Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T.J. Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11EG IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

 

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 458 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2020. 

 

5.

CYNLLUN ARCHWILIO 2021 pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Kate Havard o Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr adroddiad ar Gynllun Archwilio 2021 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed i'r Pwyllgor.  Roedd y Cynllun yn nodi'r cwmpas arfaethedig, pryd i'w gyflawni, cost a chyfrifoldebau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai Archwilio Cymru oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r adroddiad ar y datganiadau cyfrifyddu a oedd yn cynnwys barn ar eu ‘gwirionedd a thegwch’.  Roedd hyn yn rhoi sicrwydd y byddai'r cyfrifon yn:

·         rhydd rhag camddatganiad, p'un a wedi’i achosi gan dwyll neu wall

·         cydymffurfio â gofynion statudol a gofynion cymwys eraill a

·         cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol ar gyfer cyflwyno a datgelu cyfrifyddu.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y risgiau archwilio ariannol a byddai disgwyl iddynt gael eu nodi a'u rheoli fel rheol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio 2021.

 

6.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 31 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, yn rhagweld tanwariant o £1.1m o ran arian parod. 

 

O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.2m.  Roedd hynny yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1.5%.  Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £416k.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn dangos cynnydd o £2.5m, yn bennaf oherwydd Trosglwyddiadau i'r cynllun ac Incwm Buddsoddi yn fwy na'r swm o £ 1.2m a £ 1.1m a gyllidwyd yn y drefn honno.

 

Amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gwariant yn £99.5m ac amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr incwm yn £103.6m sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £4.1m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill, 2020 i 31 Rhagfyr, 2020.

 

7.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2021 - 2022 pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021/22.  Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2021/22 a oedd wedi'i bennu ar £104.3m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £104.3m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £92.4m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 0.5% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2020, ynghyd ag effaith net o 3% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.

 

Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £8.8m, ac o blith hwn roedd £6.9m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi. 

 

Amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £12.3m er mwyn cynnal cyllideb niwtral yn ariannol a sicrhau nad oedd y gronfa yn cadw arian dros ben y byddai modd ei fuddsoddi.

 

Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod  wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021/22.

 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Ionawr, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £14m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

9.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 441 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, dod â chyflogaeth cyflogwr i ben, y gofrestr torri amodau, i-Connect, adroddiadau Ansawdd Data, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiwn mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

10.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-2021 pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau lle roedd achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                     

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Roedd y rheini bellach wedi dod i law felly nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

11.

COFRESTR RISG 2021-2022 pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn rhoi sylw i'r holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Rhoddwyd gwybod bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau wedi cael eu nodi a'u hasesu. 

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022.

 

12.

POLISI LLYWODRAETHU A DATGANIAD CYDYMFFURFIO 2021 pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Polisi Llywodraethu a'r Datganiad Cydymffurfiaeth diwygiedig i'w ystyried.

 

 Cynhaliwyd adolygiad ar Bolisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfiaeth  Cronfa Bensiwn Dyfed. Roedd y Polisi Llywodraethu yn rhoi sylw i'r trefniadau yn ymwneud â:

·         Llywodraethu'r Gronfa

·         Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Pensiwn

·         Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol

·         Cyfarfodydd y Pwyllgor

·         Y Cyfarfod Ymgynghori Blynyddol

·         Y Bwrdd Pensiwn

 

Roedd y Datganiad Cydymffurfiaeth yn nodi cydymffurfiad y Gronfa ag egwyddorion arfer gorau  mewn perthynas â strwythur, cynrychiolaeth, dewis, pleidleisio, hyfforddiant, cyfarfodydd, mynediad, cwmpas a chyhoeddusrwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfiaeth 2021.

 

13.

CYNLLUN BUSNES 2021-2022 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2021-2022, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021/22.

 

14.

CYNLLUN HYFFORDDI 2021-2022 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-2022, i'w ystyried, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-22.

 

15.

PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU (PPC) DDIWEDDARAF GAN LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 473 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Richard Thornton, Adrian Quinn a Gerard Fitzpatrick o Link and Russell i'r cyfarfod a chawsant adroddiad diweddaru ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), ar gerrig milltir a chynnydd yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â'r Protocol Ymgysylltu a'r dyddiadau cyfarfod allweddol: -

 

·         Tranche 3 - Incwm Sefydlog

·         Tranche 4 – Marchnadoedd Datblygol

·         Tranche 5 – Datblygu Strategaeth Marchnadoedd Preifat

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ecwiti Twf Byd-eang presennol yn gyfanswm o £2.89b a bod cyfanswm y Gronfa Credyd Byd-eang yn £796m.    

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad gan Link and Russell ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

17.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

[SYLWER: Am 4.55pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio y rheolau sefydlog er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r materion a oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn unol â Rheol 2(3) o Weithdrefn y Cyngor, ei fod yn mynd i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn i'r adroddiadau a gyflwynwyd gan fynychwyr allanol gael eu hystyried yn gynt yn y cyfarfod.

 

18.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

19.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2020.

 

·         BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2020

·         Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2020

·         Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Hydref i Ragfyr 2020

·         Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2020

·         Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2020

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

20.

BRIFF Y RHEOLWR BUDDSODDI - BLACKROCK

Cofnodion:

[SYLWER: Am 4.05 pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Gweithdrefn y Cyngor 8 - Cworwm gan nad oedd y cyfarfod yn gworwm mwyach. Gohiriwyd y cyfarfod ar unwaith ac fe'i hailgychwynnwyd ar ôl egwyl o 5 munud pan oedd holl aelodau'r Pwyllgor yn bresennol.

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gavin Lewis, David Wright a

Vikram Bhandari o BlackRock i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw priodol i adroddiad Briffio’r Rheolwr Buddsoddi - BlackRock ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, a ddarparodd ddiweddariad ynghylch portffolio, buddsoddiad sydd ar y gweill, buddsoddi cynaliadwy a diweddariadau ynghylch daliadau portffolio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Briffio'r Rheolwr Buddsoddi - BlackRock ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

21.

DADANSODDIAD CYN-BONTIO O RAN AILSTRWYTHURO ECWITI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Croesawodd y Pwyllgor Andrew Williams a William Summerfield o Mercer i'r cyfarfod, a gyflwynodd yr adroddiad.  Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad y Dadansoddiad Cyn-trosglwyddo ar gyfer Ailstrwythuro Ecwiti Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn darparu gwybodaeth am ddull trosglwyddo a dadansoddi portffolio, amserlen trafodion, meincnod trosglwyddo a strategaeth fasnachu a dadansoddiad cost a risg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Dadansoddiad Cyn-trosglwyddo o ran Ailstrwythuro Ecwiti ar gyfer yr adroddiad Ailstrwythuro Ecwiti ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau