllgor Llywodraethu; · Penodi 'dyrannwr' ar gyfer is-gronfeydd y farchnad breifat
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ac argymell yr atodiad i'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau i'w gymeradwyo i gyfarfod nesaf Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
||||||||||
DIWEDDARIAD AR ÔL TROED CARBON Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol y Gronfa ar ei Ôl Troed Carbon presennol gan gynnwys manylion mewn perthynas â'r canlynol:
· Y Cyd-destun · Cynllun Gweithredu a Chynnydd o ran lleihau ôl troed carbon · Camau Nesaf · Casgliad
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad diweddaru ar Ôl Troed Carbon. |
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021. |
||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2021. |
||||||||||
ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Medi 2021.
BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2021 Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2021 Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Chwarterol 2021 Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2021 Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2021
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. |