Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T. J. Jones.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIDADAU ARIANNOL 2020-21 pdf eicon PDF 430 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Pwyllgor Anwen Worthy o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol oedd yn gyfrifol am roi barn ynghylch a oedd datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2021, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a byddai'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystyried yr adroddiad terfynol maes o law.

 

Dymunai'r Pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i Archwilio Cymru am wneud yr Archwiliad ac i'r Adran Bensiynau am ei holl waith caled mewn archwiliad llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2020–21 (ISA260).

 

 

5.

DATGANIAD CYFRIFON 2020-21 pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2020-21 a oedd yn darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad a hyblygrwydd ariannol y Gronfa am y flwyddyn 2020-21.

 

Roedd y cyfrifon yn cyflwyno canlyniadau'r stiwardiaeth rheoli, hynny yw, atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt, a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y prif gyfrifon a'r adroddiadau oedd yn y Datganiad o Gyfrifon fel a ganlyn:

 

·       Cyfrif y Gronfa.

·       Y Datganiad Asedau Net.

·       Y Datganiad gan yr Actiwari Ymgynghori

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Datganiad o Gyfrifon ar gael i'w weld ar y wefan maes o law, yn dilyn ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad o Gyfrifon 2020-21.

 

 

6.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 16 EBRILL 2021 pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 16 Ebrill, 2021 yn cael eu derbyn. 

 

 

7.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2021 - 31 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, yn rhagweld tanwariant o £2m o ran arian parod. 

 

O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.2m.  Roedd hynny'n bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1.75%.  Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £317k.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn dangos cynnydd o £536k, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £102.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £104.8m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £2m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2021 tan 30 Mehefin 2021.

 

 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 30 Mehefin, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £11m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

9.

DATGANIAD STRATEGAETH FUDDSODDI DDRAFFT 2021 pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynai'r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft ar gyfer 2021 i'w gymeradwyo. Mae Datganiad Cronfa Bensiwn Dyfed, sy'n ofynnol o dan reoliad 7 o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi mewn Cronfeydd) 2016, yn nodi strategaeth fuddsoddi gyfredol y Gronfa, yn darparu tryloywder mewn perthynas â sut y caiff buddsoddiadau'r Gronfa eu rheoli, ac yn gweithredu fel cofrestr risg lefel uchel, ac roedd wedi'i dylunio i fod ddefnyddiol i'r holl randdeiliaid.

 

Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn braf nodi'r adran ar newid yn yr hinsawdd, lle'r oedd y gronfa'n cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â'r risgiau ariannol oedd yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd drwy ei strategaeth fuddsoddi.  Yn ogystal, roedd Cronfa Bensiwn Dyfed hefyd yn ystyried polisïau Buddsoddiad Cyfrifol a Risg Hinsawdd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Cyfeiriwyd at e-bost diweddar gan Divest Dyfed ynghylch rhoi'r gorau'n syth i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Dywedwyd mai ymgysylltu â chwmnïau oedd blaenoriaeth y Gronfa ar hyn o bryd, a sicrhau llwybr cytbwys a gwybodus o ran unrhyw fwriad i roi'r gorau i fuddsoddi yn yr asedau hyn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gyda Divest Dyfed mewn ymateb i'r e-bost. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021 yn llwyddiannus a bod adborth cadarnhaol wedi dod i law gan y cyflogwyr oedd yn bresennol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Ddrafft 2021.

 

 

10.

DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynai'r Datganiad Strategaeth Gyllido i'w gymeradwyo. 

 

Dywedwyd bod y Datganiad wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu hyblygrwydd newydd y cyflogwr o ran Trefniadau Gwasgaru Dyledion a Chytundebau Dyledion Gohiriedig.

 

Mae'r Datganiad Strategaeth Gyllido yn nodi strategaeth gyllido eglur a thryloyw a oedd yn nodi sut y bydd rhwymedigaethau pensiwn pob un o gyflogwyr y Gronfa yn cael eu bodloni yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Datganiad Strategaeth Gyllido diweddaraf.

 

 

11.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol,  cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau,
i-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith. 

 

Nododd y Pwyllgor fod Adapt wedi dod yn gyflogwr cynllun ar 11 Mehefin 2021 yn dilyn trosglwyddo staff TUPE a bod bond ar waith ar gyfer rhwymedigaethau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiwn mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

12.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2021-2022 pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

 

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod ambell achos wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Nid oedd adroddiad wedi gorfod cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

13.

COFRESTR RISG 2021-2022 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Dywedwyd bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu ac na fu unrhyw newidiadau ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. 

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021/2022 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

14.

DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am y cynnydd diweddaraf o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru, a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:-

 

·       Daliannau Cyfredol y Gronfa

·       Cynnydd Lansio'r Gronfa

·       Link / Russell Investments - Diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cerrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â daliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa, a diweddariad corfforaethol ac ymgysylltu LFS fel a ganlyn:-

 

·       Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

·       Cyfran 2 – Ecwiti DU

·       Cyfran 3 – Incwm Sefydlog

·       Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

Yn ogystal, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r diweddariad Corfforaethol ac Ymgysylltu, gan gynnwys y protocol ymgysylltu ac unrhyw ddyddiadau cyfarfodydd allweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Diweddaru'r Gweithredwr a nodi cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.


 

 

15.

CYNLLUN HYFFORDDI 2021-2022 pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad am Gynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-2022, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi diweddariad Cynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

 

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

 

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEHEFIN 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin, 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.

 

 

18.

AILSTRWYTHURO ECWITI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gam II Ailstrwythuro Ecwiti a ddarparodd gynigion ynghylch ail gam cam camau gweithredu arfaethedig y Gronfa gyda'r nod o leihau ôl troed carbon a gwella'r llif arian a gynhyrchir o'r portffolio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cynigion, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad Cam II Ailstrwythuro Ecwiti, yn cael eu cymeradwyo.

 

 

19.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021.

 

 

 

20.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEHEFIN 2021

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2021.

 

BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Mehefin 2021

Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch2 2021

Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Mehefin 2021

Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021

Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Mehefin 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau